Very Reverend Raymond Renowden

Astudiodd a darlithiodd Charles Raymond Renowden (1923-2000) yn Llanbedr Pont Steffan, yn ogystal â gwasanaethu yn y Corfflu Cudd-wybodaeth a chwrdd â'r Ymerawdwr Hirohito.

Ganwyd Renowden yn Nhrealaw yn y Rhondda; ei dad, Charles, oedd y ficer yno. Roedd Glyndŵr, brawd iau Raymond, a raddiodd yng Ngholeg Dewi Sant, yn gaplan pennaf yr Awyrlu Brenhinol. Symudodd y teulu i Sir Aberteifi a mynychodd Raymond Ysgol Ramadeg Llandysul. Ymunodd â Choleg Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan yn 1941. Bryd hynny, roedd disgyblion o Ysgol Coleg Wycliffe yn Stonehouse, Caerloyw, wedi cael eu symud i Lanbedr Pont Steffan. Roedd llawer o gyfleusterau'r coleg dan waharddiad i israddedigion. Roedd rhaid i fyfyrwyr fyw mewn llety a chynhaliwyd darlithoedd mewn amryw o neuaddau o amgylch y dref. Ar wahân i astudio yn y llyfrgell, mynychu’r capel ac o bosibl ddefnyddio tŷ'r prifathro, ni aeth llawer o’r myfyrwyr i mewn i adeiladau'r coleg o gwbl.  

Ymunodd Renowden â'r Gwarchodlu Cartref. Cofiodd iddo gael ‘trowsus at fy ngwddf … gwisg ryfel fel siaced yn hongian yn llac, a helmed yn hongian dros fy nghlustiau ar bob ongl. Yn ogystal, cefais ‘reiffl’ heb daniwr! Yn ôl pob tebyg, roedd i fod i gael ei ddefnyddio fel pastwn…’ Fe wirfoddolodd i ymuno â gwasanaeth criw awyr yr Awyrlu Brenhinol yn 1943. Fodd bynnag, gohiriwyd ei wasanaeth a chwblhaodd ei flwyddyn israddedig olaf fel cadét Peilot, Llywiwr a Swyddog.  

Gadawodd Renowden Lanbedr Pont Steffan gyda gradd dosbarth cyntaf mewn diwinyddiaeth.  Wrth iddo drosglwyddo i'r fyddin, fe hyfforddodd yng Ngwarchodlu’r Grenadwyr a Gwasanaeth Cudd-wybodaeth y Fyddin. Fel aelod o'r Gwasanaeth Cudd-wybodaeth, gwasanaethodd yn gyntaf yn India ac yna yn Japan. Yn ystod ei gyfnod yn India, daeth yn rhugl yn Japaneaidd. Un o'i ddyletswyddau cyntaf yn Japan oedd mynd gyda'r Ymerawdwr Hirohito ar ymweliad ag adfeilion Hiroshima, ychydig ar ôl i'r bom atomig gael ei gollwng. Sylwodd Renowden ar flodyn bach yn tyfu yng nghanol y dinistr, a dehonglodd hyn fel arwydd o obaith. Fodd bynnag, âi ymlaen yn ddiweddarach i ddioddef drwg effeithiau’r ymbelydredd, a bu’n rhaid iddo gael llawdriniaeth ddifrifol ar ei ysgwydd yn hwyrach yn ei fywyd.  

Ar ôl iddo ddychwelyd adref, aeth Renowden fel ysgolhaig i Goleg Selwyn yng Nghaergrawnt ac yna hyfforddodd fel offeiriad. Rhwng 1951 a 1955, bu’n gweithio fel curad yn Hubberston, ger Aberdaugleddau. Priododd Ruth Collis hefyd yn 1951; cawsant fab a dwy ferch. 

Nesaf, aeth Renowden yn ôl i Goleg Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan, i weithio fel darlithydd Athroniaeth. Daeth yn bennaeth ei adran yn 1957 ac yna'n uwch ddarlithydd mewn Athroniaeth a Diwinyddiaeth yn 1969. Roedd ganddo ddiddordeb arbennig yng nghroestoriad athroniaeth a chrefydd. Ni lwyddodd unrhyw un o'i fyfyrwyr i ddianc rhag y cwestiynau mawr am wirionedd Cristnogaeth.   

Yn 1956, daeth ei wraig Ruth, yn ddarlithydd Mathemateg, a hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn rhan o staff parhaol y coleg. 

Arial view of St Asaph cathedral

Yr olygfa o'r awyr o eglwys gadeiriol Llanelwy 

Ar ôl 16 mlynedd o addysgu rhagorol, gadawodd Renowden Lanbedr Pont Steffan yn 1971 i ddod yn ddeon Llanelwy. Yn ogystal â’i allu academaidd, cyflwynodd sgiliau gweinidog a oedd yn siarad Cymraeg i'w rôl newydd. Yn ystod ei gyfnod fel deon, daeth yr eglwys gadeiriol yn ganolbwynt bywyd esgobaethol. Bu’n ymwneud cryn dipyn â phwyllgorau a chynghorau. Roedd yn gyfrifol am adnewyddu llyfrgell yr eglwys gadeiriol, gan ei gwneud yn bosibl iddi gael ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau, yn ogystal â  gwaith ymchwil. Gweithiodd gyda'r Athro William Mathias i sefydlu Gŵyl Gerddoriaeth Gogledd Cymru, y cafodd ei lansio yn 1972 a’i  chynnal yn yr eglwys gadeiriol. Yn ogystal, am y rhan fwyaf o'r cyfnod hwn, roedd Renowden hefyd yn ficer eglwys plwyf Llanelwy a dau bentref cyfagos. Ac eto, llwyddodd i ddod o hyd i amser i ysgrifennu sawl llyfr, gan gynnwys New patterns of ministry (1973) a The role of the cathedral today and tomorrow (1974). Ar ôl ymddeol yn 1992, ysgrifennodd gofiant academaidd i un o'i ragflaenwyr o’r enw A genial kind of divineWatkin Herbert Williams, 1845–1944 (1998). 

Bu farw Renowden ar 15 Mai 2000.

Ffynonellau 

The Very Reverend Raymond Renowden. (2000, 31 Mai). Daily Telegraph, t. 27. Cyrchwyd o https://link.gale.com/apps/doc/IO0700836022/TGRH?u=nlw_ttda&sid=TGRH&xid=99ff10e5.  

Evans, P. (2016). The Very Reverend Raymond Renowden and the 70th anniversary VJ day commemorations. Dolen. 69,6. Cyrchwyd o https://www.uwtsd.ac.uk/media/uwtsd-website/content-assets/documents/alumni/lampeter-society/The-Link---March-2016.pdf 

Price, D. T. W. (1990). A History of Saint David’s University College Lampeter. Volume Two: 1898–1971. Gwasg Prifysgol Cymru