Skip page header and navigation

Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd

Mae’r datganiad Hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r holl dudalennau sydd ar gael o fewn www.uwtsd.ac.uk

Tîm Gwasanaethau’r We ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sy’n cynnal y wefan hon. Hoffem i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan. Er enghraifft, mae hyn y golygu y dylech allu gwneud y canlynol ar y rhan fwyaf o dudalennau ar ein gwefan:

  • Newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau.
  • Chwyddo hyd at 300% heb i’r testun orlifo dros ochr y sgrin.
  • Symud drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • Symud drwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais.
  • Gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (yn cynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver).

Pa mor hygyrch yw’r wefan

Gwyddom nad yw rhai rhannau o’n gwefannau a’n gwasanaethau’n hollol hygyrch, ac rydym yn gwneud ein gorau glas i gywiro’r materion hyn.

  • Nid oes gan rai o’n lliwiau brand eilaidd gymhareb cyferbyniad sy’n ddigon uchel.
  • Testun amgen rhai lluniau yn absennol.
  • Nid yw rhai dogfennau, yn cynnwys dogfennau ar fformat PDF, yn gyflawn hygyrch eto.
  • Nid oes capsiynau gan ein fideos ffrydio byw.
  • Nid oes capsiynau gan y rhan fwyaf o’n fideos mewnblanedig.
  • Mae’n anodd symud drwy rai o’n ffurflenni ar-lein gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
  • Ni allwch neidio i’r prif gynnwys wrth ddefnyddio rhaglen darllen sgrin.

Adborth a gwybodaeth gysylltu

Os oes arnoch angen gwybodaeth o’r wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

E-bost: web@uwtsd.ac.uk
Ffoniwch: 01792 481000

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch mewn pum diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan. Os dewch o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â Thîm Gwasanaethau’r We yn web@uwtsd.ac.uk

Trefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus ar y ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth ar Gydraddoldeb.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan yma

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We fersiwn 2.1 oherwydd yr eithriadau a’r enghreifftiau o beidio â chydymffurfio a restrir isod.

  • Nid yw’r cynnwys yn y rhestr isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

    Ddim yn cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

    Mae nifer o enghreifftiau lle gallai’r rheini sy’n defnyddio bysellfwrdd yn unig neu ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol brofi trefn ffocws annisgwyl wrth iddynt agor cynnwys cuddiedig neu ddialogau moddol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.3 (trefn ffocws) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys 2.1. Caiff y materion hyn eu cywiro wrth i ni lansio ein gwefan newydd ym mis Mehefin 2023.

    Mae ychydig o enghreifftiau lle mae’n bosibl na fydd y rheini sy’n defnyddio bysellfwrdd yn unig yn gallu cael mynediad i’r holl gynnwys. Er enghraifft, o fewn rhai o’r acordiynau, nid yw rhan o’r cynnwys yn hygyrch.   Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.1.1 (bysellfwrdd) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys 2.1. Caiff y materion hyn eu cywiro wrth i ni lansio ein gwefan newydd ym mis Mehefin 2023.

    Nid yw rhai o’n dogfennau PDF a dogfennau eraill sy’n hanfodol at brosesau gweinyddol, yn bodloni’r gofynion hygyrchedd yn llawn. Rydym yn gweithio drwy’r dogfennau hyn i sicrhau y bydd eu cynnwys yn hygyrch neu fod dewis amgen hygyrch ar gael.

    Nid yw rhai elfennau o deitlau wedi eu nodi fel penawdau neu â’r lefel pennawd gywir, felly mae’n bosibl na fydd rhai defnyddwyr technoleg gynorthwyol yn deall y cynnwys yn gyflawn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys 2.1. Caiff y materion hyn eu cywiro wrth i ni lansio ein gwefan newydd ym mis Mehefin 2023.

    Mae nifer o faterion parsio (codio), yn cynnwys elfennau â phriodoleddau dyblyg, sy’n gallu effeithio ar dechnoleg hygyrchedd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.1 (parsio) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys 2.1. Caiff y materion hyn eu cywiro wrth i ni lansio ein gwefan newydd ym mis Mehefin 2023.

    Mae amryw o broblemau yn y cynnwys fideo ar draws y wefan, yn cynnwys diffyg capsiynau, disgrifiadau sain a dewisiadau amgen o ran cyfrwng.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.2.2, 1.2.3 a 1.2.5 sy’n cwmpasu gofynion o ran capsiynau, disgrifiadau sain a dewisiadau amgen o ran cyfrwng. Caiff y materion hyn eu cywiro wrth i ni lansio ein gwefan newydd ym mis Mehefin 2023.

    Baich anghymesur

    Cydnabyddwn nad yw hygyrchedd ein gwefan yn berffaith, ac rydym yn gweithio’n galed i gywiro’r materion a ddynodwyd ar ein platfform cyfredol. Ar hyn o bryd (Hydref 2022) rydym yn datblygu gwefan newydd gyda phartner allanol, a fydd yn mynd i’r afael â’r meysydd hynny nad oes modd eu newid ar ein platfform cyfredol. Er nad ydym yn honni y byddai bob amser yn llwyth anghymesur cywiro’r problemau hyn, rydym yn ymwybodol bod proses sefydlu gwefan newydd yn cymryd amser.  Y dyddiad a ragwelir i ni weithredu’r safle newydd yw Mehefin 2023.

