Alfred Ollivant (1798–1882) oedd is-bennaeth cyntaf Coleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan, ac yn ddiweddarach, daeth yn Esgob Llandaf.
Ganwyd Ollivant ym Manceinion, yn fab iau i William Ollivant a'i wraig Elizabeth. Symudodd i Lundain pan ddaeth ei dad yn glerc yn Swyddfa'r Llynges. Roedd y teulu'n byw yn 11 Smith Street, Sgwâr Northampton. Pan oedd yn ifanc, addysgwyd Alfred yn Ysgol Sant Paul ac yna aeth i Goleg y Drindod, Caergrawnt. Yn llwyddiannus yn academaidd, roedd yn ysgolhaig Craven yn 1820, graddiodd yn chweched oreugwr yn 1821 ac enillodd fedal y canghellor yn y Clasuron. Yn 1822, dyfarnwyd ysgoloriaeth Hebraeg Tyrwhitt iddo. Etholwyd ef hefyd i gymrodoriaeth yn y coleg. Dyfarnwyd ei B.D. a D.D. iddo yn 1836.
Penodwyd Ollivant i Goleg Dewi Sant Llanbedr Pont Steffan a oedd newydd ei sefydlu yn 1827. Yn ogystal â bod yn is-bennaeth, roedd yn uwch-diwtor, yn athro Hebraeg, ac yn ail athro mewn diwinyddiaeth. Roedd yn un o dri aelod o staff yn unig – y lleill oedd y pennaeth Llewelyn Lewellin a’r athro Cymraeg, Rice Rees. Roedd Llanbedr Pont Steffan yn ynysig, felly roedd Ollivant a Lewellin yn ddibynnol ar gwmni ei gilydd. Trwy drugaredd, fe dynnodd y ddau ddyn ymlaen yn dda. Yn ddiweddarach, disgrifiodd merch Lewellin Ollivant fel ‘dyn difrifol a oedd yn addawol yn ôl ei olwg, gyda chalon garedig iawn.’ Daeth Ollivant i Lanbedr Pont Steffan fel dyn sengl a phriododd Alicia Olivia Spencer o Bramley Grange, Swydd Efrog, yn 1831. Goroeswyd hwy gan dri mab. Roedd Ollivant yn ficer ac yn rheithor segur yn Llangeler, yng ngogledd Sir Gaerfyrddin, a llwyddodd i ddysgu Cymraeg a phregethu yno'n rheolaidd.
Dychwelodd Ollivant i Gaergrawnt yn 1843 fel athro brenhinol mewn diwinyddiaeth. Yna, yn 1849, penodwyd ef yn Esgob Llandaf. Roedd ei benodiad yn un chwerw. Roedd un grŵp yn teimlo bod Ollivant yn ddyledus am ei ddyrchafiad oherwydd y ffaith iddo siarad Cymraeg ac roeddent yn ystyried hyn yn fuddugoliaeth i'r rhai a oedd eisiau esgobion Cymraeg eu hiaith. Roedd carfan arall yn ystyried Ollivant yn esgob Seisnig arall, ac yn cwyno bod ei Gymraeg yn warthus!
Roedd esgobaeth Llandaf wedi dioddef tlodi ac wedi cael ei hesgeuluso ers amser maith, gydag olyniaeth o esgobion absennol. Yn wir, roedd mor waddoledig nes bod gan yr esgob fel arfer ryw swydd arall ar yr un pryd. Roedd rhagflaenydd Ollivant, Edward Copleston, hefyd wedi bod yn ddeon yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul, a dim ond bob hydref y byddai'n ymweld â Llandaf. I’r gwrthwyneb, llwyddodd Ollivant i fyw yn ei esgobaeth, wrth i'r comisiynwyr elusennau brynu preswylfa swyddogol, Tŷ Llandaf, iddo yn 1849. At hynny, cynyddwyd ei gyflog o £3150, gan ei godi i'r lefel isaf o £4500. Roedd diwydiannu yn golygu bod cymoedd de Cymru wedi newid yn aruthrol – roedd Ollivant yn arbennig o bryderus am esgeulustod yr eglwys o'r caeau glo. Ymatebodd trwy sefydlu Cymdeithas Estyniad Eglwys esgobaethol yn 1850, a'i nod oedd annog datblygiad yr eglwys Anglicanaidd yn y cymunedau diwydiannol. Y dull gweithredu oedd darparu curad ychwanegol mewn plwyf diwydiannol ac yna sefydlu cynulleidfa newydd. Dim ond ar ôl hynny y codwyd adeilad eglwys newydd. Cafodd dros 170 o eglwysi naill ai eu hadeiladu neu eu hadfer trwy ei raglen o adeiladu eglwysi ac ysgolion. Nid oedd llawer o arian ar gael – pan godwyd eglwysi newydd, roedd yn y ffordd rataf bosibl.
