David Daniel Bartlett

Roedd David Daniel Bartlett (1900-1977) yn aelod o Goleg Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan fel myfyriwr, darlithydd ac yna fel athro. Yna, gwasanaethodd fel Esgob Llanelwy am ugain mlynedd olaf ei fywyd gwaith.

Roedd Bartlett yn fab i'r teiliwr, Thomas Bartlett, a'i wraig, Mary Anne. Yn frodor o Gaerfyrddin, cafodd ei fedyddio yn Eglwys San Pedr, Caerfyrddin. Mynychodd Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth yn y dref. Dywedir iddo fod yn fyfyriwr yng Ngholeg Dewi Sant ac yntau ond yn 16 mlwydd oed. Daeth yn ysgolhaig ac uwch ysgolhaig ar yr Eglwys yng Nghymru rhwng 1919 a 1920. Fodd bynnag, roedd hefyd yn chwarae rygbi dros y coleg. Ar ôl graddio o Lanbedr Pont Steffan gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Diwinyddiaeth, aeth i astudio ymhellach i St John's College, Rhydychen. Yn Rhydychen, daeth yn ysgolhaig Casberd gan ennill gradd dosbarth cyntaf unwaith eto mewn Diwinyddiaeth. Ag yntau ond yn ei hugeiniau cynnar, dychwelodd i Lambed yn 1923 a daeth yn ddarlithydd mewn Diwinyddiaeth. Cafodd ei ordeinio yn ddiacon ac yna yn offeiriad yn yr un flwyddyn yn 1924. Dilynodd gwrs Meistr yn 1926 cyn derbyn BD yn Llanbedr Pont Steffan yn 1930. Cyfrannodd bennod ar lyfr Numeri o'r Hen Destament i'r llyfr New Commentary on Holy Scripture, a olygwyd gan Charles Gore. 

Yn 1931, symudodd Bartlett i fod yn offeiriad ar gyfer y plwyf heriol o Ddoc Penfro, Trefonnen ac Upton. Dywedodd St David's College Magazine, "Mae Doc Penfro yn blwyf pwysig iawn, nid oedd modd dewis deiliad gwell ac rydym yn sicr y bydd y plwyf yn ffynnu o dan ei arweiniad. Yn y ddarlithfa, rydym bob amser yn gwerthfawrogi trylwyredd Mr Bartlett wrth iddo esbonio problemau anodd, megis y damcaniaethau Galatian o'r gogledd a'r de! Un o'r rhesymau dros ei lwyddiant fel darlithydd yw ei onestrwydd wrth ddelio ag unrhyw gwestiynau mae ei ddosbarth yn dymuno eu trafod." 

Yn 1938, daeth Bartlett yn gaplan arholi ar gyfer Esgob Tyddewi, gan arholi ymgeiswyr i'w ordeinio a chynghori’r esgob ynghylch eu haddasrwydd. Yn ystod y rhyfel, daeth yn gaplan gweinyddol i'r sefydliadau milwrol a oedd wedi'u lleoli yn ei blwyf. Arhosodd yn Noc Penfro tan 1946, pan ddychwelodd i Lanbedr Pont Steffan i ddod yn Athro Hebraeg a Diwinyddiaeth yn dilyn cyfnod A E Morris. Roedd yn weithgar iawn yn y coleg, yn gaplan i Fudiad Cristnogol y Myfyrwyr, yn aelod o gangen Llanbedr Pont Steffan o Toc H ac yn gefnogwr brwd o'r holl glybiau chwaraeon. Dywedwyd amdano, "Yr enghraifft berffaith o ostyngeiddrwydd, duwioldeb ac ysgolheictod gyda'r arweiniad gorau y gallem ofyn amdano." 

Arhosodd Bartlett yng Ngholeg Dewi Sant am bedair blynedd cyn cael ei ethol yn Esgob Llanelwy. Cynhaliwyd ei wasanaeth cysegru yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ar 21 Medi 1950. Cedwir copi o drefn y gwasanaeth yn archifau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Roedd ei frawd hynaf, Canon A J Bartlett i fod i bregethu ond yn anffodus, bu farw ei frawd ychydig ddyddiau yn unig cyn y gwasanaeth.  

Roedd Bartlett yn dibynnu ar ddylanwad bugeiliol, yn hytrach na grym ei swydd. Disgrifiwyd ei ddiddordeb ym mywydau ei offeiriaid a'u leygwyr yn "syfrdanol". Roedd ganddo agwedd addfwyn a thyner at fywyd gan fwrw ymlaen yn dawel gyda'i waith. Byddai'n aml yn meddwl am gwestiwn o bob ongl, cyn dod i farn arno. Roedd yn gyfaill mynwesol i'r Archesgob Morris, ei gyn-gydweithiwr yng Ngholeg Dewi Sant. Hefyd, roedd yn aml yn cael ei ddewis fel yr esgob i gynrychioli Cymru ar y cynghorau canolig o fewn yr Eglwys yn Lloegr. Arhosodd Bartlett yn Llanelwy nes ei ymddeoliad ar ddiwedd 1970. Derbyniodd ddoethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ym 1971. Roedd hefyd yn aelod o gyngor Coleg Prifysgol Dewi Sant. 

Bu Bartlett farw ar ddydd Sul y Pasg yn 1977 Awst, a chynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ar 15 Ebrill gan adael ei wraig, Lali a'i fab, John. Dywedwyd ei fod yn ddyn a oedd yn ymddwyn yn anrhydeddus, yn ddibynadwy, yn ddiymhongar ac fel un oedd yn cael ei werthfawrogi'n fawr. 

Ffynonellau 

Bartlett, Y Gwir Barchedig David Daniel. (2007). Yn: Who’s Who. Cyrchwyd ar 27 Tachwedd 2020 o https://www.ukwhoswho.com/view/10.1093/ww/9780199540891.001.0001/ww-9780199540884-e-152074?rskey=tFcWi2&result=1 

Price, D.T.W. (1990). history of Saint David’s College LampeterVolume two: 1898-1971. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru 

Peart-Binns, J.S. (2004). Martinet and shepherd John Morgan (1886-1957), Archesgob Cymru. Journal of Welsh religious history. N.S. 4,41-64. Cyrchwyd ar 27 Tachwedd 2020 o https://journals.library.wales/view/1164385/1165777/48#?xywh=-1715%2C-453%2C5860%2C3583 

Peart-Binns, J.S. (1985). Arglwydd Archesgob Cymru.  Alfred Edwin Morris – election and aftermath.  The Journal of Welsh Ecclesiastical History, 2,55-86. Cyrchwyd ar 1 Ebrill 2021 ohttps://journals.library.wales/view/1127665/1127759/60#?xywh=-846%2C21%2C4456%2C2294 

An appreciation. (1931). St David’s College Magazine, N.S. 12(2), 46-47 

Williams, K.H. (1951). The Lord Bishop of St Asaph.  Gateway, N.S. 5,2-3 

Peart-Binns, J.S. (1990). Alfred Edwin Morris Archbishop of Wales. Llandysul: Gomer 

Prifysgol Cymru (1971).  Gwasanaeth arbennig gan Brifysgol Cymru ar gyfer derbyn graddedigion i raddau anrhydeddus a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 1971 yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, i ddathlu achlysur corffori Coleg Prifysgol Dewi Sant yn un o sefydliadau cyfansoddol Prifysgol Cymru. Addresses of presentation. [Llanbedr Pont Steffan: Coleg Prifysgol Dewi Sant]