Optimeiddio peiriannau chwilio (SEO) yw’r broses o wella amlygrwydd gwefan neu dudalen we mewn peiriannau chwilio.

Nod peiriannau chwilio yw rhoi rhestr o ddolenni i dudalennau gwe i ddefnyddwyr, sydd â chynnwys sy’n berthnasol i dermau chwilio’r defnyddwyr. Er mwyn gwneud hyn, mae meddalwedd peiriannau chwilio yn dadansoddi cynnwys tudalennau gwe i benderfynu sut y dylid ei fynegeio (er enghraifft, mae geiriau’n cael eu tynnu o deitlau’r tudalennau, penawdau a chynnwys y corff) mewn perthynas â thermau chwilio tebygol.

Mae gwefannau sydd wedi’u strwythuro’n dda, yn hygyrch ac yn defnyddio HTML dilys yn cael eu gosod mewn safle uwch yn y canlyniadau chwilio.

Sut i wella SEO eich gwefan

Gwella strwythur eich tudalen

Y ffordd y mae tudalen we wedi’i strwythuro sy’n penderfynu sut mae peiriannau chwilio yn mynegeio’r dudalen. Dylid defnyddio’r elfennau canlynol wrth olygu tudalennau:

  • Penawdau
  • Pwyntiau bwled
  • Disgrifiadau Meta
  • Dolenni ystyrlon ar bob tudalen

Defnyddiwch Benawdau

Yn HTML mae chwe lefel o benawdau. Lefel 1 <h1> yw’r pennawd pwysicaf ar dudalen a hon yw’r peth cyntaf y bydd peiriant chwilio yn ei bori.

Yn anaml y mae lefel 5 a 6 yn cael eu defnyddio a nhw yw’r lleiaf pwysig.

Mae Gwefan y Drindod Dewi Sant yn cynhyrchu’r pennawd <h1> yn awtomatig (gweler isod). Cymerir hwn o enw’r adran yn y System Rheoli Cynnwys. Dim ond unwaith y dylid gosod y pennawd hwn ar dudalen. Bydd angen i chi deipio’r penawdau eraill eich hun.

Disgrifiadau META

Mae disgrifiadau Meta yn rhoi esboniadau o gynnwys tudalen we ac maent yn cael eu defnyddio’n gyffredin ar dudalennau canlyniadau peiriannau chwilio (SERPs) i arddangos pytiau rhagolwg ar gyfer tudalen benodol.  

Er nad yw Google bellach yn ystyried disgrifiadau Meta wrth osod tudalennau yn eu trefn, maent yn bwysig o ran cael ymwelwyr drwy SERPs. Dylai’r disgrifiad fod rhwng 150-160 nod a dylai fod ynddo gynnwys diddorol sy’n gysylltiedig â’r dudalen y bydd chwiliwr eisiau ei chlicio.

Fe’ch anogir i wirio disgrifiadau Meta ddwywaith wrth olygu tudalennau dylech naill ai olygu, cwblhau neu deipio rhywbeth yn y maes.

Defnyddiwch allweddeiriau

Yn y cynnwys dylid rhoi allweddeiriau neu ymadroddion bydd pobl yn chwilio amdanynt yn aml.

Dewiswch allweddeiriau sy’n adlewyrchu cynnwys eich tudalen we’n fwyaf cywir. Er enghraifft, ar dudalen am ddiwrnod agored yn Abertawe mae ‘Abertawe’ a ‘DiwrnodAgored’ yn allweddeiriau pwysig. Defnyddiwch allweddeiriau gymaint â phosibl o fewn yr elfennau canlynol ar y dudalen we:

  • Teitl tudalen
  • Penawdau
  • Cynnwys y corff, yn enwedig o fewn y paragraff cyntaf
  • Dolenni ystyrlon, e.e. ‘Diwrnod Agored Abertawe’ yn hytrach na ‘Diwrnod Agored y Brifysgol’

Bydd defnyddio geiriau ystyrlon ar gyfer enwau eich adrannau/tudalennau a ffeiliau cyfryngau hefyd yn gwella safleoedd tudalennau e.e. defnyddiwch ‘israddedig’ yn hytrach na thalfyriadau megis ‘isradd’.

Defnyddiwch Ddolenni

Mae Google (a pheiriannau chwilio eraill) yn gosod tudalennau gwe mewn safle uwch pan fydd mwy o ddolenni allanol yn pwyntio atynt. Maent yn tybio os ydy trydydd partïon yn gwneud dolen i Wefan rhaid ei bod yn cynnwys rhywbeth o werth.

Os oes gan y Drindod Dewi Sant gant o ddolenni allanol yn pwyntio at ei thudalen ar astudio ôl-raddedig, ac mae ond deg dolen gan sefydliad arall, bydd y Drindod Dewi Sant mewn safle llawer yn uwch. Rhaid i wefannau sy’n cysylltu fod yn wefannau o ansawdd, er enghraifft, mae dolen o’r BBC â gwerth llawer uwch na dolen o sefydliad bach.

Ffyrdd eraill o hyrwyddo eich gwefan

  • Rhowch eich URL ar daflenni/hysbyslenni/cyhoeddiadau
  • Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol
  • Rhowch eich URL yn eich llofnodion e-bost
  • Dosbarthwch eich URL ar restrau postio perthnasol