    Mae prosiect y wefan newydd yn cael ei flaenoriaethu oherwydd bydd yn darparu amgylchedd digidol cynhwysol, sy’n fwy hygyrch ar gyfer holl ddefnyddwyr y wefan. Fel y cyfryw, gall fod rhai meysydd ar y wefan gyfredol nad ydynt yn hygyrch nad oes modd i ni fynd i’r afael â nhw na rhoi blaenoriaeth iddynt ar hyn o bryd, oherwydd byddai gwneud hynny’n tynnu adnoddau staff o brosiect y wefan newydd. Yn y pen draw hon fydd yn cynnig yr ateb gorau i’r holl ddefnyddwyr sy’n dod ar draws anawsterau hygyrchedd.

    Cysylltwch â ni os cewch anawsterau i gael mynediad at ddarnau o’n gwefan gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost web@uwtsd.ac.uk. Byddwn yn eich cefnogi i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ac yn ystyried cywiro anawsterau dros dro fesul achos.

  • Dogfennau PDF ac eraill

    Nid yw llawer o’n dogfennau PDF a Word hŷn yn bodloni’r safonau hygyrchedd. Er enghraifft, mae’n bosibl nad ydynt wedi’u marcio er mwyn eu gwneud yn hygyrch i raglen darllen sgrin.  Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 4.1.2 (enw, gwerth rôl) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys 2.1. Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro dogfennau PDF neu eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os  nad ydynt yn hanfodol at brosesau gweinyddol gweithredol. Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd.

    Capsiynau fideo

    Nid oes gan rai o’n fideos hŷn gapsiynau cywir a olygwyd na thrawsgrifiadau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.2.1 (sain yn unig a fideo yn unig a recordiwyd ymlaen llaw), 1.2.2 (capsiynau a recordiwyd ymlaen llaw), 1.2.3 (disgrifiad sain neu ddewis cyfrwng amgen a recordiwyd ymlaen llaw) ac 1.2.5 (disgrifiad sain a recordiwyd ymlaen llaw) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys 2.1. Nid yw’r rheoliadau’n berthnasol i fideos a recordiwyd ac a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2020.  Fodd bynnag, er nad yw’r fideos hyn yn dod o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth, rydym wedi cynnal archwiliad o’n holl fideos ac wedi dechrau proses o ddiweddaru capsiynau ac ychwanegu trawsgrifiadau llawn. Bydd gan unrhyw fideos newydd a gyhoeddwn gapsiynau a olygwyd a thrawsgrifiadau.

    Fideo byw

    Nid oes capsiynau gan ein fideos ffrydio byw. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.2.4 (capsiynau (byw) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys 2.1 Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at fideos ffrydio byw am fod fideo byw wedi’i eithrio o fodloni’r rheoliadau hygyrchedd. Fodd bynnag, byddwn yn ychwanegu capsiynau pan fyddwn yn mewnblannu fersiwn golygedig o’r ffrydiau fideo ar ein gwefan.

    Darganfod Prifysgol

    Nid oes digon o gyferbyniad lliw yn y testun ar baneli ystadegau Darganfod Prifysgol i ddefnyddwyr â nam ar eu golwg. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 (cyferbyniad (isafswm) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys 2.1 Hefyd nid oes ffordd o reoli’r animeiddiad o fewn paneli Darganfod Prifysgol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.2.2 (oedi, aros, cuddio) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys 2.1. Mae paneli Darganfod Prifysgol wedi’u heithrio o fodloni’r rheoliadau hygyrchedd. Cynnwys trydydd parti yw hwn nad yw’n cael ei gyllido na’i ddatblygu gennym, ac nad yw dan ein rheolaeth.

    Testun mewn ffurflenni

    Nid yw testun o fewn ffurflenni’n ymateb i fylchiad testun. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.12 (bylchiad testun) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys 2.1. Mae arddull testun o fewn ffurflenni wedi’i heithrio o fodloni’r rheoliadau hygyrchedd. Cynnwys trydydd parti yw hwn nad yw’n cael ei gyllido na’i ddatblygu gennym, ac nad yw dan ein rheolaeth.

Sut rydym yn rhoi prawf ar y Wefan hon

Rydym yn rhoi prawf ar ein Gwefan yn barhaus, ac rydym yn defnyddio cyfuniad o ddulliau i wirio ein safle:

  • Profion wedi’u hawtomeiddio: rydym yn defnyddio Siteimprove, sy’n sganio ein tudalennau am wallau hygyrchedd, ac yn rhoi gwybod i ni pa rai sydd â’r flaenoriaeth uchaf i’w cywiro.
  • Profion â llaw: rydym yn defnyddio rhestr wirio hygyrchedd i wirio â llaw sampl cynrychiadol o dudalennau o bob rhan o’n gwefan.  Mae hyn yn cynnwys gwirio bod modd symud drwy ein tudalennau gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig, a rhoi prawf ar unrhyw gyferbyniadau lliw nad oedd modd eu gwirio’n awtomatig.

Datganiadau hygyrchedd eraill

Mae rhai rhannau o’n Gwefan yn rhedeg ar systemau gwahanol, a allai fod â nodweddion neu anawsterau hygyrchedd eraill.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 31 Gorffennaf 2020. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 28 Medi 2022.