Gwnewch Eich Cynnwys yn Hawdd ei Sganio
Yn y rhan fwyaf o achosion, dylid ysgrifennu testun yn benodol i’r we ac nid ei gopïo o ddeunyddiau argraffedig. Ni fydd darllenwyr yn darllen y cynnwys gair am air, maent yn sganio’r dudalen.
Felly dylai fod modd sganio eich cynnwys.
Dyma rai pethau defnyddiol i’w nodi wrth ysgrifennu cynnwys i’r We:
- Cadwch eich cynulleidfa yn y cof, ystyriwch pwy fydd yn darllen eich cynnwys, darpar fyfyrwyr, myfyrwyr cyfredol, cyn-fyfyrwyr? Am beth maent yn chwilio, a beth sydd ei angen arnynt?
- Cynhwyswch y testun pwysicaf ar frig y dudalen
- Ysgrifennwch yn gryno, gan hepgor geiriau dianghenraid a chadw at y ffeithiau
- Ysgrifennwch baragraffau byr sy’n haws eu darllen ar-lein (2-3 brawddeg)
- Defnyddiwch ddolenni mewnol, yn lle teipio’r URL llawn. Er enghraifft, UCAS (yn lle https://www.ucas.com)
- Rhowch ddolenni pan fo’n berthnasol. Er enghraifft, wrth sôn am Undeb y Myfyrwyr, rhowch ddolen i’w gwefan
- Rhowch ddolenni sy’n gwneud synnwyr tu allan i’r cyd-destun ac osgoi ‘cliciwch yma’. Nid yw hyn yn hygyrch i ddefnyddwyr â nam ar y golwg sy’n defnyddio darllenydd sgrin. Er enghraifft, edrychwch ar y cwrs ar Wefan UCAS (yn lle cliciwch yma i weld y cwrs ar Wefan UCAS)
- Defnyddiwch benawdau ac is-benawdau eglur, er mwyn i ymwelwyr allu dod o hyd i’r hyn maent yn chwilio amdano yn hawdd drwy sganio’r testun
- Peidiwch â defnyddio llythrennau italig, oni fyddwch yn cyfeirnodi llyfr neu gyfnodolyn (mae’n anodd ei ddarllen ar-lein) a defnyddiwch brint trwm i bwysleisio testun. Peidiwch â thanlinellu testun (mae’n drysu defnyddwyr am fod testun wedi’i danlinellu fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dolenni)
- Dylai testun a theitlau gael eu halinio i’r chwith ac nid eu canoli
- Peidiwch â defnyddio priflythrennau am eu bod yn arafu’r cyflymder darllen
- Prawfddarllenwch y testun a’i olygu
- Dilëwch eiriau dianghenraid
- Darllenwch eich newidiadau yn y porwr bob amser cyn eu cymeradwyo / neu eu hanfon i’w cymeradwyo.