William Edmunds (1827–1875) oedd dirprwy brifathro cyntaf yr hyn a oedd i ddod yn Goleg y Drindod, Caerfyrddin.
Cafodd Edmunds ei eni a’i fagu yn Llanbedr Pont Steffan, yn fab i’r cyfrwywr, Edmund Edmunds, a’i wraig, Mary. Cafodd ei fedyddio ar 27 Rhagfyr 1827. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llanbedr Pont Steffan, cyn iddo fynd ymlaen i Goleg Dewi Sant. Yno roedd yn un o’r myfyrwyr mwyaf nodedig, gan ddod yn uwch-ddisgybl ac ennill sawl gwobr. Yn 1849, cafodd ei ordeinio gan esgob Tyddewi, Connop Thirlwall. Dyfarnwyd Gwobr yr Esgob iddo hefyd am yr ymgeisydd mwyaf llwyddiannus. Fodd bynnag, ei benodiad cyntaf oedd fel dirprwy brifathro Coleg Hyfforddi Caerfyrddin, sef rhagflaenydd Coleg y Drindod. Bodlonodd amod y Gymdeithas Genedlaethol y dylai’r dirprwy brifathro allu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg. Yn wir, anogodd y boneddigion i ddysgu rhywfaint o Gymraeg llafar er mwyn medru cyfathrebu â’r tlodion mewn ffordd ystyrlon, wrth wrthwynebu ‘unrhyw gri cul o wladgarwch neilltuedig’. Fodd bynnag, perthynas anodd oedd rhwng Edmunds a William Reed, prifathro’r coleg, yn aml. Yn ei ddyddiaduron, mae Edmunds yn sôn yn aml am absenoldeb Reed o’r coleg. Ysgrifennodd ar 2 Ebrill 1852, ‘Mr Reed yn absennol o’r ysgol heddiw! Wedi cyflwyno gwers ar y litani a dwy wers Ladin. Mae eu Lladin yn druenus!’ Collodd hyder hefyd yn y cwricwlwm, gan ddweud, ‘Yr hyn yr ydym yn ei alw’n addysgu wedi cael ei derfynu’n llwyr.’
Gadawodd Edmunds Gaerfyrddin yn 1853 i fynd yn bennaeth Ysgol Ramadeg Llanbedr Pont Steffan. Bach iawn o ddisgyblion oedd yno ar y pryd, gan fod cystadleuaeth o Ystradmeurig ac o’r ysgol newydd yn Llanymddyfri. Canolbwyntiodd Edmunds ar wella enw academaidd yr ysgol, ac fe ffynnodd o dan ei arweiniad. Mynychodd disgyblion o bob sir yng Nghymru. Ar un adeg, dywedwyd bod hanner y myfyrwyr yng Ngholeg Dewi Sant wedi mynychu’r ysgol ramadeg cyn hynny. Aeth rhai ohonynt ymlaen i ennill anrhydeddau uchel yn Rhydychen.
Edmunds a drefnodd yr apêl ar gyfer cyflwyno tysteb i Llewelyn Lewellin, prifathro cyntaf a hir ei wasanaeth Coleg Dewi Sant.
Yn 1863, penodwyd Edmunds hefyd yn ficer amhreswyl Rhostïe, yn agos i Lanilar. Cafodd yr hawl i gadw ciwrad, ac roedd yn byw yno yn ystod gwyliau ysgol. Adeiladodd tŷ ysgol ac adnewyddodd y ficerdy.
Roedd Edmunds yn ysgolhaig talentog, ac yn fyfyriwr hanes lleol brwd. Roedd yn gysylltiedig â’r 11eg argraffiad o Drych y Prif Oesoedd Theophilus Evans yn 1854, gan ychwanegu cyflwyniad hir. Yn 1856, cyhoeddodd lyfr sillafu Cymraeg, Gwers-lyfr Llanbedr: yn Cynwys Gwersi Hawdd i Ddysgu Sillebu a Darllen Cymraeg. Hefyd yn y flwyddyn hon, adolygodd Y Ffydd Ddiffuant gan Charles Edwards ar gyfer ei wythfed argraffiad. Cafodd papur Edmunds o 1859, ‘On some old families in the neighbourhood of Lampeter’, ei gyhoeddi yn Archӕlogia Cambrensis yn 1860, ac ychydig yn ddiweddarach ar ffurf llyfr.
Bu farw Edmunds yng nghartref ei frawd ar 21 Chwefror 1875; cafodd ei gladdu yn eglwys blwyf Llanbedr Pont Steffan.
Ffynonellau
Jones, D. G. (1959). Edmunds, William (1827–1875), ysgolfeistr a llenor. Y Bywgraffiadur Cymreig. Ar gael o: https://bywgraffiadur.cymru/article/c-EDMU-WIL-1827. [Cyrchwyd ar 30 Ebrill 2020]
Price, D.T.W. (1977). A history of Saint David’s University College Lampeter. Vol 1: to 1898. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Visit to Lampeter. Transactions and archaeological record, Cardiganshire Antiquarian Society. 1911; 1(1): 32-47. Ar gael o: https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1177372/1177373/59#?c=&m=&s=&cv=59&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F1177372%2Fmanifest.json&xywh=-2136%2C-226%2C6836%2C4508 [Cyrchwyd ar 30 Ebrill 2020]
Cambrian News and Merionethshire Standard. Lampeter. In memoriam. Cambrian News and Merionethshire Standard. 12 Mawrth 1875. Ar gael o: https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3307292/3307297/17/. [Cyrchwyd ar 30 Ebrill 2020]
Grigg, R. (1998). History of Trinity College Carmarthen 1848–1998. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru