Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (YDDS) dri phrif gampws yn Ne-orllewin Cymru - Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe yn ogystal â champws yn Llundain a chanolfannau dysgu yng Nghaerdydd a Birmingham.
Cyflwynwn raglenni mewn nifer o Ganolfannau Datblygu Allgymorth mewn cydweithrediad â phartneriaid allanol, megis yr YMCA. Mae’r lleoliadau presennol yn cynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Chasnewydd. Mae pob un ohonynt yn cynnig math gwahanol o brofiad myfyrwyr, ac ar yr un pryd maent yn rhannu awyrgylch cymunedol cyfeillgar.
Darganfyddwch Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant drwy fynd ar daith rithwir o gwmpas ein prif gampysau.