Skip page header and navigation

Gwneud Taliad

Gellir defnyddio cardiau credyd a debyd i wneud taliadau Ffioedd Dysgu a Ffioedd Llety ar-lein i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant drwy’r ddolen a ganlyn:

(Derbynnir pob un o’r prif gardiau credyd heblaw American Express a Diners Club.)

Mwy o Wybodaeth

  • Myfyrwyr Israddedig a TAR

    Mae cyllid ar gael drwy Gyllid Myfyrwyr ar ffurf Benthyciad Ffioedd Dysgu.

    Os cewch fenthyciad ffioedd dysgu, caiff ei dalu’n uniongyrchol i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

    Wrth lenwi eich cais am Gyllid Myfyrwyr, sicrhewch eich bod yn dewis:

    • Cod UCAS y sefydliad: T80
    • Enw’r brifysgol: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

    Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch talu ffioedd, cysylltwch â’r Adran Gyllid ar ffioedd@pcydds.ac.uk.

    Myfyrwyr Ôl-raddedig yn unig

    Mae Cyllid Ôl-raddedig ar gael drwy Gyllid Myfyrwyr ar ffurf Benthyciad Ffioedd Dysgu.

    Yn wahanol i fenthyciad israddedig, telir benthyciad ôl-raddedig i chi’n uniongyrchol, felly mae’n rhaid i chi drefnu talu ffioedd dysgu i’r Drindod Dewi Sant yn unol â’n telerau talu.

    I dalu eich Ffioedd Dysgu, talwch yn llawn yn Nhymor 1 neu mewn rhandaliadau (gweler yr adran rhandaliadau am fanylion pellach)

    I gael rhagor o wybodaeth, ewch i ‘Funding for Postgraduate Study’ yn gov.uk

  • Os yw eich cyflogwr neu sefydliad elusen yn cyfrannu tuag at ffi eich cwrs, lawrlwythwch y Ffurflen Noddwyr.

    Wrth dderbyn y Ffurflen Noddwyr, byddwn yn anfonebu eich noddwr am eu cyfraniad tuag at eich ffioedd cwrs.

    Sylwch y bydd angen i chi lenwi ffurflen newydd wrth gofrestru bob blwyddyn os yw nawdd wedi’i gytuno gan eich noddwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd dan sylw.

    Mae myfyrwyr yn gyfrifol am dalu’r holl ffioedd sy’n ddyledus tra maent yn astudio yn y Brifysgol yn brydlon. Os oes noddwr wedi cytuno i dalu ar ran myfyriwr, mae’r myfyriwr yn parhau i fod yn gyfrifol am y ddyled nes iddi gael ei thalu.

  • Gellir talu ffioedd dysgu drwy un o’r ddwy ffordd ganlynol:

    • Ffioedd dysgu heb Fenthyciad Myfyrwyr
    • Ffioedd Llety

    Drwy fynd i dudalen ‘Taliadau Myfyrwyr’ unwaith y byddwch wedi cael eich Anfoneb yn eich cyfeiriad e-bost myfyriwr. 

    Talu ar unwaith

    Gallwch dalu ffioedd ar unwaith, yn llawn, trwy gerdyn credyd/debyd. Bydd y taliad yn cael ei brosesu ar unwaith, a chaiff y ffioedd llawn eu casglu ar unwaith.

    Taliadau rheolaidd â cherdyn

    Gellir trefnu amserlen o daliadau ar ddyddiadau cytûn (gweler y manylion isod). Sylwer bydd trefnu taliadau rheolaidd â cherdyn yn sicrhau bod yr holl daliadau sy’n ddyledus am y flwyddyn academaidd gyfredol yn cael eu gwneud yn awtomatig. Nid oes raid i chi wneud dim yn bellach (ar gyfer y flwyddyn hon) oni bai ein bod yn cysylltu â chi i ddweud fel arall.

