Hafan YDDS - Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu - Casgliadau Arbennig as Archifau - Canolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy - Dolenni
Mae Canolfan Alister Hardy er Ymchwilio i Brofiadau Crefyddol hefyd yn gysylltiedig â’r canlynol, a allai fod o ddiddordeb i ymwelwyr yma:
Mae Cymdeithas Alister Hardy yn cefnogi gwaith Canolfan Alister Hardy er Ymchwilio i Brofiadau Crefyddol. Mae’n lledaenu gwybodaeth, ac yn darparu canolbwynt i bobl sydd â diddordeb mewn astudio profiadau ysbrydol/crefyddol neu yn eu natur.
Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd
Mae’r Brifysgol yn benderfynol o hyrwyddo astudiaeth sy’n seiliedig ar y safonau uchaf o ran ysgolheictod yng nghyd-destun parch cyffredinol i amrywiaeth a didwylledd y gwahanol draddodiadau crefyddol.
Meta-Net
Mae Meta-Net yn cysylltu rhwydweithiau – Cristnogol ac eraill – sy’n datblygu ac yn hyrwyddo mynegiant cyfoes o ysbrydolrwydd.
The Academy of Spirituality and Paranormal Studies (Cangen Academaidd Spiritual Frontiers Fellowship International) ar adran Dolenni (Links) eu tudalen we. Mae gan yr Academi ddolenni at 140 o safleoedd eraill sydd wedi’u rhestru yn ôl eu cynnwys. Ei nod yw annog deialog, cyfnewid syniadau a chydweithredu rhwng clerigwyr ac academyddion ym maes crefydd ac athroniaeth a gwyddonwyr, cynnal rhaglen addysgol ar gyfer yr ysgolheigion hyn, aelodau’r Spiritual Frontiers Fellowship a’r cyhoedd, a gweithio’n agos gyda phob sefydliad cydnabyddedig sydd â diddordebau cysylltiedig ym meysydd addysg, gwyddoniaeth ac ymchwil seicigol gan roi cyngor iddynt.
The Churches Fellowship for Psychical and Spiritual Studies: Diben y CFPSS yw hyrwyddo’r gwaith o astudio profiad seicigol a chrefyddol mewn cyd-destun Cristnogol.
The Exceptional Human Experience Network
The Esoteric Experience: Mae'r wefan hon yn archwilio profiadau afreolaidd, crefyddol, ac ysbrydol. Mae'r ffocws ar y seicoleg y profiadau hyn a'u perthynas i draddodiadau esoterig y Gorllewin.
The International Association for Near-Death Studies (IANDS): profiad ar fin marw (NDE) yw un o’r digwyddiadau emosiynol mwyaf grymus a seicolegol sydd i’w cael. Mae’r safle hwn wedi’i ddarparu fel gwasanaeth cyhoeddus i roi gwybodaeth ddibynadwy am brofiadau ar fin marw, ynghyd â rhagor o wybodaeth a chymorth.
The Scientific and Medical Network: Datganiad cenhadaeth y Rhwydwaith yw dyfnhau dealltwriaeth ym maes gwyddoniaeth, meddygaeth ac addysg trwy feithrin dadansoddiad rhesymol a dirnadaeth reddfol.
The Society for Psychical Research: Nod y Gymdeithas yw archwilio heb ragfarn ac yn ddiduedd ac mewn ysbryd gwyddonol i’r cyneddfau hynny mewn pobl, boed yn wir neu’n dybiedig, sy’n ymddangos yn anesboniadwy yn ôl unrhyw ddamcaniaeth a gydnabyddir yn gyffredinol.
The World Congress of Faiths: Nod gwaith WCF yw meithrin gwell dealltwriaeth, cydweithrediad a pharch rhwng pobl o wahanol ffydd.
The British Teilhard Association: Diben Cymdeithas Teilhard Prydain yw hyrwyddo’r gwaith o astudio a datblygu gweledigaeth Teilhard de Chardin o fydysawd sy'n esblygu at gydgyfeiriad neu gwblhad yn y pen draw mewn “canolbwynt cosmig cyffredinol” neu “ganol y canol”, a wêl, yn y traddodiad Cristnogol, yng Nghrist Cosmig Sant Ioan a Sant Paul a Thadau’r Eglwys.