Addysgu a TAR
Mae ein clwstwr cynhwysfawr o raglenni gradd Addysg, Addysgu a TAR wedi’u llunio i ysbrydoli a pharatoi addysgwyr yfory, gan feithrin dealltwriaeth ddofn o egwyddorion addysgol a’r sgiliau sydd eu hangen i addysgu mewn ffordd effeithiol.
P’un a ydych yn gobeithio arbenigo ym maes Astudiaethau Addysg, Addysg Gorfforol, neu’n bwriadu dilyn trywydd i Statws Athro Cymwysedig (SAC), mae ein hystod amrywiol o raddau’n cynnig profiad academaidd cyfoethog. Archwiliwch arlliwiau cymhleth addysg trwy raglenni fel Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant, Addysg Gynhwysol neu ymgysylltwch â thaith drawsnewidiol drwy ddod yn arbenigwr ym maes Addysg Gynradd.
Wedi’i deilwra i fodloni gofynion datblygol y tirlun addysg yng Nghymru, mae ein cyrsiau’n cynnwys llwybrau arbenigol fel Busnes gyda SAC, Cemeg gyda SAC, a Drama gyda SAC, ymhlith eraill. Ymunwch â ni ar daith addysgol drawsnewidiol sy’n rhoi i chi’r wybodaeth, sgiliau a’r angerdd i gael effaith ddwys ar faes addysg.
Mae cyfleoedd mewn rhai rhaglenni i ddysgu’n hyblyg, gan gynnwys dysgu cyfunol, gyda’r nos a chymunedol. Mae llawer o’n rhaglenni ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddarparu amgylchedd dysgu unigryw a throchol.
Pa bynnag lwybr y byddwch yn ei ddewis, mae ein rhaglenni’n cynnig cyfle cyffrous i ddylanwadu ar fywydau eraill mewn ffordd bositif. Manteisiwch ar eich angerdd am Addysgu a TAR a dechreuwch daith foddhaus sy’n creu effaith barhaol.
Pam astudio Addysgu a TAR yn PCYDDS?
Spotlights
Cyfleusterau
Yn fyfyriwr Addysgu, Addysg, a Gwaith Ieuenctid, bydd gennych fynediad i ystod eang o fannau dysgu ac addysgu. Mae gan ein rhaglenni Addysg Awyr Agored ac Addysg Gorfforol fynediad i Cynefin hefyd, Canolfan y Brifysgol ar gyfer gweithgareddau awyr agored sy’n cynnwys trac pwmpio ar gyfer Beiciau Mynydd, mynediad i Afon Tywi a llwybr Arfordir Cymru, Ysgol Goedwig a lleoliad a gwersyll crefftau coedwriaeth. Mae’r man penodedig hwn yn cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu’r rhaglen ymhellach gyda mwy o fynediad i adnoddau, mannau addysgu gwell a chyfleusterau ar y safle.
Beth sy’n gwneud PCYDDS yn unigryw?
Dechreuwch eich antur gyda gradd israddedig yn PCYDDS. Cewch eich trochi mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli – gan archwilio gwahanol lwybrau gyrfaol ac opsiynau ar gyfer eich dyfodol ar hyd y daith. Beth bynnag fo’ch uchelgeisiau, gwnawn ni eich helpu i fwrw ati’n syth, gyda’ch goliau mewn golwg yn gadarn.