Tôn llais yw nid beth rydym yn ei ddweud ond sut rydym yn ei ddweud. Tôn llais yw’r iaith a ddefnyddiwn, y ffordd rydym yn adeiladu brawddegau, sain ein geiriau a’r bersonoliaeth a gyflëwn.

Cynllunio a Strwythuro Effeithiol

Wrth gynllunio a strwythuro Gwefan, gall hierarchaeth y cynnwys ar y dudalen ac ar y wefan gyfan helpu i lywio’r tôn a’r cyflwyniad:

  • Dylai’r dudalen hafan a thudalennau glanio lefel uwch gynnwys testun byr, penawdau, a nifer uwch o graffigau a delweddau.
  • Meddyliwch am y tudalennau lefel uwch fel y defnyddiwr yn cerdded i mewn i dderbynfa un o’n campysau ac yn dechrau teimlo naws y lle. Efallai mai hyn fydd ei argraff gyntaf o’r Drindod Dewi Sant.
  • Gall tudalennau lefel is fod â mwy o fanylion ac yn aml mae angen hynny.

Awgrymiadau Defnyddiol

Dyma nifer o bethau defnyddiol i’w nodi ynghylch tôn llais:

  • Defnyddiwch y person cyntaf i siarad â’ch cynulleidfa. Er enghraifft:
    Yn lle:
    Mae Cyfadran y Dyniaethau a’r Celfyddydau Perfformio yn rhedeg cyfres o ddiwrnodau agored ym mis Hydref i ddarpar fyfyrwyr israddedig.
    Defnyddiwch:
    Rydym yn eich gwahodd i ymweld â ni ar un o’n diwrnodau agored ym mis Hydref
  • Arhoswch a meddwl cyn i chi ddechrau ysgrifennu. Gwnewch nodyn o’r pwyntiau yr hoffech eu gwneud mewn trefn resymegol.
  • Defnyddiwch eiriau byr. Ni fydd geiriau hir yn fuddiol i’ch cynulleidfa nac yn helpu eich arddull ysgrifennu.
  • Defnyddiwch iaith bob dydd.  Peidiwch â defnyddio jargon, talfyriadau ac acronymau sy’n anghyfarwydd i’ch darllenwyr.
  • Defnyddiwch frawddegau byr. Cadwch eich brawddegau i 15 i 20 gair ar gyfartaledd.  Ceisiwch gadw at un syniad fesul brawddeg.
  • Byddwch yn gryno