    Os nad yw’r dyddiadau a geir ar y sgrîn yn cyd-fynd â’r dyddiad a gewch eich cyllid myfyrwyr, cysylltwch â ffioedd@pcydds.ac.uk i drafod

    Bydd angen yr wybodaeth a ganlyn arnoch i dalu drwy unrhyw rai o’r dulliau a ddisgrifir uchod:

    • Rhif Myfyriwr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
    • Dyddiad geni’r myfyriwr
    • Manylion cerdyn credyd/debyd.
  • Ewch i Ffioedd Dysgu

    Os ydych yn dysgu o bell yn Rhyngwladol, cysylltwch â ni yn ffioedd@pcydds.ac.uk ar gyfer eich opsiynau talu.

  • Ffioedd Dysgu

    Mae angen i fyfyrwyr gadarnhau, yn rhan o’r broses gofrestru, eu bod yn derbyn cyfrifoldeb am dalu ffioedd dysgu ac unrhyw lety, neu daliadau eraill a allai ddod i’w rhan wrth astudio yn y Brifysgol. Os na fydd myfyriwr yn methu yn talu ffioedd dysgu pan fyddant yn ddyledus, ac yn methu â gwneud trefniadau boddhaol ar gyfer clirio unrhyw ddyled sy’n weddill, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i gychwyn achos cyfreithiol i adennill y ddyled. Nid oes gan fyfyrwyr sydd â dyledion ffioedd dysgu sy’n weddill hawl i symud ymlaen i’r flwyddyn astudiaethau nesaf, i gael dyfarniad nac i raddio.

    Ffioedd Llety

    Gall myfyrwyr sy’n dychwelyd wneud cais am lety ond ni chânt ystafelloedd os na fydd ffioedd llety i’r Brifysgol wedi eu talu’n llawn ar gyfer Cytundebau Trwydded blaenorol.

  • Gellir trefnu i dalu ffioedd dysgu’r dyfodol mewn un, dau neu dri rhandal, yn amodol ar y gwerth.

    Bydd angen i chi aros am anfoneb cyn y gallwch dalu.

    Bydd y ddolen i dudalen Taliadau Myfyrwyr ar eich anfoneb i wneud taliad.

    Dyma fydd amseriad y rhandaliadau:

    Ffioedd hyd at £250
    – yn daladwy mewn 1 rhandal ar ddechrau pob tymor

    Ffioedd hyd at £250
    yn daladwy mewn 2 rhandal ar ddechrau’r tymor cyntaf a’r ail dymor

    Ffioedd o £1001 neu fwy
      yn daladwy mewn 3 rhandal (34%/33%/33%) ar ddechrau pob tymor

    Dylai bod dyddiadau rhandaliadau sydd ar gael drwy’r ddolen ar-lein fod yn ddyddiadau ar ôl i chi dderbyn eich benthyciad i sicrhau bod gennych yr arian i wneud y taliad.  Os oes unrhyw broblemau gyda hyn, cysylltwch â ni yn ffioedd@pcydds.ac.uk.

  • Gellir trefnu talu ffioedd llety yn y dyfodol mewn un rhandal neu mewn tri rhandal.

    Bydd angen i chi aros am anfoneb cyn y gallwch dalu.

    Bydd y ddolen Taliadau Myfyrwyr ar eich anfoneb i wneud taliad.

    Dyma fydd amseriad rhandaliadau:

    • Un taliad yn llawn ar ddechrau’r tymor cyntaf
    • Tri rhandal, un ar ddechrau pob tymor

    Mae’r ffi sy’n ddyledus a symiau rhandaliadau perthnasol ar gael ar y Contract Llety Myfyrwyr a gyhoeddir gan y Swyddfa Llety neu yn Llety Myfyrwyr.

  • Drwy gyflwyno taliad ar safle taliadau ar-lein Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (“Y Brifysgol”) rydych chi’n cytuno â’r telerau a’r amodau hyn. Os nad ydych yn derbyn y telerau hyn, peidiwch â pharhau â’ch taliad a chysylltwch â Swyddfa Gyllid y Brifysgol (gweler y manylion isod).

