Edward Harold Browne (1811-1891) oedd ail Is-bennaeth Coleg Dewi Sant, Llambed, cyn iddo ddod yn Esgob Trelái ac yna, Esgob Caer-wynt.
Browne oedd mab ieuaf Cyrnol Robert Browne a’i wraig Sarah Dorothea Steward gynt. Ganwyd ef naill ai yn, neu o gwmpas Aylesbury. Addysgwyd ef yn Eton, ac yna yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt. Graddiodd gyda gradd BA yn 1832, fel y pedwerydd ar hugain goreugwr. Enillodd ysgoloriaeth ddiwinyddol Crosse yn 1833, ysgoloriaeth Hebraeg Tyrwhitt yn 1834, a’r wobr Norrisaidd yn 1835. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1836 ac yn offeiriad yn 1837. O ran ei eglwysyddiaeth, roedd yn Dractariad brwdfrydig.
Roedd Browne yn gymrawd Coleg Emmanuel am dair blynedd, cyn iddo ddod yn gurad yn Eglwys y Drindod, Stroud am ychydig o fisoedd yn 1840. Hefyd, yn 1840, priododd Elizabeth Carlyon, merch a oedd yn frodorol o Truro. Symudodd nesaf i swydd yn eglwys St James, Exeter, ac yna i swydd arall yn eglwys St Sidwell, Exeter. Yn eglwys St Sidwell, gwnaeth gynhyrfu llawer o’i blwyfolion drwy bregethu gan wisgo gwenwisg.
Yn 1843, penodwyd Browne yn Is-bennaeth ac yn Athro Hebraeg yng Ngholeg Dewi Sant, Llambed. Rhybuddiodd y Pennaeth Llewelyn Lewellin ef gyda’r geiriau ‘In this remote country it is well to be, in some degree at least, independent of external resources as to society.’ Yn ddiweddarach, gwnaeth Mrs Browne gyfaddef ‘we knew nothing of Lampeter, not even being quite sure as to where it was.’ Roedd ei amser yng nghanolbarth Cymru yn anodd iddo; roedd terfysgoedd Beca ar eu hanterth, gyda ffermwyr dicllon yn ymosod ar y tolldai a’r tollglwydi. Roedd tŷ’r Is-bennaeth yn agos i dollglwyd; torodd terfysgwr ffenestr drwy daflu tywarchen ati.
Yn ogystal â’r holl drallod hwn yn y gymuned ehangach, gwnaeth Browne ddarganfod bod Coleg Dewi Sant mewn cyflwr gwael. Roedd problemau gyda gweinyddu’r coleg, oherwydd roedd popeth yn cael ei reoli’n bersonol gan y Pennaeth. Gwnaeth Browne, yn ddiweddarach, dynnu sylw Lewellin at y ffaith bod ‘… the principal is at once tutor, bursar, steward, and even farmer and butcher …’ Nid oedd gan y coleg waddol digonol, ac roedd llawer o’r myfyrwyr o safon isel. Yn 1847, llwyddodd Browne gael gwasanaeth arholwyr allanol Rhydgrawnt er mwyn sicrhau safonau academaidd uchel; byddai hyn yn bwysig yn y dyfodol. Cyn iddo ymadael, gwnaeth Browne gynnig cyfres o awgrymiadau ar gyfer diwygio’r sefydliad methedig. Teimlodd y dylai’r cyfrifoldeb am reoli ac am gyllid gael ei rannu fel sy’n digwydd mewn colegau prifysgolion eraill, a chofnodion busnes y coleg yn agored er mwyn eu bod nhw’n gallu cael eu harchwilio.
Yn ffodus, roedd Browne yn ddarlithydd da ac yn rhoi llawer o’i amser er lles ei fyfyrwyr. Gwnaeth ddarlithio ar ddiwinyddiaeth ddogmatig, hanes yr eglwys, Hebraeg, a Groeg y Testament Newydd. Dywedwyd bod pob un o’i ddarlithiau yn ‘all that first-rate lectures should be.’ Yn ddiweddarach, cyhoeddodd ei ddarlithiau ar ddiwinyddiaeth ddogmatig yn ei Exposition of the Thirty-Nine Articles, (J.W. Parker, 1850-53). Daeth hwn i fod y gwaith safonol ar y pwnc, gyda llawer o argraffiadau yn cael eu cyhoeddi, ac fe ddefnyddid fel gwerslyfr gan ymgeiswyr a oedd am gael eu hordeinio gan Eglwys Loegr. Gwnaeth Browne hefyd lwyddo i ddysgu Cymraeg yn ystod ei amser yn Llanbed.
Ond yn gyffredinol, roedd y blynyddoedd y bu Browne yn Llambed yn rhai anhapus. Roedd ef ac Elizabeth wedi colli tri o blant pan oeddent yno, gan gynnwys merch, Edith Dorothea, a fu farw o’r dwymyn goch. Erbyn diwedd 1848, roedd Mrs Browne yn dweud ‘If Harold remains here longer he will go mad!’ Ymadawodd Browne â Llambed yn 1850 i fod yn ficer Kenwyn, ger Truro. Ochr yn ochr â hyn, roedd yn gaplan i esgob Cernyw. Yn 1854, dychwelodd i Gaergrawnt i fod yn athro Norrisaidd mewn diwinyddiaeth.
