Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Uwch Rhan amser (BEng, HNC)

Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Uwch Rhan amser (BEng, HNC)



Daeth y Drindod Dewi Sant yn 1af yn y DU am foddhad myfyrwyr o ran Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Cynhyrchu - Complete University Guide 2023.

Holl bwrpas y cwrs hwn yw datblygu gweithwyr mewn maes o fewn gweithrediadau gweithgynhyrchu lle mae prinder.

Mae’r rhaglen wedi’i llunio wrth ochr cyflogwyr ar gyfer y gofynion gweithgynhyrchu allweddol o safbwynt cynnwys a dulliau cyflwyno.  O’i chwblhau’n llwyddiannus, bydd yr holl raddedigion yn arddangos gwybodaeth a sgiliau a fydd yn caniatáu iddynt gyfoethogi a gwella eu harfer er mwyn llunio diwydiant y dyfodol.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO
  • Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Uwch, Rhan amser (BEng) – 360 credyd
  • Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Uwch Rhan amser (HNC) – 120 credyd

Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Brifysgol gan ddefnyddio’r botwm Ymgeisio Nawr ar frig y dudalen.


Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Enw'r cyswllt:: Dr Arnaud Marotin


£3,150
Ddim yn berthnasol

Pam dewis y cwrs hwn

  1. Y rhaglen wedi’i llunio mewn partneriaeth â’r diwydiant.
  2. Rhan o’r fframwaith gradd-brentisiaethau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.  Mae cyllid ar gael ar gyfer darpar fyfyrwyr sydd mewn gwaith.
  3. Blwyddyn academaidd estynedig er mwyn cwblhau’r HNC rhan amser mewn blwyddyn a hanner yn unig.
  4. Mae gan yr Adran Beirianneg fwy na 19 blynedd o brofiad o gyflwyno rhaglenni rhan amser llwyddiannus.
  5. Astudio ar ein campws blaengar £300m ar Lannau Abertawe (SA1).

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Lluniwyd y rhaglen i weddu i’ch wythnos waith, felly trefnir y dosbarthiadau ar brynhawn Gwener yn y Datblygiad newydd ar y Glannau o 1yp i 7yp. Gan fod y cwrs dros flwyddyn academaidd estynedig, gyda’r astudio am 42 wythnos y flwyddyn, bydd myfyrwyr yn gwneud yn fawr o’u hamser yn y gwaith a’r Brifysgol.

Bwriad ein cwricwlwm, sy’n canolbwyntio ar y diwydiant, yw cynhyrchu arweinwyr yfory ar gyfer y diwydiant peirianneg.

Pynciau Modylau

LEFEL 4

  • Dylunio Prosiect | 20 credyd
  • Mathemateg | 20 credyd
  • Gwella Ansawdd a Busnes | 20 credyd
  • Defnyddiau a Chyflwyniad i Dechnoleg Gweithgynhyrchu | 20 credyd
  • Gweithredu a Chynnal a Chadw Peiriannau | 20 credyd
  • Cymwysiadau Peirianneg a Sgiliau Astudio| 20 credyd
Asesiad

Addysgir myfyrwyr trwy gyfres o ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai a sesiynau ymarferol. Caiff cynnydd ei asesu drwy aseiniadau, arholiadau a phrosiectau unigol.

Un o brif rannau’r flwyddyn olaf fydd prosiect y flwyddyn olaf. Prosiect seiliedig ar waith yw hwn a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio’r wybodaeth a ddatblygwyd yn ystod y cwrs i ddatrys problem beirianneg ddilys o’r gweithle

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Dolenni Cysylltiedig

Fideo Mecanyddol a Gweithgynhyrchu

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Mathemateg Safon Uwch (Lefel A) a phwnc gwyddoniaeth addas, Diploma Cenedlaethol BTEC mewn Peirianneg neu flwyddyn sylfaen mewn peirianneg yw’r gofynion traddodiadol. Byddwn yn ystyried ystod o gymwysterau neu brofiadau amgen. Rhoddir mynediad uniongyrchol i lefel 5 i fyfyrwyr sy’n meddu ar HNC, HND neu’r cyfwerth. Ystyrir pob cais a phrofiad gwaith proffesiynol fesul unigolyn. Hoffem hefyd weld eich bod yn frwdfrydig ac â chymhelliant i wneud y cwrs a bod gennych y potensial i elwa o astudiaethau rhan amser, sy’n gallu cefnogi datblygiad eich gyrfa.

Cyfleoedd Gyrfa

Cyfleoedd Gyrfaol

Mae’r Ysgol Beirianneg wedi darparu rhaglenni BEng rhan amser llwyddiannus iawn am bron iawn 19 o flynyddoedd. Ar hyn o bryd mae’r portffolio’n cynnwys tair rhaglen - BEng Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu, BEng Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu a BEng Gwyddorau Defnyddiau.

Un o’r effeithiau mwyaf nodedig ar gyflogadwyedd myfyrwyr sydd ar raglenni BEng rhan amser yr Ysgol yw’r gwelliant sylweddol o ran gyrfa a ddaw yn eu sgil.  Mae canran uchel o’r myfyrwyr wedi cael dyrchafiad o leiaf unwaith yn ystod eu hamser ar y rhaglenni ac yn aml unwaith eto ar ôl graddio.

Costau Ychwanegol

Dim cost ychwanegol

Cyrsiau Cysylltiedig
  • Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu (BEng)
  • Peirianneg Fecanyddol a Gweithgynhyrchu (BEng)
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau

Gwybodaeth am Fwrsarïau / Ysgoloriaethau

Ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau i ddysgu rhagor.

Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn benthyciad / bwrsari ffioedd dysgu, i gael rhagor o wybodaeth ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk a chysylltwch â’n Swyddog Cyllid Myfyrwyr Ms Sharon Alexander sharon.alexander@uwtsd.ac.uk

Llety

Ewch i dudalen Hafan Llety am ragor o wybodaeth

Gwybodaeth Pellach

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Brifysgol neu’r cwrs hwn yn arbennig.