    Cyfrifoldeb y Myfyriwr yw sicrhau bod Ffioedd Dysgu’r Brifysgol mewn perthynas â’r Rhaglen yn cael eu talu ar ddechrau pob Blwyddyn astudio Academaidd neu Galendr yn unol â chyfarwyddiadau swyddfa gyllid y Brifysgol.

    Rhaid talu’r ffioedd sy’n ddyledus cyn neu wrth gofrestru boed yn uniongyrchol gan y Myfyriwr neu ar ran y Myfyriwr gan drydydd parti (fel perthynas, cyflogwr neu noddwr arall).

    Nid yw gwneud unrhyw daliadau tuag at Ffioedd Dysgu gan fyfyrwyr neu ar eu rhan yn nodi bodolaeth contract rhwng y Brifysgol a’r Myfyriwr.

    Nodwch fod y Brifysgol yn defnyddio prosesyddion trydydd parti (WPM Education) at ddibenion diogelwch ac atal twyll i brosesu pob trafodion talu.

    Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd ynghylch y defnydd a wneir o’ch data ar gael yn ein Datganiad Preifatrwydd Myfyrwyr.

    Gall y Brifysgol ddiweddaru’r telerau hyn o bryd i’w gilydd a bydd unrhyw newidiadau’n weithredol ar unwaith wedi iddynt gael eu hamlinellu yma. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r telerau cyfredol.

    Amdanom ni

    Dyma ein manylion cysylltu:

    E-bost: ffioedd@pcydds.ac.uk

    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
    Swyddfa Gyllid
    Heol y Coleg
    Caerfyrddin
    Sir Gaerfyrddin
    SA31 3EP

    Ymholiadau

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau’n ymwneud â’ch defnydd o’r system talu ar-lein, cysylltwch â ni (gweler y manylion uchod).

    Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich manylion yn gywir. Nid yw’r Brifysgol yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw daliadau sy’n mynd i’r lle anghywir lle’r ydych wedi darparu gwybodaeth anghywir.

    Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod taliad wedi’i wneud ac wedi’i ddyrannu’n gywir. Rhowch wybod i ni ar unwaith os oes unrhyw gamgymeriadau ac fe wnawn ein gorau i helpu. Fel arfer, mae taliadau’n clirio i mewn i’n cyfrif mewn 2 i 3 diwrnod gwaith.

    Rhaid gwneud pob taliad trwy’r cyfleustra talu ar-lein hwn mewn Punnoedd Sterling (£GBP). Rydych yn gyfrifol am dalu unrhyw gostau trosi arian cyfred neu ffioedd eraill sy’n codi wrth wneud y taliad neu wrth brosesu ad-daliad.

    Ni all y Brifysgol dderbyn unrhyw atebolrwydd os caiff taliad ei wrthod neu ei droi lawr gan eich cyflenwr cerdyn debyd/credyd am ba bynnag reswm.

    Unwaith y bydd trafodyn wedi’i gwblhau, ni ellir canslo’r taliad. O dan amgylchiadau penodol, efallai y bydd hawl gennych i ad-daliad yn unol â’r Prif Delerau.

    Defnydd

    Heb fod yn gyfyngedig i faterion sydd wedi’u nodi yn y telerau ac amodau defnyddio hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio’r safle talu i wneud y canlynol:

    • cyflawni neu annog gweithredoedd anghyfreithlon neu weithredoedd sy’n torri’r telerau defnyddio hyn;
    • cam-gyfleu pwy ydych;
    • hacio, neu geisio hacio, unrhyw ran o’r safle talu neu unrhyw system a ddefnyddir i’w redeg;
    • Storio data personol sy’n tarddu o’r safle talu;
    • Niweidio’n dechnegol y safle talu a/neu ei systemau (yn cynnwys, heb gyfyngiadau, firysau cyfrifiadurol neu feddalwedd maleisus neu ddata niweidiol);
    • darparu unrhyw wybodaeth sy’n anghywir neu sy’n torri unrhyw rai o gyfreithiau neu reoliadau’r DU. Lle bydd gwybodaeth a ddarperir gennych wrth ddefnyddio’r system talu ar-lein yn anghywir neu ddim yn cytuno â chofnodion y Brifysgol, efallai na fyddwch yn gallu gwneud taliad gan ddefnyddio’r gwasanaeth hwn a dylech gysylltu â’r Swyddfa Gyllid yn ffioedd@pcydds.ac.uk.