Ar yr adeg hon, roedd yr eglwys gadeiriol ganoloesol yn Llandaf yn adfeilion. Yn hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif, roedd John Wood o Gaerfaddon wedi adeiladu eglwys o fewn eglwys yn y pen dwyreiniol, yn arddull glasurol ystafelloedd ymgynnull Caerfaddon! Roedd Ollivant yn gyfrifol am adfer yr hen adeilad yn llwyr, dan gyfarwyddyd y pensaer adfywiad gothig, John Prichard, a'i bartner J.P. Seddon. Tynnwyd y gwaith o'r ddeunawfed ganrif a gwnaed gwaith adfer ac ailadeiladu llawer mwy trylwyr a chydymdeimladol. Defnyddiwyd y gorffennol fel canllaw – lle nad oedd dim o'r hen adeilad yn aros, roeddent yn anelu at gytgord. Roedd Seddon hefyd yn cynnwys rhai ffigurau amlwg o frawdoliaeth y Cyn-Raffaelaidd, a’r mudiad celf a chrefftau, gan gynnwys D.G. Rossetti a William Morris, yn ogystal â llu o grefftwyr.
Ac yntau’n fyfyriwr yng Nghaergrawnt, roedd Ollivant wedi cael ei ddylanwadu gan y clerigwr efengylaidd enwog, Charles Simeon. Bu'r dylanwad hwnnw arno ar hyd ei oes. Roedd yn ddiwinydd pwyllog a cheidwadol, ac yn nerfus o feirniadaeth feiblaidd. Yn 1857, ysgwyddodd y ddyletswydd i wrthbrofi gwaith Rowland Williams, eiriolwr ysgolheictod newydd yr Almaen. Roedd Ollivant hefyd yn amheus o Eingl-Babyddiaeth, er enghraifft yn gwrthwynebu ficer y Santes Fair yng Nghaerdydd yn gwisgo gwenwisg gyda chroes fawr arno. Mewn cyferbyniad llwyr, fodd bynnag, roedd yn cydymdeimlo ag Anghydffurfiaeth. Cynhyrchodd Ollivant nifer fawr o fân gyhoeddiadau – yn benodol, mae ei daliadau tair blynedd i'r clerigwyr yn ei esgobaeth yn ffynonellau hanesyddol defnyddiol o hyd. Roedd hefyd yn aelod o'r panel a gynhyrchodd fersiwn ddiwygiedig y Beibl yn 1870.
Bedd Ollivant yn Eglwys Gadeiriol Llandaf
Bu farw Ollivant ar 16 Rhagfyr 1882. Claddwyd ef ar dir yr eglwys gadeiriol. Yn ddigon addas, mae cofeb iddo ger yr allor uchel yn yr eglwys gadeiriol. Roedd wedi bod yn un o esgobion mwyaf Llandaf, gan drawsnewid yr eglwys yn sefydliad hyblyg a milwriaethus. Rhoddodd arweinyddiaeth ragorol, gan weld egni a bywyd ysbrydol newydd yn cael ei rannu trwy ei esgobaeth.
Ffynonellau
Jones, O. (2004, Medi 23). Ollivant, Alfred (1798–1882), bishop of Llandaff. Oxford Dictionary of National Biography. Cyrchwyd ar 14 Hydref 2020, o https://www-oxforddnb-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-20742.
Ellis, T. I., (1959). OLLIVANT, ALFRED (1798–1882), bishop. Dictionary of Welsh Biography. Cyrchwyd ar 14 Hydref 2020, o https://biography.wales/article/s-OLLI-ALF-1798
Price, D.T.W. (1977). A History of Saint David’s University College Lampeter. Volume one: to 1898. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Wills, W.D. (1968). The established church in the diocese of Llandaff, 1850-70. Welsh History Review = Cylchgrawn Hanes Cymru. 4(1-4),235-271 Cyrchwyd ar 15 Hydref 2020 o https://journals.library.wales/view/1073091/1074521/242#?xywh=-428%2C-52%2C3516%2C2149
The Victorian Web. (2019). Llandaff Cathedral (Eglwys Gadeiriol Llandaf). Cyrchwyd ar 15 Hydref 2020 o http://www.victorianweb.org/art/architecture/prichard/2.html
Brown, R.L. (2005). In Pursuit of a Welsh Episcopate: Appointments to Welsh Sees, 1840-1905. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru