David Trevor William Price yw awdur A History of Saint David’s University College Lampeter, sef hanes swyddogol y sefydliad.
Mab offeiriad oedd Price. Er iddo gael ei eni ym Mae Colwyn, tyfodd i fyny yn Swydd Amwythig, yn fachgen balch o’i Gymreictod. Mynychodd Ysgol Ramadeg Wem cyn derbyn Ysgoloriaeth Agored i ddarllen Hanes Modern yng Ngholeg Keble Rhydychen. Ei swydd gyntaf ar ôl graddio oedd fel Golygydd Cynorthwyol i'r Victoria County History of Shropshire.
Daeth Price i ddysgu Hanes yng Ngholeg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan yn 1970, a chafodd ddyrchafiad yn Uwch Ddarlithydd Hanes a Diwinyddiaeth yn 1987. Cafodd ei ddenu gan draddodiad Anglicanaidd y coleg, yn ogystal â’r cyfle i adfywio ei Gymraeg. Ar y dechrau, mae’n dweud fel iddo dreulio awr yng Ngwesty’r Castle, sawl gwaith yr wythnos yng nghwmni Idris Reynolds o’r Llyfrgell, yn siarad Cymraeg yn unig.
Ochr yn ochr â'i ddarlithio, daeth Price yn archifydd anrhydeddus cyntaf y sefydliad. Casglodd ac ymgynullodd ddefnyddiau archifol yn perthyn i hanes CDS, ynghyd â phapurau cyn aelodau staff a myfyrwyr. Cadwyd y rhain mewn blychau wedi eu mynegeio a'u rhifo. Ar y cyd â threfnu’r cofnodion, gweithiodd Price ar A History of Saint David’s University College Lampeter. Nododd y gyfrol cyntaf, a gwmpasodd y cyfnod tan 1898, ben-blwydd y coleg yn 150 oed. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1977. Dywedodd yr adolygydd yng Ngheredigion fel a ganlyn: ‘The Reverend D.T.W. Price has an interesting tale to relate. In this task, he has succeeded admirably…’. Cyhoeddwyd yr ail gyfrol yn 1990 a oedd yn cwmpasu'r cyfnod o 1898 i 1971. Disgrifiodd Gibson hwn fel: ‘fascinating, sympathetic but balanced account of the development of a university college.’
Yn ogystal, ysgrifennodd Price astudiaeth ddwyieithog, Yr Esgob Burgess a Choleg Llanbedr = Bishop Burgess and Lampeter College, (Gwasg Prifysgol Cymru, 1987). Mae’r rhan gyntaf yn archwilio bywyd ac amser Thomas Burgess, a'r ail ran yn manylu ar y coleg a sefydlodd. Roedd y gyfrol yn rhan o’r gyfres ddwyieithog Dydd Gŵyl Dewi Sant. Nododd Jones, ‘It is a tale well told, written lucidly in English and Welsh.’
Gan edrych tu hwnt i'r stori Llanbedr Pont Steffan, cyhoeddodd Price A History of the Church in Wales in the Twentieth Century, mewn fersiynau Saesneg a Chymraeg, (Church in Wales Publications, 1990). Ysgrifennodd Herbert: ‘What we have from his meticulous pen and twinkling eye is a view of an ecclesiastical institution, struggling to establish an identity, wrestling with huge social forces; and language.’ Llyfr diweddaraf Price yw bywgraffiad Esgob Bangor a wasanaethodd am gyfnod hir, sef Archbishop Gwilym Owen Williams: ‘G.O.’: His Life and Opinions, (Church in Wales Publications, 2017). Yn ysgrifennu yn y Church Times, disgrifiodd Williams waith Price yn drylwyr iawn. Cyfrannodd Price lawer o erthyglau i gyfnodolion hefyd, gan gynnwys adroddiad o gyfraniad graddedigion Llanbedr Pont Steffan i’r Eglwys yng Nghymru. Roedd yn aelod o Fwrdd yr Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Cymru am dros ugain mlynedd. Cafodd ei ethol yn gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol yn 1979 ac yn gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr yn 1995. Cafodd ei wobrwyo gyda doethuriaeth anrhydeddus gan PCYDDS yn 2018.
Ochr yn ochr â’i waith academaidd, ordeiniwyd Price yn ddiacon yn 1972 ac yn offeiriad yn 1973, lle cynhaliwyd y gwasanaeth, yn bur anarferol, yng nghapel y coleg. Yn y blynyddoedd a ddilynodd, cafodd amrywiaeth o swyddi yn Esgobaeth Tyddewi a’r Eglwys yng Nghymru, yn ogystal â’r coleg ei hun. Roedd yn gaplan yn Llanbedr Pont Steffan o 1979 tan 1980, ac yn ddeon y Capel o 1990 tan 1991. Ar ben hynny, golygodd y St David’s Diocesan Directory blynyddol o 1981 tan 1998. Roedd yn archifydd yr esgobaeth rhwng 1982 a 1998, a chafodd ei wneud yn Ganon Preswyl Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn 1992. Yn 2018, fe'i benodwyd yn Ganon Anrhydeddus Eglwys Gadeiriol Sant Paul, yn San Helena.
