Defnyddio Delweddau ar Wefan y Drindod Dewi Sant
Dylai’r holl ddelweddau ar Wefan y Drindod Dewi Sant fod o ansawdd proffesiynol a dylent fod yn gysylltiedig â’r cynnwys ysgrifenedig. Mae un ddelwedd fawr yn cael mwy o effaith nag un neu fwy o ddelweddau llai.
I gael mwy o wybodaeth ynghylch defnyddio delweddau, cysylltwch â thîm y We (e-bost: web@uwtsd.ac.uk)
Gwybodaeth am Hawlfraint
Wrth ddefnyddio delweddau ar wefan y Drindod Dewi Sant bydd angen i chi wneud yn siŵr nad ydych yn torri hawlfraint. Os byddwch yn defnyddio delweddau heb ganiatâd, rydych yn torri’r gyfraith.
Mae pob delwedd yn eiddo i unigolyn/cwmni/sefydliad. Os nad ydych chi na’r Brifysgol yn berchennog y ddelwedd, neu os nad oes gennych ganiatâd gan y perchennog i ddefnyddio’r ddelwedd, ni allwch ddefnyddio’r ddelwedd ar eich gwefan yn gyfreithiol
Os nad ydych yn siŵr a allwch ddefnyddio delwedd rhaid i chi bob amser ofyn i’r perchennog am ganiatâd. Os oes amheuon peidiwch â defnyddio’r ddelwedd.
Delweddau y gallwch eu defnyddio
Byddwch yn gallu defnyddio delweddau o’r ffynonellau canlynol:
- Delweddau a dynnwyd gennych chi.
- Delweddau a dynnwyd gan ffotograffwyr allanol swyddogol y Brifysgol.
- Delweddau a lanlwythwyd i Lyfrgell Cyfryngau T4 (mae caniatâd i ddefnyddio’r rhain ac maent wedi cael eu hoptimeiddio i’w defnyddio ar y we)
- Delweddau a brynwyd o wefannau delweddau stoc (megis shutterstock, cyn belled â’ch bod yn cydymffurfio â thelerau’r cytundeb trwydded)
- Delweddau rydych yn eu lawrlwytho o wefannau delweddau rhad ac am ddim (megis Free Images)
Delweddau na allwch eu defnyddio
Ni allwch ddefnyddio delweddau a gewch o’r ffynonellau canlynol yn gyfreithiol oni bai bod gennych ganiatâd gan berchennog y ddelwedd:
- Delweddau o wefannau eraill, megis blogiau neu wefannau cwmnïau
- Delweddau o beiriannau chwilio, megis chwilio ar Google Image
- Delweddau o wefannau sy’n rhoi cartref i ddelweddau megis flickr, nad oes ganddynt y drwydded briodol.
- Delweddau a sganiwyd neu y tynnwyd llun ohonynt o lyfrau neu ddeunyddiau argraffedig.
Er mwyn defnyddio’r delweddau o’r uchod bydd angen i chi gael caniatâd gan berchennog y ddelwedd, perchennog y wefan neu gyhoeddwr y llyfr.
Llyfrgell Delweddau
Mae gan y tîm marchnata a recriwtio ystod helaeth o ffotograffau. Cysylltwch â thîm y We (web@uwtsd.ac.uk) os oes angen unrhyw ffotograff penodol ar gyfer eich Gwefan. Mae gennym hefyd ystod helaeth o ffotograffau ar lyfrgell Cyfryngau T4, sydd wedi’u paratoi a’u hoptimeiddio i’r Wefan.
Optimeiddio Delweddau i’r We
Cyn lanlwytho delweddau i’r System Rheoli Cynnwys dylid eu hoptimeiddio i’r We. Gellir gwneud hyn yn Adobe Photoshop neu offeryn ar-lein megis Pixlr Editor.
Ystyr optimeiddio delwedd yw lleihau maint ei ffeil a’r dimensiynau picsel i faint sy’n addas i’r we heb golli ansawdd.
Mae hyn yn hanfodol oherwydd bydd yn sicrhau y bydd eich tudalennau’n llwytho’n gyflymach, sy’n arbennig o bwysig i ddefnyddwyr ar gysylltiadau arafach ac ar gynlluniau data ffonau symudol.
Enwau Ffeiliau Delweddau
Bydd angen i ddelweddau a gadwyd i’w defnyddio ar y we gael enw ffeil sy’n ddiogel ar y we. Dylent fod yn llythrennau bach i gyd, dim nodau arbennig ag eithrio cysylltnodau a dim bylchau. (ee llambed-adeilad-dewi-sant.jpg).
Bydd hyn yn sicrhau y bydd y delweddau’n arddangos yn gywir ar yr holl borwyr gwe a dyfeisiau. Bydd hefyd yn helpu peiriannau chwilio i ddod o hyd i’r dudalen lle maent yn cael eu defnyddio.
Fformatau Delweddau
Dylid cadw graffigau ar fformat jpg, png neu gif. Dyma reol gyffredinol wrth gadw delweddau ar gyfer y we:
- Dylid defnyddio JPG ar gyfer delweddau o fath ffotograffig.
- Dylid defnyddio GIF neu PNG8 ar gyfer logos neu ddelweddau â blociau o liw fflat a dim graddiannau.
- Dylid defnyddio PNG24 ar gyfer graffigau sy’n defnyddio effeithiau megis cysgodion neu effaith dywynnu, sydd hefyd yn gofyn am dryloywder.
Hygyrchedd Delweddau
Mae priodoleddau Alt yn darparu testun i ddisgrifio delweddau ar eich tudalen we. Pan fydd defnyddiwr technoleg darllen sgrin yn dod ar draws delwedd, bydd yn clywed y testun alt felly mae’n bwysig darparu priodoledd alt ar gyfer pob delwedd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfleu yn y priodoledd alt unrhyw ystyr y byddai’r darlun yn ei ddarparu ar gyfer defnyddiwr sy’n gweld. Hefyd peidiwch â defnyddio geiriau diangen megis “Llun o” neu “Delwedd o” yn eich priodoleddau alt oherwydd bydd y darllenydd sgrin yn delio â hynny i chi.