    Ymwadiad

    • Er y bydd y Brifysgol yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth a’r cynnwys ar y safle talu hwn yn gywir adeg, nid yw’n gwarantu bod hynny’n wir. I’r graddau eithaf a ganiateir gan gyfraith y DU, mae’r deunydd ar y wefan hon a’i chyfleuster talu ar-lein yn cael eu darparu “fel y maent”, a heb warantau, amodau na thelerau eraill o unrhyw fath.
    • Er y bydd y Brifysgol yn ymdrechu’n rhesymol i sicrhau bod y system talu ar-lein ar gael a bod modd ei defnyddio bob amser, nid yw’n gwarantu mynediad parhaus, di-dor neu ddiogel i’r system. Er bod pob ymdrech rhesymol wedi’i wneud i sicrhau hygyrchedd, nid yw’r Brifysgol yn gwarantu y bydd defnyddio’r system talu ar-lein yn gydnaws â holl galedwedd a meddalwedd ei defnyddwyr. Mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i ohirio neu dynnu mynediad yn ôl, heb rybudd, i’r holl safle talu neu ran ohono, am unrhyw reswm.
    • Nid oes unrhyw beth ar y safle talu hwn sy’n gyfwerth â rhan o gontract oni nodir yn benodol fel arall.
    • Nid yw’r Brifysgol yn gwirio unrhyw ddolenni i wefannau trydydd parti o fewn y safle talu hwn ac nid yw’r Brifysgol yn gyfrifol o gwbl am gynnwys safleoedd allanol. Os ewch i safleoedd allanol trwy’r safle talu hwn, byddwch yn gwneud hynny ar eich cyfrifoldeb eich hun.

    Atebolrwydd

    • I’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, mae’r Brifysgol yn gwrthod pob atebolrwydd a chyfrifoldeb am unrhyw swm, neu fath o golled, neu ddifrod, a all ddod i’ch rhan chi neu drydydd parti mewn cysylltiad â’r defnydd o’r safle talu hwn mewn unrhyw ffordd. Ni fydd unrhyw beth yn cyfyngu ar atebolrwydd y Brifysgol am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ei hesgeulustod, neu am dwyll.
    • Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y cynnwys sydd ar gael i’w lawrlwytho yn rhydd rhag firysau. Nid yw’r brifysgol yn derbyn atebolrwydd am iawn sy’n codi o heintiad firws

    Hawlfraint, nodau masnach ac eiddo deallusol arall

    • Oni nodir yn wahanol, y Brifysgol neu’i thrwyddedwyr sydd â hawlfraint a hawliau eiddo deallusol arall y testun, delweddau a’r holl ddeunydd arall ar y safle talu hwn.
    • Mae’r nodau masnach a’r logos a ddefnyddir ac a arddangosir ar y wefan hon yn nodau masnach cofrestredig ac anghofrestredig y Brifysgol, neu eraill. Ni chewch ddefnyddio’r nodau masnach hyn heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw, neu ganiatâd y perchennog perthnasol.

    Cyfraith ac awdurdod llywodraethol

    Bydd ffurfiant, bodolaeth, adeiledd, perfformiad, dilysrwydd a’r holl agweddau ar y telerau ac amodau hyn neu unrhyw delerau neu amodau yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Lloegr a Chymru. Bydd gan lysoedd Lloegr a Chymru awdurdodaeth anghyfyngedig i setlo unrhyw ddadleuon a allai godi allan o neu mewn cysylltiad â’r telerau ac amodau.  Mae’r partïon yn cytuno’n ddi-alw’n ôl i ildio i’r awdurdodaeth honno.

