Hafan YDDS  -  Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu  -  Casgliadau Arbennig as Archifau  -  Canolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy  -  Digwyddiadau

Digwyddiadau

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am yr amrywiaeth o ddigwyddiadau a drefnir gan y Ganolfan, yn y gorffennol ac yn gyfredol.

Digwyddiadau’r Dyfodol

 Cynhelir y gynhadledd nesaf yn 2024. Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei huwchlwytho yma yn nes ymlaen eleni.



Digwyddiadau’r Gorffennol

Cynhadledd y Ganolfan Ymchwil i Brofiadau Crefyddol 2022

Cynhelir cynhadledd flynyddol y Ganolfan Ymchwil i Brofiadau Crefyddol ar 9 Gorffennaf 2022 yn Llambed.  Pwnc y gynhadledd yw Profiadau Cyfriniol: Ddoe a Heddiw, a bydd cyn Archesgob Caergaint, Rowan Williams, yn rhoi Darlith Llambed Alister Hardy yn ei anerchiad The Soul and the Trinity in Julian of Norwich.

Gweler isod am y rhaglen gyda gwybodaeth am y siaradwyr a’u papurau:

Rhaglen y Gynhadledd - Gorffennaf 2022

Cynhadledd Canolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol 2021

Y prif siaradwr oedd yr Athro Jane Shaw, Coleg Harris Manchester, Rhydychen. Siaradwyr eraill oedd Dr Jack Hunter o'r Drindod Dewi Sant, a’r Athro Marta de Freitas, Prifysgol Gatholig Brasilia.

Cliciwch ar y dolenni isod i gael mynediad i brif ddarlithoedd o 10 Gorffennaf 2021.

Recordiadau fideo:

Dolenni ychwanegol:

Cynhadledd Canolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol 2019

Yn 2019 bu Canolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol yn dathlu ei hanner canmlwyddiant. I ddathlu’r dyddiad cynhaliwyd cynhadledd arbennig o 1 Gorffennaf i 3 Gorffennaf 2019 ar y pwnc ‘Dyfodol Astudio Profiadau Crefyddol ac Ysbrydol’.  Y prif siaradwr oedd yr Athro Ann Taves, Athro Nodedig Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Califfornia yn Santa Barbara a chyn Lywydd Academi Crefydd America.

Cynhadledd Canolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol 2018

Cynhaliwyd pumed gynhadledd Canolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol ar 18 Gorffennaf 2018 a’r pwnc oedd ‘Ysbrydolrwydd a Llesiant: Safbwyntiau Rhyng-grefyddol’.  Cyflwynwyd Darlith Llambed Alister Hardy gan yr Athro William West, Prifysgol Manceinion.  Siaradwyr eraill oedd Mark Seed a Dr Brenda Llewellyn Ihssen.

Cynhadledd y Ganolfan Ymchwil i Brofiadau Crefyddol 2017

Cynhaliwyd pedwaredd gynhadledd Canolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol ar 16 Gorffennaf 2017 a’r pwnc oedd ‘Ysbrydolrwydd, Therapi a Llesiant’. Rhoddwyd Darlith Llambed Alister Hardy gan Dr Wendy Dossett, Prifysgol Caer.  Siaradwyr eraill oedd Lymarie Rodriguez, Patricia R. Souza, Dr Thomas Jansen, Parch. Ddr Jeff Leonardi a’r Athro Bettina Schmidt.

Mae modd lawrlwytho copïau o’r cyflwyniadau PowerPoint a’r taflenni isod:

Cynhadledd y Ganolfan Ymchwil i Brofiadau Crefyddol 2016

Cynhaliwyd trydedd gynhadledd Canolfan Ymchwil Alister Hardy i Brofiadau Crefyddol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar 3 Gorffennaf 2016 yn yr Hen Neuadd yn Adeilad Dewi Sant ar gampws Llambed a’r pwnc oedd ‘Ysbrydolrwydd a Llesiant’.  Nod y diwrnod oedd trafod y cysylltiad rhwng ysbrydolrwydd ac iechyd o safbwynt ymagweddau disgyblaethau amrywiol.

Rhoddwyd Darlith Llambed Alister Hardy gan y Parch. Ganon Dr Joanna Collicutt, Darlithydd Karl Jaspers mewn Seicoleg ac Ysbrydolrwydd yng Ngholeg Ripon Cuddesdon, Rhydychen. Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Dr Jeff Leonardi, Dr Penny Sartori a’r Athro Chris Roe.

Mae modd lawrlwytho copïau o’r cyflwyniadau isod:

Digwyddiadau 2015

Ymwybyddiaeth a’i Hesblygiad: O Fod Dynol i Ôl-ddynol

Taras Handziy
Prifysgol Maria Curie-Sklodowska yn Lublin, Gwlad Pwyl a myfyrwraig ar ymweliad yn y Ganolfan Ymchwil i Brofiadau Crefyddol.

6 Mai 2015, Llyfrgell y Sylfaenwyr, Campws Llambed, 6 p.m.

Darlith Flynyddol Llambed Alister Hardy 2015: Crisialu’r Angylion - Cynnig methodolegol ar gyfer astudio angylion

Prif anerchiad: Parch. Ddr June Boyce-Tillman MBE
Athro mewn Cerddoriaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Caer-wynt ac Athro Cysylltiol Prifysgol y Gogledd-orllewin, De Affrica.

Prif ddarlith a chyfres o bapurau yn dilyn ar angylion mewn traddodiadau crefyddol gwahanol (e.e. angylion mewn Iddewiaeth, Cristnogaeth, Bwdhaeth ac Islam).

3 Gorffennaf 2015, Llyfrgell y Sylfaenwyr, Campws Llambed, 10am a 4pm.

Digwyddiadau 2014

Cynhadledd Profiadau crefyddol yn Llambed

Prif anerchiad: Dr Fiona Bowie
Coleg y Brenin Llundain.

Dydd Gwener 4 Gorffennaf 2014, Llyfrgell y Sylfaenwyr, Campws Llambed, 10.00am - 4.30pm. 

Recordiad o'r Brif Ddarlith [dolen i’r recordiad Fideo]

Mae argraffiad helaethach o bapurau’r gynhadledd a chyfraniadau eraill ar gael yn y llyfr newydd The Study of Religious Experience – Approaches and Methodologies, golygwyd gan Bettina E. Schmidt (Equinox 2016).

Profiadau porth angau a pherthynas y meddwl a’r corff: dull damcaniaeth systemau

Dr David Rousseau
Dydd Mercher 14 Mai 2014, Llyfrgell y Sylfaenwyr, Campws Llambed, am 4 pm.

Afterlife Research Centre: rhwydwaith rhyngwladol o ymchwilwyr yn archwilio dulliau anthropolegol ac ethnograffig o astudio’r byd a ddaw, byd yr ysbrydion, mediwmaeth, llesmair, meddiannu, siamaniaeth, iachau a phrofiadau crefyddol.