Hafan YDDS - Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu - Casgliadau Arbennig ac Archifau
Casgliadau Arbennig
Croeso i’n Casgliadau Arbennig a’n Harchifau. Dathlu nodweddion unigryw.
Mae’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn gartref i Gasgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, gan gynnwys llyfrau argraffedig, a llawysgrifau ac archifau hynaf y Brifysgol.
Mae’r Casgliadau Arbennig yn cynnwys dros 35,000 o weithiau argraffedig, 8 llawysgrif o’r Oesoedd Canol, tua 100 o lawysgrifau o’r cyfnod wedi’r Oesoedd Canol a 69 o incwnabwla.
Mae’r deunydd sydd yn yr Archifau yn cynnwys archif sefydliadol Coleg Dewi Sant, yn ddiweddarach Prifysgol Cymru Llambed, Coleg y Drindod Caerfyrddin, Prifysgol Fetropolitan Abertawe, a’r colegau cyfansoddol, pob un ohonynt yn aelod cyfansoddol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae’r llyfrgell hefyd yn gartref i Ganolfan Ymchwil Profiad Crefyddol Alister Hardy, sy’n cynnwys archif o dros 6, 000 o adroddiadau ar brofiadau uniongyrchol pobl o bob rhan o’r byd sydd wedi cael profiad ysbrydol neu grefyddol. Wedi’i sefydlu gan Syr Alister Hardy yn 1969 yng Ngholeg Manchester, Rhydychen, symudodd y ganolfan ymchwil i Lambed ym mis Gorffennaf 2000. Bwriad y Ganolfan yw astudio adroddiadau cyfoes am brofiadau crefyddol neu ysbrydol. Yn ogystal â’i harchif o adroddiadau, mae’r ganolfan ymchwil hefyd yn gartref i gasgliad arbenigol o lyfrau a chyfnodolion.
Casgliad Treftadaeth Jazz Cymru yw’r archif jazz amlgyfrwng hynaf yn y DU. Sefydlwyd y Casgliad gan yr Athro Jen Wilson yn 1986 a symudodd i’r Brifysgol yn 2008. Mae’n cynnwys llyfrgell o gylchgronau a chyfnodolion; recordiadau’n cynnwys rhai ar 78s, EPs, LPs, CDs, DVDs, VHSs a chwaraewyr cerddoriaeth; recordiadau ril-i-ril a chwaraeydd, ffotograffau, Hanesion Llafar a Gwisgoedd Llwyfan unigryw, gyda’r gynharaf yn dyddio o 1900. Mae Paneli Arddangosfeydd Teithiol hefyd yn rhan o’r Casgliad. Nod y Casgliad fydd astudio hanes diwylliannol Cymru a threftadaeth Affricanaidd Americanaidd. Cysylltwch â: jazzheritagewales@uwtsd.ac.uk