Mae tîm Gwasanaethau’r We yn y Brifysgol yn ymgorffori amrywiaeth eang o brofiad ac arbenigedd, gan ganiatáu rheoli presenoldeb cyhoeddus y Brifysgol ar y we a gwefannau cysylltiedig eraill yn llwyddiannus.
Mae'r tîm yn medru darparu gwasanaethau a all hyrwyddo'r Brifysgol ar-lein, gan gynnwys “microwefannau” ar y prif safle neu greu a rheoli rhai unigol ar gyfer anghenion penodol eraill.
Gall presenoldeb datblygedig ar y we:
- Hyrwyddo gwasanaethau a digwyddiadau’r Brifysgo
- Cynyddu traffig defnyddwyr sy’n ymweld â’r cynnwys a deunyddiau amlgyfrwng
- Gwella hygyrchedd a safonau gwybodaeth.
Tîm Gwasanaethau Gwe
Mae'r tîm Gwasanaethau Gwe yn cynnwys yr aelodau staff canlynol:
Clive Jones
Rheolwr Gwasanaethau Gwe
E-bost: clive.jones@uwtsd.ac.uk
Fiona McLellan
Swyddog Cynnwys y We
E-bost: f.mclellan@uwtsd.ac.uk
Huw Smith
Swyddog Datblygu'r We Uwch
E-bost: huw.smith@uwtsd.ac.uk
Rachel Davies
Cynorthwy-ydd Datblygu'r We
E-bost: r.davies@uwtsd.ac.uk
Rheoli’r We
Mae tîm Gwasanaethau’r We’n rheoli ac yn datblygu System Rheoli Cynnwys y Brifysgol (Terminalfour) a gwefannau cysylltiedig (WordPress), gan sicrhau llywodraethu’r gwefannau, eu hygyrchedd a’u hansawdd, a’u cynnal i safon uchel. Mae'r tîm hefyd yn darparu gwasanaethau datblygu gwefannau yn cynnwys dylunio, creu cynnwys, ffurflenni gwe, chwilio, profiad defnyddwyr (UX), a datblygiad technegol.
Er mwyn sicrhau bod y gwefannau a’u cynnwys yn cynnal uniondeb ac yn derbyn traffig defnyddwyr, mae'r tîm yn defnyddio adroddiadau Google Analytics ar y defnydd o wefannau, ac offer dadansoddol eraill, yn rheolaidd.
Hyfforddiant a Chymorth
Mae tîm Gwasanaethau’r We’n darparu hyfforddiant ynghylch Rheoli Cynnwys y We i ddefnyddwyr CMS TerminalFOUR (WCMS). Darperir cyngor ac arweiniad ar ddylunio profiad defnyddwyr ac optimeiddio peiriannau chwilio (SEO), er mwyn sicrhau y cydymffurfir ag arfer gorau.
Gellir darparu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer:
- Creu Machform (System ffurflenni ar-lein)
- Campaign Monitor (Meddalwedd Marchnata drwy E-bost)
- Hygyrchedd i'r we
- Siteimprove (Llywodraethu Gwefannau)
- Systemau eraill sy'n gysylltiedig â'r we
Cysylltu â ni
Am holl ymholiadau sy'n gysylltiedig â'r wefan sy'n wynebu'r cyhoedd, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Ebost: web@uwtsd.ac.uk