Fel sefydliad rydym yn anelu at fod yn Brifysgol ddi-garbon erbyn 2030 gan annog ein myfyrwyr i ystyried a oes angen cael cerbyd ar y campws ac i ddewis trafnidiaeth leol, opsiynau cynaliadwy a gweithredol i deithio i'r campws lle bynnag y bo modd.
Caerfyrddin
Cyflwynodd Campws Caerfyrddin System Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig ym mis Chwefror 2023.
Mae parcio ar y campws yn rhad ac am ddim i ddeiliaid trwydded yn unig. Caiff ymwelwyr barcio ar y campws ond rhaid iddynt dalu am barcio trwy un o'r mesuryddion talu neu Ap Parking Eye sydd i’w weld ar yr arwyddion.
Llambed
Cyflwynodd Campws Llambed System Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig ym mis Chwefror 2023.
Mae parcio ar y campws yn rhad ac am ddim i ddeiliaid trwydded yn unig. Caiff ymwelwyr barcio ar y campws ond rhaid iddynt dalu am barcio trwy un o'r mesuryddion talu neu Ap Parking Eye sydd i’w weld ar yr arwyddion. Mae ein maes parcio ar gampws Llambed am ddim i ymwelwyr rhwng 5pm a 8am, o ddydd Llun i ddydd Gwener a thrwy'r penwythnos.
Abertawe
Cyflwynodd Campws Abertawe System Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig ym mis Chwefror 2023.
Mae parcio ar y campws ar gyfer deiliaid trwydded yn unig. Caiff ymwelwyr sy'n defnyddio'r cyfleusterau at ddibenion y Brifysgol barcio ar y campws ond rhaid iddynt hysbysu parking@uwtsd.ac.uk cyn eu hymweliad a chofrestru eu cerbyd yn y dderbynfa wrth gyrraedd.
Sylwer bod ein cyfleusterau parcio wedi’u cyfyngu i'r mannau sydd ar gael ac nid yw trwydded yn sicrhau lle i chi. Gall ein cyfleusterau fynd yn brysur iawn yn ystod y tymor ac fe'u defnyddir gan staff ac ymwelwyr hefyd. Os oes gennych opsiwn ar gyfer trafnidiaeth amgen neu rannu car, mae'n cael ei argymell a'i annog yn fawr.
Pwy sy'n Gymwys i Gael Trwydded
Mae pob myfyriwr sydd â chyfeiriad e-bost a rhif myfyriwr yn y Drindod Dewi Sant neu Goleg Sir Gâr yn gymwys i gael trwydded rithwir yn rhad ac am ddim.
Mae trwyddedau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023–2024 ar gael trwy wefan CPP Permit System. Bydd angen eich cyfeiriad e-bost myfyriwr.pcydds.ac.uk a'ch rhif myfyriwr arnoch i wneud cais, a bydd unrhyw drwyddedau a grëir gan ddefnyddio e-bost heblaw un y brifysgol yn cael eu gwrthod.
Wedi i chi gael cadarnhad drwy e-bost eich bod wedi’ch derbyn am drwydded, ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth pellach.
Sylwer: Mae cyfnod gras rhwng 1 Medi a 15 Hydref i ganiatáu i fyfyrwyr gofrestru eu cerbyd i gael trwydded. Mae gan ein meysydd parcio yn y Brifysgol Systemau Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig. Wedi’r dyddiad hwn, bydd Hysbysiadau Tâl Cosb (PCN) yn dechrau cael eu rhoi i'r rhai nad ydynt wedi cofrestru gyda Parking Eye.
Lleoliadau Meysydd Parcio
Cewch barcio yn yr ardaloedd parcio dynodedig i fyfyrwyr a ddangosir ar y mapiau campws cyfatebol:
- Caerfyrddin – maes parcio 2 – Map Meysydd Parcio Caerfyrddin
- Llambed – maes parcio 1 i 7 – Map Meysydd Parcio Llambed
- Abertawe – maes parcio 5 a 7 – Map Meysydd Parcio Abertawe