    Amrywiol

    • Ni fwriedir i’r telerau defnyddio hyn gyflwyno budd i drydydd parti, ac ni fyddant yn gwneud hynny, boed hynny o dan Ddeddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 neu fel arall.
    • Os byddwch chi’n torri’r telerau hyn a’r Brifysgol yn esgusodi hynny, ni ddylid ystyried y bydd yn esgusodi torri’r un ddarpariaeth neu ddarpariaeth arall yn ddiweddarach.
    • Mae penawdau adrannau wedi’u cynnwys er hwylustod yn unig ac ni ddylid eu hystyried yn rhan o’r telerau hyn na’u defnyddio i ddehongli’r telerau.
    • Os daw unrhyw ddarpariaeth mewn perthynas â’r telerau hyn yn annilys neu’n anghyfreithlon unrhyw bryd, bernir bod y cyfryw ddarpariaeth wedi’i gwahanu oddi wrth y telerau, ond ni effeithir ar ddilysrwydd y darpariaethau sy’n weddill na’r gallu i’w gorfodi o ganlyniad i hyn.
    • Os bydd taliad yn cael ei wneud yn erbyn cyfanswm y Ffioedd Dysgu sy’n ddyledus, caiff y balans credyd sy’n codi ei ddefnyddio yn erbyn unrhyw ddyled neu anfoneb sy’n codi yn sgil llety, dyledion llyfrgell neu unrhyw dâl dilys arall yn ôl trefn eu dyddiad dyledus. Os nad oes dyled neu anfoneb arall, caiff unrhyw falans credyd sy’n weddill ei ad-dalu’n unol â gweithdrefn ad-dalu arferol y Brifysgol. Rhaid gofyn am ad-daliadau a rhaid cefnogi hyn gan awdurdodaeth ysgrifenedig gan y Myfyriwr.
    • Bydd y Brifysgol yn gwneud unrhyw ad-daliad sy’n daladwy i’r cyfrif cerdyn neu gyfrif banc y daeth y taliad gwreiddiol.
  • Er mwyn gweithredu system talu ar-lein Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (“y Brifysgol”), mae’n bosibl y byddwn yn casglu ac yn storio gwybodaeth bersonol y byddwch yn ei chyflwyno i’r system trwy’r wefan talu ar-lein, neu’n ei rhoi i’r Brifysgol mewn rhyw ffordd arall.

    Darllenwch y polisi preifatrwydd canlynol i ddeall sut mae’r Brifysgol yn defnyddio ac yn diogelu’r wybodaeth a ddarperir gennych.

    Darperir a chadwir y system talu ar-lein gan y Brifysgol a’i chyflenwyr trydydd parti. Trwy gyflwyno eich gwybodaeth bersonol, rydych chi’n rhoi caniatâd i’r Brifysgol gadw a defnyddio’r wybodaeth honno yn unol â’r polisi hwn. Mae’r polisi’n gallu newid a bydd unrhyw newidiadau iddo yn y dyfodol yn cael eu nodi ar y dudalen hon.

    Trwy barhau i ddefnyddio’r safle talu hwn rydych chi’n cytuno â’r newidiadau hynny. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio’r polisi preifatrwydd bob tro y byddwch yn ymweld â’r safle.

    Cynnwys

    1. Gwybodaeth a gasglwn gennych chi a’ch defnydd chi o’r safle
    2. Sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth
    3. Sut y byddwn yn trin y data a gyflwynir gennych
    4. Dolenni i wefannau allanol
    5. Sut i gysylltu â ni

    Gwybodaeth a gasglwn gennych chi a’ch defnydd chi o’r safle

    Pan fyddwch yn ymweld â’n tudalen talu ar-lein, efallai y bydd gofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol amdanoch chi eich hun yn cynnwys eich rhif myfyriwr neu UCAS, dyddiad geni, enw, manylion cyswllt ac ariannol cyn i chi allu parhau i ddefnyddio’r system talu ar-lein.

    Gwybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi i ni

    Rydym yn derbyn a chadw unrhyw wybodaeth a roddwch ar ein gwefan neu a rowch i ni mewn unrhyw ffordd arall. Byddwch yn darparu’r rhan fwyaf o wybodaeth o’r fath wrth wneud taliad, neu’n sefydlu taliad cylchol neu fandad debyd uniongyrchol, neu’n cyfathrebu gyda ni am unrhyw reswm arall. Gall yr wybodaeth hon gynnwys eich rhif myfyriwr neu UCAS, dyddiad geni, enw, manylion cyswllt ac ariannol.

    Gallwch ddewis peidio â darparu gwybodaeth, er efallai y bydd ei hangen i wneud taliad.

    Gwybodaeth Awtomatig

    Rydym yn derbyn a chadw mathau penodol o wybodaeth pryd bynnag y byddwch yn rhyngweithio gyda’r wefan talu ar-lein/ Rydym yn defnyddio’r wybodaeth i fonitro traffig y wefan ac i helpu gyda llywio a defnyddio’r wefan.

    Mae’r wybodaeth y byddwn ni’n ei derbyn yn awtomatig yn cynnwys:

    • Yr URL y gofynnwyd amdano (Uniform Resource Locator/Lleolydd Adnoddau Unffurf)
    • Cyfeiriad IP (Internet Protocol) (efallai y bydd hwn yn dynodi cyfrifiadur penodol neu efallai ddim)
    • Enw parth a ddefnyddir gennych i gael mynediad i’r rhyngrwyd
    • URL cyfeiriol
    • Meddalwedd (porwr/system gweithredu) a ddefnyddir i gyrchu’r dudalen
    • Y dyddiad a’r amser yr ymwelwyd â’r tudalennau

    Pan fyddwch yn defnyddio rhai tudalennau ar y safle, efallai y bydd ffeil bach – ‘cwci’ – yn cael ei roi ar eich cyfrifiadur. Darn o wybodaeth yw cwci ar ffurf ffeil testun bach iawn a roddir ar yriant caled defnyddiwr y Rhyngrwyd. Mae’n cael ei greu gan weinydd gwe’r system talu ar-lein. Mae’r wybodaeth sydd yn y cwci yn cael ei bennu gan y gweinyddwr ac y gellir ei ddefnyddio gan y gweinyddydd hwnnw pryd bynnag y bydd y defnyddiwr yn ymweld â’r safle. Mae’r gweinyddwr yn defnyddio cwcis i adnabod eich sesiwn pori os byddwch yn ymweld â nifer o dudalennau wrth i chi ryngweithio gyda’r system talu ar-lein.

    Gallwch osod eich porwr i wrthod cwcis neu eich rhybuddio cyn i chi eu derbyn. Fodd bynnag, ni fydd y wefan talu ar-lein yn gweithio’n iawn heb dderbyn cwcis.

    I gael rhagor o wybodaeth am gwcis, ewch i AboutCookies.org.

    Sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth

    Cwblhau archeb

    Cedwir data personol a gesglir fel rhan o’r broses talu yn bennaf er mwyn cwblhau eich archeb. Bydd y data hwn yn cael ei gadw gan sefydliadau bancio a dosbarthu trydydd parti dibynadwy sy’n ymdrin â thrafodion cerdyn ein cwsmeriaid a bodloni archebion ac efallai y caiff ei ddefnyddio at unrhyw un o’r dibenion a ganlyn: cyfrifo, bilio ac archwilio, dibenion gweinyddol a chyfreithiol, diogelwch a dilysu taliadau.

     Dadansoddiad

    Efallai y gwnawn hefyd ddefnyddio a dadansoddi’r wybodaeth a gasglwn fel y gallwn reoli a gwella’r gwasanaethau ar y wefan. Gellir casglu a defnyddio gwybodaeth ddemograffig ac ystadegol ynglŷn ag ymddygiad defnyddwyr i ddadansoddi poblogrwydd ac effeithiolrwydd y wefan. Os datgelir y wybodaeth hon, bydd ar ffurf data cyfanredol ac ni fydd yn nodi defnyddwyr unigol.