Daeth Price yn offeiriad â gofal ym Metws Bledrws yn 1986, lle gwasanaethodd fel offeiriad di-gyflog ochr yn ochr â’i waith academaidd. Ymhen amser, teimlodd bod rhaid iddo ddewis rhwng yr eglwys a’r byd academaidd. Yn 1997, trodd at weinidogaeth fugeiliol llawn amser. Daeth yn Ficer Cydweli a Llandyfaelog yn Sir Gaerfyrddin. Roedd hefyd yn Guriad Ymchwiliadol i Esgob Tyddewi, gan gynghori’r esgob ar faterion diwinyddol. Yn dilyn hyn, daeth Price yn offeiriad â gofal ym Myddle a thair plwyf gyfagos yn Swydd Amwythig. Ar ei ymddeoliad yn 2008, aeth Price yn ôl i Wem; daeth yn Ddeon Gwlad Wem a'r Eglwys Newydd.
Mae wedi parhau â'i ddiddordeb mewn hanes lleol. Yn ystod 2003 a 2015, roedd yn golygu Transactions of the Shropshire Archaeological and Historical Society. Mae wedi bod yn ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth Eglwysi Hanesyddol Swydd Amwythig ers 2005, a nawr mae'n Gadeirydd. Cyfrannodd hefyd at The Victoria History of Shropshire: Wem, wedi'i olygu gan Judith Everard, James P Bowen a Wendy Horton (2019). Fodd bynnag, mae'n dweud nad yw wedi gallu gadael Cymru. Roedd yn Gynghorydd Taleithiol ar Archifau i'r Eglwys yng Nghymru a chyfrannodd i benodau yn Religion and Society in the Diocese of St Davids 1485-2011, edited by William Gibson and John Morgan-Guy, (Ashgate, 2015) ac A New History of the Church in Wales, edited by Norman Doe, (Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2020).
Priododd William ac Alison, yn 1973. Aeth eu tri phlentyn, Clare, Michael ac Abigail i'r ysgol yn Llanbedr Pont Steffan. Aeth Abigail ymlaen i astudio diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. O ran diddordebau, mae Price yn rhestru rheilffyrdd, ieithoedd, ac edrych ar eglwysi. Mae wedi ymweld â phob eglwys Anglicanaidd yng Nghymru.
Ffynonellau
Gradd er Anrhydedd (Doethur mewn Diwinyddiaeth), Honorary Doctorate (Doctor of Divinity) Y Parchedig Ganon The Reverend Canon D T William Price (2018). Graddio Graduation 2018, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, University of Wales Trinity Saint David, Campws Llambed, Lampeter Campus
Roberts, S. (2018). Catalog Archif Llyfrgell Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, Coleg Dewi Sant gynt. Cyrchwyd ar 24 Chwefror 2021 o https://uwtsd.ac.uk/media/uwtsd-website/content-assets/documents/library-and-learning-resources/roderic-bowen/library-archive-catalogue-of-the-university-of-wales-lampeter-formerly-st.-davids-college.pdf
D.M.J. (1979) [Review of the bookA History of Saint David’s University College Lampeter. Volume one: to 1898,by D.T.W. Price]. Ceredigion: journal of the Cardiganshire Antiquarian Society, 8(1-4),237-238. Cyrchwyd ar 24 Chwefror 2021 o https:// cylchgronau.llyfrgell.cymru /view/1093205/1096097/266
Gibson, W.T. (1990). Academic phoenix. The history of Saint David’s College Lampeter. Vol 2:1898-1971 by D.T.W. Price. Gwasg Prifysgol Cymru, 270 pages, £12.95. RSA Journal, 139(5413),953. Cyrchwyd ar 24 Chwefror 2021 o https://www.jstor.org/stable/41378085
Jones, R.B. (1988). [Adolygiad o’r llyfr Yr Esgob Burgess a Choleg Llanbedr = Bishop Burgess and Lampeter College, gan D.T.W. Price]. Welsh History Review = Cylchgrawn Hanes Cymru, 14(1-4),152-153. Cyrchwyd ar 24 Chwefror 2021 o https://journals.library.wales/view/1073091/1080171/155#?cv=155&m=13&h=&c=0&s=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F1073091%2Fmanifest.json&xywh=-1681%2C-47%2C5776%2C3531
Herbert, C. (1991). [Adolygiad o’r llyfr A History of the Church in the Twentieth Century gan D.T.W. Price]. The Journal of Welsh Ecclesiastical History, 8,82-83. Cyrchwyd ar 24 Chwefror 2021 o https:// cylchgronau.llyfrgell.cymru /view/1127665/1128385/87#?cv=87&m=7&h=&c=0&s=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F1127665%2Fmanifest.json&xywh=-1670%2C68%2C5804%2C3455
Wilbourne, D. (2018, June 8). Archbishop Gwilym Owen Williams – “G.O.”: His Life and Opinions gan D.T.W. Price. Church Times. Cyrchwyd ar 24 Chwefror 2021 o https://www.churchtimes.co.uk/articles/2018/8-june/books-arts/book-reviews/welsh-golden-age-that-never-came
Deacy, C. (Cyfwelydd). (3 Chwefror 2019). William Price. [Podlediad sain]. Cyrchwyd ar 24 Chwefror 2021 o https://audioboom.com/posts/7162959-william-price