Hafan YDDS - Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu - Casgliadau Arbennig as Archifau - Canolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy - Ymddiriedolaeth Alister Hardy
Am yr Ymddiriedolaeth Alister Hardy
Elusen gofrestredig yw Ymddiriedolaeth Alister Hardy wedi’i rheoli gan Fwrdd o Ymddiriedolwyr. Y bwriad yw bwrw ymlaen â’r gwaith o astudio profiadau crefyddol ac ysbrydol a gychwynnwyd gan Syr Alister Hardy FRS ym 1969.
Ceisia’r Ymddiriedolaeth fynd i’r afael ag ymchwil gwrthrychol, gan gyfleu ei chanfyddiadau i’r cyhoedd, a chynnig fforwm ar gyfer trafodaeth i’r rheini sydd â diddordeb mewn ysbrydolrwydd. Wrth geisio cyflawni’i hamcanion, mae’r Ymddiriedolaeth yn croesawu adroddiadau o brofiadau ysbrydol / crefyddol neu drosgynnol ac mae'n gwerthfawrogi pob rhodd i'w chynorthwyo gyda'i gwaith.
Mae gan yr Ymddiriedolaeth archif unigryw o adroddiadau o brofiadau crefyddol sy’n cael eu cadw ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Campws Llambed.
Dyma rai o flaenoriaethau’r Ymddiriedolaeth:
- Ymchwil rhyngddisgyblaethol i ysbrydolrwydd cyfoes a phrofiadau crefyddol;
- Dod â phobl sydd â diddordeb yn yr astudiaeth hon at ei gilydd;
- Gweithio gyda sefydliadau eraill y mae eu diddordebau’n gorgyffwrdd;
- Tynnu sylw at bwysigrwydd ysbrydolrwydd ym maes addysg, gofal iechyd, busnes a meysydd eraill.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cyhoeddi llyfrau a phapurau achlysurol, amlinelliadau o ymchwil a chylchlythyr rheolaidd, De Numine.
Noddwyr
Dyma noddwyr Ymddiriedolaeth Alister Hardy:
- Ei Sancteiddrwydd y Dalai Lama
- Yr Athro Seyyed Hossein Nasr
- Y Parch. Dr John A. Newton CBE
- Ei Arucheledd yr Archesgob, Koken Otani
- Syr Jonathon Porritt CBE
- Rabi Arglwydd Jonathan Sacks
- Swami Chidanand Saraswati
- Dr Rowan Williams, the Right Revd. & the Right Honourable Lord Williams of Oystermouth PC FBA FRSL FLSW
Ymddiriedolwyr
Dyma rai o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Alister Hardy:
- The Revd. Canon Professor Leslie Francis (cadeirydd)
- Prof John Harper (Is-Gadeirydd)
- Dr David Greenwood (Trysorydd)
- Dr Andrew Burns (Ysgrifennydd Anrhydeddus)
- Dr Tom Farley
- Dr Mark Fox
- John Franklin
- Tanya Garland
- Dr David Rousseau
- Revd Dr Tania ap Siôn
- Revd Prof Andrew Village
Cyfarwyddwyr
Dyma Gyfarwyddwyr Ymddiriedolaeth Alister Hardy:
- Prof Bettina Schmidt:b.schmidt@uwtsd.ac.uk