Arolwg cenedlaethol yw’r arolwg Hynt Graddedigion sy’n cipio gwybodaeth am weithgareddau a safbwyntiau graddedigion 15 mis ar ôl iddynt orffen eu hastudiaethau.
Ynglŷn â'r arolwg
Bydd yr holl raddedigion a gwblhaodd gwrs perthnasol yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg, er mwyn helpu myfyrwyr presennol a rhai’r dyfodol i gael syniad o gyrchfannau a datblygiad gyrfaol. Bydd eich ymatebion hefyd yn helpu PCYDDS i werthuso a hyrwyddo ein cyrsiau.
'Hynt Graddedigion' yn eisiau canfod p’un a ydych mewn cyflogaeth, wedi parhau ag astudiaethau pellach neu'n gwneud rhywbeth arall, ac i ba raddau y gwnaeth eich cymhwyster helpu.
Hefyd, mae’r arolwg o arwyddocâd cenedlaethol gan ei fod yn caniatáu i wneuthurwyr polisi, elusennau, newyddiadurwyr, ymchwilwyr ac eraill ddeall y sector addysg uwch a chyflwr y farchnad lafur graddedigion.
Felly mae’n bwysig bod gennym eich manylion cyswllt diweddaraf er mwyn i ni allu cysylltu â chi ar ôl ichi raddio; gallwch ddiweddaru eich manylion cyswllt yma.
Pryd a gaf fi fy arolygu?
Cewch eich arolygu tua 15 mis ar ôl ichi gwblhau eich astudiaethau.
Bydd graddedigion yn cael eu grwpio i mewn i bedair carfan ar draws y flwyddyn a bydd y rhain yn seiliedig ar dyddiad gorffen eich cwrs. Yn ddibynnol ar bryd y daeth eich cwrs i ben, byddwch yn derbyn eich gwahoddiad arolwg 15 mis yn ddiweddarach. Er enghraifft, os daeth eich cwrs i ben rhwng mis Mai – Gorfennaf 2021, byddwch yn derbyn yr gwahoddiad arolwg ym mis Medi 2022.
Mae'r tabl isod yn dangos pryd byddwch yn derbyn yr arolwg:
Dyddiad gorffen y cwrs | Cyfnod yr arolwg | Dyddiad gorffen y cwrs | Cyfnod yr arolwg |
---|---|---|---|
Awst – Hydref 2020 | Rhagfyr 2021 - Chwefror 2022 | Awst – Hydref 2021 | Rhagfyr 2022 - Chwefror 2023 |
Tachwedd 2020 – Ionawr 2021 | Mawrth - Mai 2022 | Tachwedd 2021 – Ionawr 2022 | Mawrth - Mai 2023 |
Chwefror – Ebrill 2021 | Mehefin - Awst 2022 | Chwefror – Ebrill 2022 | Mehefin - Awst 2023 |
Mai – Gorffennaf 2021 | Medi - Tachwedd 2022 | Mai – Gorffennaf 2022 | Medi - Tachwedd 2023 |
Bydd gennych tua 12 wythnos i gwblhau'r arolwg a byddwch yn derbyn e-byst, a negeseuon gan 'GradOutcome' testun i'ch atgoffa i gymryd rhan.
Sut a gaf fi fy arolygu?
Cewch e-bost gan UniversityOfWalesTrinitySaintDavid@graduateoutcomes.ac.uk yn eich gwahodd i gwblhau’r arolwg ar-lein. Hefyd, efallai y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn ac yn gofyn ichi gwblhau’r arolwg dros y ffôn. Os na fyddwn yn gallu cysylltu â chi, efallai y gofynnwn am yr wybodaeth gan drydydd parti, fel aelod o’r teulu.
Sut y caiff fy ymatebion eu defnyddio?
Bydd eich ymatebion yn cael eu defnyddio gan PCYDDS a gan sefydliadau eraill at ddibenion ymchwil. Cyn ichi ddechrau’r arolwg, bydd HESA (Higher Education Statistics Agency) yn darparu gwybodaeth fanwl ar sut y bydd eich data’n cael ei brosesu, pwy a fydd yn ei gael, ac i beth y byddant yn ei ddefnyddio.
Sut ydw i’n gwneud yn siŵr fy mod yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg?
Bydd PCYDDS yn trosglwyddo eich gwybodaeth i HESA. Y cwbl sydd angen ichi ei wneud yw sicrhau bod gennym wybodaeth gyswllt gywir ar eich cyfer – yn arbennig e-bost personal dilys, a rhif ffôn symudol neu gatref.
Beth ddylwn i ei wneud os nad ydw i’n credu bod gan PCYDDS fy ngwybodaeth gyswllt gywir?
Gallwch diweddaru eich manylion cyswllt ar https://www.uwtsd.ac.uk/cy/cadwcyswllt/ unrhyw bryd hyd at wythnos cyn i’r arolwg gau er mwyn rhoi gwybodaeth gyswllt gyfredol i ni. Byddwn yn dychwelyd y wybodaeth i HESA er mwyn iddynt ddarparu hwn i’r contractwr sy’n darparu’r arolwg.
Mae’r wybodaeth yn Arolwg Hynt Graddedigion HESA i'w gweld yma