Rowland Williams (1817-1870) oedd Is-brifathro Coleg Dewi Sant Llambed am ddeuddeg mlynedd. Mae’n enwog, oherwydd dywedwyd mai ef oedd yn gyfrifol am gyflwyno rygbi i Gymru. Mewn cyferbyniad llwyr, cafodd hefyd fynd ar brawf am heresi.
Williams oedd ail fab goroesol clerigwr o Gymru, Rowland Williams arall, a’i wraig Jane (Jane Wynne Jones gynt). Ganwyd y Rowland iau yn Helygain (Halkyn), Sir y Fflint. Aeth i Eton yn 1828 fel ysgolhaig y brenin a daeth yn fedalydd Newcastle yn 1835. Yna, aeth i Goleg Y Brenin, Caergrawnt; dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth brifysgol Battie pan oedd ef yn ei flwyddyn gyntaf. Etholwyd ef yn gymrawd Coleg y Brenin yn 1839.
Ar ôl graddio, teithiodd Ewrop, gan weithio am gyfnod byr fel meistr cynorthwyol yn Eton. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1842, ac yn offeiriad yn 1843. Yn 1842, dychwelodd i Goleg y Brenin i weithio fel tiwtor clasuron am yr wyth blynedd nesaf. Dyfarnwyd iddo MA yn 1844 a BD yn 1851. Datblygodd hefyd ddiddordeb mewn astudiaethau dwyreiniol; yn 1848, enillodd wobr am draethawd hir a wnaeth gymharu Cristnogaeth a Hindŵaeth.
Drwy gydol ei gyfnod yng Nghaergrawnt, bu Williams yn ymwybodol iawn o’i hunaniaeth Gymreig. Roedd e’n cysylltu’n weithredol â chylchoedd Cymry Llundain ac yn ysgrifennu barddoniaeth, gan ddefnyddio ei ffugenw Goronva Camlan, a gwnaeth hefyd ymgyrchu’n llwyddiannus yn erbyn cyfuniad arfaethedig esgobaeth Bangor ag esgobaeth Llanelwy. Yn 1849 a 1850, ysgrifennodd erthyglau ar Fethodistiaeth yng Nghymru ac ar yr eglwys ac addysg yng Nghymru i’r Quarterly Review.
Felly, roedd y cyfle i fod yn Is-brifathro yn ogystal ag yn Athro Hebraeg yng Ngholeg Dewi Sant yn apelio iddo. Gallai ef gyfuno parhau i wella safonau addysgol clerigwyr dyfodol Cymru â’i waith academaidd ef ei hun. Disgwyliwyd yn helaeth bryd hynny mai ef byddai’r esgob Cymraeg cyntaf am 150 o flynyddoedd. Ond oherwydd roedd y coleg bob amser wedi cael ei rwystro gan sylfaen ariannol annigonol, dechreuodd honiadau o anghymwysterau gweinyddol. Gweithiodd Williams yn galed i wella’r gweinyddu, y cynllun gwaith a safonau academaidd yr athrofa. Bu’n llwyddiannus iawn ac yn boblogaidd ymhlith y myfyrwyr.
Yn gyflym, gwnaeth Williams gyflwyno set o reolau coleg. Gwnaeth Rheol 5 ddweud wrth fyfyrwyr am beidio â ‘spend their time and money, or to risk their health and memory, in the practice of smoking’. Meddai Rheol 6 ‘whatever time a student may require for relaxation, should be spent in healthful exercise, rather than in clownish lounging about the shops or market-place’. Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Caergrawnt yn 1839, pan oedd Williams yn fyfyriwr. Yn Llambed, dywedwyd ei fod ef wedi cyflwyno rygbi, criced a phumoedd i’r coleg. Felly, Coleg Dewi Sant oedd y man lle dechreuodd gyntaf ein gêm genedlaethol yng Nghymru.
Ond gallai Williams hefyd fod yn ddadleuol. Wedi’i ddylanwadu arno gan F.D. Schleiermacher, Julius Hare a Samuel Taylor Coleridge, roedd ganddo safbwyntiau a oedd llawer o flynyddoedd cyn eu hamser. Yn ieithydd dawnus, ef oedd un o ychydig ddiwinyddion Prydeinig ei oes i gyd-gerdded yn llawn â’r datblygiadau diweddaraf o ran ysgolheictod Almaenig. Yn 1854, penodwyd Williams yn bregethwr dethol yng Nghaergrawnt; gwnaeth roi cyfres o bregethau, ac ynddynt, gwnaeth ddadlau y gellid rhoi’r gorau i bopeth amheus sydd yn y Beibl heb achosi llawer neu unrhyw niwed i’r hanfodion Cristnogol. Y flwyddyn ganlynol, cyhoeddwyd detholiad o’i bregethau mewn cyfrol o’r enw Rational godliness. Roedd yr ymateb yn gyflym ac yn ffyrnig. Dechreuodd pobl ofyn a oedd Llambed yn lle addas i hyfforddi ordinandiaid; gorfodwyd Williams i ymddiswyddo fel caplan arholi esgobaeth Llandaf. Ceisiodd amddiffyn ei safbwyntiau yn Lampeter Theology (1856), ond gwnaeth hynny bethau’n waeth.
