Hafan YDDS  -  Y Brifysgol  -   Campysau, Canolfannau a Lleoliadau  -  Canolfannau Datblygu Allgymorth

Outreach Lecturers

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd addysg uwch ar gyfer pawb sy’n gallu ac yn dymuno astudio cwrs prifysgol.

I lawer o bobl, mae gallu manteisio ar y cyfle hwnnw’n dibynnu ar ei leoliad a bod yn agos iawn at gartref.   Efallai bod cofrestru ar ein hystod o raglenni dysgu o bell ac ar-lein yn opsiwn i rai myfyrwyr; i eraill gallai’r profiad o weithio wrth ochr cyd-fyfyrwyr yn y gymuned, gan osgoi treulio amser hir yn teithio i astudio, fod yn ganolog i’r cam cyntaf ar y daith addysg uwch.

Mae’r Brifysgol wedi ymateb i anghenion y myfyrwyr hynny drwy ehangu ein rhaglenni i ystod o ganolfannau allgymorth a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau sydd â ffocws cymunedol.   Drwy ddefnyddio adeiladau sefydliadau o’r fath mae modd i ni gynnig cyfleoedd dysgu sy’n gyfatebol i’r rheini sydd ar gael ar ein prif gampysau.

Rydym yn sicrhau bod y rhaglen astudio, y modd o ddarparu addysgu academaidd, cymorth myfyrwyr a gweinyddu’r rhaglen oll yn debyg i’r hyn sydd ar gael ar y campws, er eu bod wedi’u teilwra i anghenion ein myfyrwyr yn y gymuned.   At hynny, mae’r cyfleusterau a gynigir ar ein prif gampysau hefyd ar gael i’r holl fyfyrwyr os dymunant fanteisio arnynt.

Tystysgrif Addysg Uwch: Sgiliau ar gyfer y Gweithle

Skills in the Workplace lecture

Mae’r Dystysgrif Addysg Uwch: Sgiliau ar gyfer y Gweithle yn un o’n rhaglenni cymunedol mwyaf poblogaidd.

Fe’i lansiwyd yn 2012 fel rhaglen hyblyg er mwyn galluogi myfyrwyr i gydbwyso eu hymrwymiadau o ran gwaith a theulu, ac ar yr un pryd gallu astudio am gymhwyster prifysgol.

Mae’r rhaglen yn rhoi’r offer i fyfyrwyr drosglwyddo eu sgiliau a’u profiad personol i mewn i’r amgylchedd gwaith.  Mae’n datblygu eu hyder i ragweld problemau a dod o hyd i atebion, i weithio’n annibynnol a gyda phobl eraill ar bob lefel yn y gweithle.

Gall cwblhau rhaglen y dystysgrif yn llwyddiannus helpu i symud pobl ymlaen yn eu gyrfa ac arwain at y rhaglen radd: 'Sgiliau Arweinyddiaeth a Rheolaeth ar gyfer y Gweithle’.

Mae’r Brifysgol wedi dynodi galw am y rhaglen o fewn ystod o gymunedau a lleoliadau ac mae wedi sefydlu Canolfannau Datblygu Allgymorth i gyflwyno’r rhaglen gyda’n partneriaid yn y gymuned.