    Sut y byddwn yn trin y data a gyflwynir gennych

    Deddfwriaeth Diogelu Data

    Y Brifysgol yw eich rheolydd data. Fel eich rheolydd data mae’r Brifysgol wedi rhoi gwybod i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am ei gweithgareddau fel sy’n ofynnol yn ôl Deddf Diogelu Data 1998 (y “Ddeddf”) ac mae wedi’i rhestru yn y Gofrestr Gyhoeddus o Reolyddion Data. Bydd y Brifysgol yn casglu a/neu’n prosesu gwybodaeth bersonol yn unol â’r Ddeddf yn unig.

    Diogelwch Data

    Gofynnir i chi ddiogelu data sensitif bob amser drwy gydol eich trafodion ar-lein. Gwnewch yn siŵr nad oes neb yn gallu gweld dros eich ysgwydd wrth i chi deipio gwybodaeth bersonol a chaewch eich porwr wedi i chi orffen. Mae’r Brifysgol a’i sefydliadau trydydd parti wedi ymdrechu hyd eithaf eu gallu i sicrhau bod mynediad at wybodaeth a ddarperir a’r taliadau a wnewch wrth ddefnyddio’r safle yn ddiogel. Rydym yn gweithio i amddiffyn diogelwch eich gwybodaeth yn ystod trosglwyddiad. Mae’r safle wedi’i ddiogelu drwy ddefnyddio Tystysgrif Gwe-weinydd Thawte SSL i gynnig dull cyfathrebu diogel i chi drwy amgryptio’n awtomataidd yr holl ddata wrth ei gyflwyno.

    Dylech fod yn ymwybodol bod raid i’r cyfrifiadur a ddefnyddiwch i gysylltu i’r system talu ar-lein (drwy borwr) hefyd fod yn ddiogel, a chynnwys y system gweithredu, meddalwedd a diweddariadau gwrth-firws diweddaraf. Gallai defnyddio cyfrifiadur a renni i gysylltu i’r system talu ar-lein gynyddu’r risg y bydd eraill yn gweld eich gwybodaeth sensitif.

    Datgelu eich gwybodaeth

    • Ac eithrio fel y nodwyd yn y polisi hwn neu fel sydd yn ofynnol gan y gyfraith, ni ddarperir eich data personol i unrhyw drydydd parti heb eich caniatâd ysgrifenedig chi o flaen llaw
    • Bydd yr wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei chadw ar gyfrifiaduron yn y DU. Mae’n bosibl y caiff ei chyrchu neu ei rhoi i sefydliadau trydydd parti a gall bod rhai ohonynt wedi’u lleoli y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, gan weithredu ar ein rhan i gyflawni dibenion y polisi hwn neu ddibenion eraill a gymeradwywyd gennych chi. Mae’r partïon hynny yn prosesu gwybodaeth a gallent ddarparu gwasanaethau cymorth i’r Brifysgol neu ar ran y Brifysgol.
    • Nid oes gan wledydd y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd gyfreithiau cryf bob amser i ddiogelu data. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn cymryd camau i sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio gan sefydliadau trydydd parti yn unol â’r polisi hwn.
    • Rydym yn cyflogi cwmnïau ac unigolion eraill i ymgymryd â swyddogaethau ar ein rhan ac yn ei dro efallai y byddant hwythau’n defnyddio sefydliadau trydydd parti ar gyfer y swyddogaethau hyn. Mae’r enghreifftiau’n cynnwys prosesu taliadau cardiau credyd a gwe-letya’r wefan (“Asiantaethau dan Gontract”). Mae gan yr Asiantaethau dan Gontract fynediad i wybodaeth bersonol sydd ei hangen i ymgymryd â’u swyddogaethau, ond ni chânt ei defnyddio ar ddibenion eraill.
    • Yn achlysurol mae’n bosibl y bydd gwybodaeth bersonol a ddarperir gennych chi’n cael ei rhannu â sefydliadau eraill i atal twyll. Os na fyddwch chi wedi talu tâl sy’n ddyledus i’r Brifysgol, gall y Brifysgol ddatgelu data personol digonol i drydydd parti i’w alluogi i fynd ar ôl y ddyled a chasglu’r arian oddi wrthych. Gall sefydliadau trydydd parti gynnwys cyfreithwyr, asiantau a benodir gan y Brifysgol (er enghraifft, adfer dyled ac asiantau olrhain) a’r Llysoedd.

