Diben y Ganolfan er Ymchwilio i Brofiadau Crefyddol yw astudio profiadau ysbrydol a chrefyddol cyfoes. Mae’r ganolfan ar Gampws Llambed, ynghyd â’i harchif o adroddiadau o brofiadau ysbrydol a’i llyfrgell arbenigol.

Sir Alister HardySefydlwyd y Ganolfan Ymchwil gan Syr Alister Hardy ym 1969 fel yr Uned Ymchwilio i Brofiadau Crefyddol yng Ngholeg Manceinion, Rhydychen. Symudodd i Lambed o’i lleoliad blaenorol yng Ngholeg San Steffan, Rhydychen ym mis Gorffennaf 2000.

Nod y Ganolfan yw astudio, mewn modd disgybledig ac mor wyddonol ag y bo modd, adroddiadau cyfoes am brofiadau crefyddol neu ysbrydol a chyhoeddi ei chanfyddiadau.

Bellach mae’r Archif yn cynnwys tua 6,000 o adroddiadau am brofiadau uniongyrchol.  Mae’r rhan fwyaf yn ymateb i’r cwestiwn canlynol:

Ydych chi erioed wedi cael profiad ysbrydol neu grefyddol neu wedi teimlo presenoldeb neu bŵer, pa un a ydych yn ei alw’n Dduw ai peidio, sy’n wahanol i’ch bywyd o ddydd i ddydd?

Mae gan y Ganolfan ddiddordeb o hyd mewn casglu rhagor o adroddiadau.  Os ydych am rannu eich profiad, cysylltwch â ni, trwy e-bost neu gyda'r ffurflen hon: Profiadau Crefyddol, Ysbrydol neu Baranormal - Ffurflen

Ydy profiadau o’r fath yn ennyn eich chwilfrydedd – i wybod yr hyn ydynt, a yw pobl yn eu cael, a’r hyn y maent yn ei ddweud wrthym o bosibl? Hoffech chi gyfathrebu ag eraill sy’n meddwl am yr un peth – a /neu gyfrannu’ch profiad eich hun i'r adroddiadau cynyddol am y profiadau hyn?

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am yr archif yn ogystal â’r ymchwil.

Mae’r Ganolfan hefyd yn cefnogi gradd ôl-raddedig newydd, Meistr drwy Ymchwil mewn Profiadau Crefyddol. Derbynnir y myfyrwyr cyntaf ym mis Hydref 2014. Mae’r MRes yn cynnig cyfle i fyfyrwyr sydd â diddordeb mawr mewn ymchwil ac astudiaeth unigol, ac sy’n dymuno canolbwyntio ar hynny, ond sydd heb ddigon o hyder neu heb yr amrediad llawn o sgiliau a methodolegau ymchwil, i ymgymryd ag astudiaeth ar lefel ôl-raddedig.Mae’n ofynnol i fyfyrwyr y rhaglen ymgymryd â nifer cyfyngedig o fodylau a addysgir (60 credyd) ynghyd ag elfen fwy sylweddol y prosiect ymchwil unigol (hyd at 30,000 o eiriau).

(1)   Cefnogir y radd MRes mewn Profiadau Crefyddol gan fwrsari (yn seiliedig ar angen) a gyllidir gan Ymddiriedolaeth Alister Hardy: i gael mwy o wybodaeth ewch i:  http://www.uwtsd.ac.uk/cy/bwrsariaethau/

Ymddiriedolaeth Alister Hardy ǀ Ymchwil ǀ Cyhoeddiadau ǀ Cysylltiadau ǀ Dolenni ǀ Archif Ar-lein ǀ Cymdeithas Alister Hardy

chat loading...