Tablau
Mae tablau’n ddefnyddiol ar gyfer cyflwyno data neu wybodaeth ffeithiol y mae angen ei chyflwyno mewn rhesi a cholofnau
Dyfeisiwyd tablau HTML am reswm, sef arddangos data tablaidd. Cyhyd â’ch bod yn defnyddio tablau ar gyfer data tablaidd yn unig, ac nad ydych byth yn nythu tabl tu fewn i dabl arall, rydych yn eu defnyddio’n gywir ac yn ôl y bwriad.
Awgrymiadau Defnyddiol
- Ni ddylech byth ddefnyddio tabl er mwyn y cynllun neu i leoli cynnwys
- Dylid defnyddio tablau i gyflwyno data neu wybodaeth ffeithiol
- Peidiwch â chanoli testun mewn tabl, gallai hyn achosi anawsterau hygyrchedd am fod testun wedi’i ganoli yn fwy anodd ei ddarllen. Dylai’r testun bob amser gael ei alinio i’r chwith