Cronfa Ddata Canolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol
Mae gan Ganolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol archif o ryw 6,000 o adroddiadau am brofiadau ysbrydol personol a anfonwyd i’r ganolfan ers ei chreu yn 1969.
Er bod yr archif bob amser wedi bod ar agor i aelodau Cymdeithas Alister Hardy er Astudio Profiadau Ysbrydol, ar gampws Llambed Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn unig yr oedd modd cael mynediad i archif y Ganolfan Ymchwil. Bellach mae’r gronfa ddata hon ar gael ar-lein.
Os dymunwch chwilio’r gronfa ddata, dilynwch y cyfarwyddiadau a nodir isod.
Gwneud Cais i Ddefnyddio'r Cronfa Ddata
Er mwyn defnyddio’r gronfa ddata, rhaid i chi ymaelodi â Alister Hardy Trust. I wneud cais i ymaelodi lawrlwythwch a llenwi’r ffurflen: Alister Hardy Membership Application form [PDF], a’i hanfon ynghyd â’r tâl aelodaeth priodol i admin@alisterhardytrust.org.
Wedyn cewch gyfrinair a fydd, o’i ddefnyddio gyda’ch cyfeiriad e-bost, yn rhoi mynediad i chi.
Chwilio
Cofiwch fod yr holl ddeunydd a geir yn yr archifau hyn yn hollol gyfrinachol a than hawlfraint, ac ni ellir ei ddefnyddio'n bersonol, yn academaidd na thrwy sianelau cyfryngol, heb yn gyntaf gael caniatâd ysgrifenedig gan Ganolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol; bydd gofyn rhoi cydnabyddiaeth lawn mewn unrhyw gyhoeddiad.
Er mwyn diogelu’r data hyn, ni ddylid dosbarthu detholiadau o’r adroddiadau mewn unrhyw fodd, boed yn electronig neu fel arall.
Dangosir adroddiadau'r profiadau yn union fel y daethant i law, heb eu caboli, gyda gwallau sillafu a gramadeg, manylion diangen, ac ati. Mae angen i chi ystyried hyn wrth wneud ymchwil testun llawn.
Crëwyd y gronfa ddata dros nifer o flynyddoedd, gan nifer o bobl wahanol. Wrth ddewis allweddeiriau ar gyfer chwiliad ystyriwch hyn, ac os na chewch ganlyniadau ag un gair, rhowch gynnig ar air arall tebyg (e.e., os na chewch ddim trwy ‘countryside’, rhowch gynnig ar ‘nature’). Gweler y rhestr lawn o Allweddeiriau’r Ganolfan. Ni ddylid defnyddio’r allweddeiriau hyn at ddibenion ystadegol.
- Cewch ddechrau trwy deipio allweddair yn y blwch PWNC (SUBJECTS) (e.e. ‘music’, ‘nature’, ‘eating’).
- Os yw eich allweddair yn anarferol neu’n benodol iawn, chwiliwch yn y blwch TESTUN (TEXT) gan ddefnyddio’r gair hwnnw. e.e. Mae’n debyg na fydd chwilio am Rembrandt yn y blwch PWNC yn llwyddiannus (er y byddai art neu painting), ond byddai’n fwy cynhyrchiol, o bosibl, yn y blwch TESTUN.
- Defnyddir allweddeiriau ar gyfer y blwch PWNC, felly ni fydd ymadrodd yn esgor ar unrhyw ganlyniad. Chwiliwch am light a gold neu pink yn hytrach na golden light neu pinkish light. Os rhowch music a light yn y blwch PWNC ni chewch ond yr adroddiadau hynny sy’n cynnwys y ddau air.
- Ar gyfer geiriau sy'n rhannu'r un gwreiddyn, megis Buddhism a Buddhist neu religion a religious, teipiwch wreiddyn y gair yn unig.
- Cewch gyfyngu ar chwiliad trwy deipio mewn mwy nag un blwch (e.e. bydd PWNC: light; CEFNDIR CREFYDDOL (RELIGIOUS BACKGROUND):Jewish ond yn dod o hyd i adroddiadau lle mae’r cefndir crefyddol yn Iddewig a lle ceir cyfeiriadau at olau).
- Peidiwch â nodi unrhyw beth yn y blwch RHIF COFNOD (RECORD NUMBER) oni bai eich bod yn chwilio am un cofnod/adroddiad penodol.
- Yn y blwch TESTUN cewch roi allweddair, a deuir o hyd i unrhyw adroddiad sy’n cynnwys y gair hwn. Ond cofiwch y gallai teipio child ddod o hyd i adroddiadau am blentyn neu blant, ond hefyd ddeunydd sy’n amherthnasol i’ch chwiliad (e.e. ‘I was taking the children to school’ neu ‘I didn’t have any experiences as a child’).
- Peidiwch â theipio ymadroddion yn y blwch TESTUN oni bai eich bod yn chwilio am adroddiadau sy’n cynnwys yr union ymadrodd hwnnw yn unig.