O ran diwinyddiaeth, roedd Browne fel arfer yn geidwadol. Gwnaeth wrthwynebu llawer o’r safbwyntiau a fynegwyd yn Essays and Reviews (1860); gwnaeth y gyfrol ddadleuol hon geisio gwneud astudio’r Beibl yn feirniadol ac o safbwynt hanesyddol yn rhywbeth arferol yn Eglwys Loegr. Cyfrannodd Browne at Aids to Faith, (John Murray, 1861), ymateb ceidwadol a wnaeth amddiffyn sut y gwelid y Beibl yn draddodiadol. Yn ei erthygl ‘Inspiration,’ gwnaeth Browne ddadlau bod tadau a diwygwyr yr eglwys wedi gwahaniaethu rhwng yr hyn yr ydym yn ei wybod am ein hunain a’r hyn sy’n cael ei ddatguddio. Mae ei draethawd wedi cael ei ddisgrifio fel y cyfraniad ‘most judicious and perhaps the most important‘ yn y llyfr. Ddwy flynedd wedyn, cyhoeddodd Browne The Pentateuch and the Elohistic Psalms, (Parker, Son, and Bourn, 1863), gan wrthwynebu safbwyntiau John William Colenso ar darddiad y Pumllyfr.
Cysegrwyd Browne yn esgob Trelái ym mis Mawrth 1864. Yn rhinwedd ei rôl newydd, ceisiodd ddatblygu isadeiledd goruchwylio a threfnu a oedd yn amlwg fodern. Er gwaethaf ei gydymdeimladau tuag at yr Uchel Eglwys, gweithiodd yn ddiflino er mwyn cael unigolion lleyg i helpu ym mhob gweithgaredd. Yn ei farn ef, roedd cydweithrediad rhwng y clerigwyr a’r lleygwyr, gan gwrdd yn rheolaidd ac ymgynghori yn lled ffurfiol â’i gilydd, yn rhan sylfaenol o drefn lywodraethol yr eglwys. Roedd hwn yn beth arloesol; gwnaeth arloesi’r hyn a fyddai ymhen hir a hwyr yn datblygu’n ffordd safonol i Eglwys Loegr drafod busnes. Roedd ef hefyd yn arloeswr o ran ei gred bod rôl i fenywod, pa beth bynnag oedd eu statws fel gwragedd a merched clerigwyr. Roedd yn gefnogwr cynnar diaconesau. Sefydlwyd The Ely Diocesan Deaconess Home yn Bedford yn 1869.
Yn 1873, cafodd Browne ei enwebu gan Gladstone i fod yn esgob Caer-wynt; gorseddwyd ef y flwyddyn honno ar Ragfyr 11. Yno, gwnaeth barhau i weithredu llawer o’r polisïau yr oedd ef wedi’u dilyn yn Nhrelái. Yn enwedig, ceisiodd ddatblygu gweinidogaeth yr esgobion swffragan. Pan fu farw Archibald Campbell Tait yn 1882, ystyriwyd Browne yn ymgeisydd cryf i’w ddilyn fel Archesgob Caergaint. Er y byddai hwn wedi bod yn benodiad ‘diogel iawn’ iddo, roedd ei oedran a’i iechyd yn ei erbyn.
Gwnaeth Browne ymddeol fel esgob yn 1890, oherwydd salwch. Bu farw yn ei gartref yn Shales, ger Bitterne, Hampshire, ar Ragfyr 18 1891. Meddai awdur ei goflith yn The Times, ‘A man of kindly heart, gracious manners, and dignified demeanour, he realized some of the best ideals of an ecclesiastical ruler.’
Ffynonellau
Price, D.T.W. (1977). A History of Saint David’s University College Lampeter. Volume one: to 1898. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Garrard, J. (2004). Browne, Edward Harold (1811–1891), bishop of Winchester. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd ar Chwefror 25 2021, oddi wrth https://www-oxforddnb-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-3672
Death Of Bishop Harold Browne. (1891, December 19). Times, Adalwyd ar Chwefror 25 2021, oddi wrth https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS85775763/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=b6ecc13e
Death of the late Bishop of Winchester. (1891, December 24). Church Times. Adalwyd ar Chwefror 25 2021, oddi wrth https://www.ukpressonline.co.uk/ukpressonline/view/pagview/ChTm_1891_12_24_1282
Kitchin, G.W. (1895). Edward Harold Browne, D.D., Lord Bishop of Winchester, and Prelate of the Most Noble Order of the Garter. A Memoir. Adalwyd ar Chwefror 26 2021, oddi wrth https://www.google.co.uk/books/edition/Edward_Harold_Browne_D_D/IeEKAAAAYAAJ?hl=en&gbpv=1&dq=%22edward+harold+browne%22&printsec=frontcover
Knight, F. (2010). Bishops of Ely, 1864-1956. In: P. Meadows (ed.), Ely: bishops and diocese, 1109-2009 (pp.259-286). Adalwyd ar Chwefror 26 2021, oddi wrth https://www.academia.edu/16563529/Bishops_of_Ely_1864_1956?