    Monitro’r Defnydd o Systemau’r Brifysgol

    Er mwyn amddiffyn diogelwch a gweithrediad systemau rhwydwaith a chyfrifiadurol y Brifysgol, mae’n bosibl y bydd rhaid monitro neu gofnodi’r defnydd o’r systemau hyn. Os oes unrhyw arwydd bod y systemau wedi’u camddefnyddio neu fod unigolion yn defnyddio systemau y tu hwnt i’w hawdurdod, gellir rhyng-gipio, monitro, recordio, copïo, archwilio ac arolygu ffeiliau, negeseuon a phob defnydd arall a wneir o’r systemau a’u datgelu i staff awdurdodedig y Brifysgol a phersonél Gorfodi’r Gyfraith.

    Dolenni i wefannau allanol

    Gall y gwefan hwn gynnwys dolenni i wefannau eraill y tu allan o reolaeth y Brifysgol ac nad ydynt wedi’u cwmpasu gan y polisi preifatrwydd hwn. Gall polisïau preifatrwydd safleoedd eraill fod yn wahanol i’r un yma.

    Sut i gysylltu â ni

    Os yw’r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir, gallwch newid a diweddaru eich gwybodaeth bersonol, a gellir cywiro’ch gwybodaeth ond i chi gysylltu â ni.

    Os gofynnwch amdano, drwy gysylltu â ni yn y cyfeiriad isod, rhown i chi gopi darllenadwy o’r data personol sydd gennym amdanoch. Efallai y bydd rhaid i chi brofi pwy ydych chi cyn i ni roi’r wybodaeth hon i chi er mwyn sicrhau cyfrinachedd.

    Rydym yn caniatáu i chi herio’r data sydd gennym amdanoch a lle bo’n briodol, gallwch ofyn o’r data gael ei ddileu, gywiro, diwygio neu gwblhau. Os oes gennych gwynion neu gwestiynau am y polisi preifatrwydd neu gwestiynau am ddiogelu data’n gyffredinol, cysylltwch â:

    Gwasanaethau Corfforaethol
    Cyfarwyddwr Gwybodaeth a Hysbysrwydd
    Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
    Heol y Coleg
    Caerfyrddin
    Sir Gaerfyrddin
    SA31 3EP

    E-bost: cscompliance@pcydds.ac.uk

Cysylltu â Ni

E-bost: ffioedd@pcydds.ac.uk

Campws Caerfyrddin
Ail Lawr, Adeilad Dewi, yn uniongyrchol uwchben y Dderbynfa
Ffôn: 01792 481050

Ffioedd Dysgu
Kim Reynolds – 01267 676837
ffioedd@pcydds.ac.uk

Taliadau Myfyrwyr
Nicola Evans – 01792 481050
Kim Reynolds – 01267 676837
Emma Stephens – 01792 483693
ffioedd@pcydds.ac.uk

Adennill Dyledion
ffioedd@pcydds.ac.uk

Ffioedd Llety
Jean Thomas – 01267 676819
accommodation@uwtsd.ac.uk

Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud  Chyfrifon Dyledus, e-bostiwch ffioedd@pcydds.ac.uk ac fe ymatebwn i’ch ymholiad.
Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â Chyfrifon Taladwy, e-bostiwch pladmin@uwtsd.ac.uk ac fe ymatebwn i’ch ymholiad.