Meddai Alfred Edwin Morris (1894-1971) amdano'i hun, 'Fi oedd y Sais cyntaf i ddod yn archesgob Cymru ac mae'n debyg mai fi fydd yr olaf hefyd.'
Daeth Morris o Lye, ger Stourbridge. Ef oedd yr hynaf o bedwar mab Alfred Morris, gemydd, a'i wraig Maria Beatrice, née Lickert. Roedd ei ysgol gyntaf yn Stambermill, Swydd Gaerwrangon; wedyn aeth i Ysgol Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Gwasanaethodd yng Nghorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ar ôl i'r rhyfel ddod i ben, enillodd Morris brif ysgoloriaeth hŷn i astudio yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Daeth yn brif ysgolhaig ac ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Diwinyddiaeth yn 1922. Yn ystod ei gyfnod yno, enillodd y wobr Hebraeg ddwywaith, ynghyd â gwobr Bates a'r wobr ddiwinyddol. Aeth yn ei flaen i Goleg Sant Ioan Rhydychen, lle, ddwy flynedd yn ddiweddarach, enillodd radd dosbarth cyntaf arall mewn Diwinyddiaeth. Yn Rhydychen, enillodd wobr iau Cyfieithiad y Deg a Thrigain yn 1923 a gwobr iau’r Testament Groeg yn 1924. Aeth ei symudiad nesaf ag ef yn ôl i Lambed, lle cafodd ei benodi'n Athro Hebraeg a Diwinyddiaeth i ddilyn Tyrrell Green. Cafodd ei urddo'n ddiacon yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn ddiweddarach y flwyddyn honno ac yn offeiriad yn 1925. Hefyd yn 1925, priododd ag Emily Louisa Davis; cafodd y pâr bedwar mab ac un ferch.
Yn 1932, cymerodd Morris ei radd BD yn Llanbedr Pont Steffan; hola Price ai hon yw'r unig enghraifft o bennaeth adran yn dod yn fyfyriwr ôl-raddedig yn ei adran ei hun! Gallai Morris fod yn ddadleuol a bu ychydig o wrthdaro ag aelodau eraill y staff. Fe'i cyhuddwyd gan un o’i gydweithiwr o geisio dysgu Cymraeg gyda'r bwriad o ddod yn esgob. Rhoddodd y gorau ar unwaith i'w ymdrechion i ddysgu’r iaith. Mewn hunangofiant anghyhoeddiedig, meddai Morris ‘The innuendo wounded me so deeply that I resolved there and then that I would never lend any colour to it, and I at once dropped my attempt to learn Welsh.' Roedd Morris hefyd yn rhan o ffrae hir â'r Athro William Henry Harris.
Etholwyd Morris yn henadur bwrdeistref Llanbedr Pont Steffan yn 1936 a gwasanaethodd yn faer Llambed yn 1942.
Arhosodd Morris yn Llambed nes iddo gael ei benodi'n esgob Trefynwy yn 1945. Hwn oedd y tro cyntaf iddo gael ei gyflogi gan yr Eglwys; ni fu erioed yn offeiriad plwyf. Yn ei rôl newydd, ysgrifennodd dri llyfr yn eithaf cyflym ar ôl ei gilydd, The Church in Wales and Nonconformity (1949), The Problem of Life and Death (1950) a The Catholicity of the Book of Common Prayer (1952). Ym 1957, fe'i hetholwyd yn archesgob Cymru, (gan barhau'n esgob Trefynwy). Roedd yr Esgob W. Glyn H. Simon o Landaf yn feirniadol o'i benodiad, gan ystyried Morris yn Sais i’r carn. Fodd bynnag, gorfu gyfaddef bod Morris yn ddiwinydd da.
Unwaith eto, nid oedd ofn dadleuon ar Morris. Roedd yn ddyn cadarn ei farn ac yn anaml iawn y byddai'n tawelu er mwyn cadw'r ddysgl yn wastad. Wrth bregethu yn Abaty Westminster yn 1952, dywedodd mai dogfen wladol oedd y llw y byddai'r frenhines yn ei dyngu adeg ei choroni. Nid oedd yn dilyn y dylai aelodau Eglwys Loegr dderbyn yr ymadrodd 'y grefydd ddiwygiedig Brotestannaidd a sefydlwyd yn ôl y gyfraith' yn ddisgrifiad o'u ffydd eu hunain. Disgrifiodd hefyd anghydffurfwyr a Chatholigion yn dresbaswyr, gan ddatgan mai'r Eglwys yng Nghymru yw'r ‘Church in this land, and we cannot, without denying our very nature, yield one iota of this claim’. Yn 1961, ymwthiodd i un o ddadleuon 'y capel a’r llan' ynghylch agor tafarndai agor ar y Sul. Cyhoeddodd lyfryn yn dadlau bod alcohol yn rhodd gan Dduw, er ei fod yn beryglus i rai ac y dylent ei osgoi. ‘There is no difference in drinking on Sunday and in drinking on any other day,' meddai.
Roedd Morris yn adnabyddus iawn, yn annibynnol ei feddwl ac yn ddewr. Ffurfiodd ei farn ei hun, ar ôl treulio cryn dipyn o amser yn astudio’r pwnc a mynegodd y farn honno’n groyw bob tro. Roedd yn well awdur na siaradwr; braidd yn ddiflas oedd ei arddull wrth bregethu. Roedd hyd yn oed ei wrthwynebwyr yn cydnabod ei ddidwylledd.
Roedd Morris yn gefnogwr cryf iawn i Goleg Dewi Sant gydol ei oes; dywedodd unwaith fod ganddo gariad 'o waelod calon' at y sefydliad. Ymddeolodd yn 1967, gan symud yn ôl i Lanfair Clydogau, ychydig y tu allan i Lambed. Bu farw yn Hafdir, Llanbedr Pont Steffan, ar 19 Hydref 1971.
Ffynonellau
Peart-Binns, J.S. (1985). Arglwydd Archesgob Cymru. Alfred Edwin Morris – election and aftermath. Journal of Welsh ecclesiastical history. 2,55-86. Canfuwyd yn https://journals.library.wales/view/1127665/1127759/60#?cv=60&m=1&h=&c=0&s=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F1127665%2Fmanifest.json&xywh=-1594%2C0%2C5534%2C3387. [Darllenwyd 5 Mai 2020]
Price, D.T.W. (1990). A history of Saint David’s University College Lampeter. Volume two: 1898-1971. University of Wales Press
Obituary Most Revd Dr A.E. Morris former archbishop of Wales. (1971, October 20). Canfuwyd yn https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS271152468/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=aced7050
Witton-Davies, C. (2004, September 23). Morris, (Alfred) Edwin (1894–1971), archbishop of Wales. Oxford Dictionary of National Biography. Canfuwyd 5 Meh. 2020, yn https://www-oxforddnb-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-31467