Hefyd, yn 1856, cyhoeddodd Williams Christianity and Hinduism, fersiwn estynedig o’i hen draethawd a enillodd wobr yng Nghaergrawnt. Mae’r llyfr yn cynnwys dialog rhwng tri unigolyn o Ewrop a thri o Dde Asia (Bwdhydd, Hindŵ a Fedantydd) sy’n dadlau teilyngdod priodol crefyddau India, ymhlith eraill. Yn gyffredinol, ystyrir bod Blancombe, yr ieuaf o’r Cristnogion, yn cynrychioli safbwyntiau Williams ei hun. Dyfarnwyd gradd DD i Williams yn 1857.
Gwnaeth Williams achosi hyd yn oed fwy o ymryson drwy gyfrannu traethawd at yr Essays and Reviews drwg-enwog. Ceisiodd saith ysgolhaig blaenllaw gyflwyno achos yn cefnogi ymagwedd newydd a beirniadol at y Beibl a’r athrawiaeth Gristnogol. Ysgrifennodd Williams adolygiad o waith ei gyfaill y Barwn von Bunsen, o’r enw Bunsen’s Biblical Researches. Gwnaeth gymeradwyo’r ymagwedd feirniadol at y Beibl a oedd wedi’i hen sefydlu yn yr Almaen. Awgrymodd hefyd ddehongliad mwy derbyniol o rai o’r athrawiaethau Cristnogol traddodiadol, yn ogystal â phwysleisio ei hoff thema, sef nad yw proffwydoliaethau’r Hen Destament yn rhagweld y dyfodol. Gwnaeth y gyfrol hon achosi gwrthgri. Ynghyd â H.B. Wilson, cafodd Williams ei roi ar brawf am anuniongrededd gerbron Llys y Bwâu Talaith Caergaint. Cyhuddwyd ef o wadu ysbrydoliaeth yr Ysgrythur. Gwnaeth y llys farnu bod Williams yn euog o dri chyhuddiad yn ei erbyn, ond gwnaeth wrthod y gweddill. Gwnaeth ef a Wilson apelio yn erbyn y rheithfarn, ac ym mis Chwefror 1864, gwnaeth y llys ddirymu’r farn honno. Roedd y ddau ddyn wedi ennill yr hawl i ryddid academaidd. Dywedwyd mai’r farn hon oedd ‘the most momentous single judgement of that series which enabled Anglican clergymen to adjust their teaching in the light of modern knowledge.’
Yn y cyfamser, yn ôl yn Llambed, roedd Williams yn rhan o ffrae arall. Yn ddadleuol, roedd ysgoloriaeth wedi cael ei dyfarnu i George Lewellin, mab Llewelyn Lewellin, Prifathro’r Coleg. Ym marn Williams, roedd y Prifathro wedi dwyn yr ysgoloriaeth hon. Anfonodd ei fersiwn o’r hyn a ddigwyddodd i’r wasg leol heb rybuddio’r Prifathro yn gyntaf o’i fwriad. Dilynodd ohebiaeth rhwng y ddau yn y Welshman. Tyfodd y ffrae yn fwyfwy chwerw a chafodd un a oedd yn ymweld â’r coleg, sef yr Esgob Connop Thirlwall, ei dynnu i mewn iddi. Erbyn diwedd ei gyfnod yn Llambed, roedd Williams wedi cael ei ddiarddel gan y coleg.
Yn 1858, gwnaeth Williams dderbyn bywoliaeth Coleg y Brenin, sef Broad Chalke gyda Chalke ac Alvedistone, ger Caersallog (Salisbury); ar y cychwyn, gwnaeth ef gyfyngu’r gwaith hwnnw i’r gwyliau. Y flwyddyn ganlynol, priododd ef ag Ellen, merch Charles Cotesworth, masnachwr o Lerpwl. Ni chawsant blant. Ymadawodd Williams â Llambed yn 1862; testun ei bregeth ffarwel yng nghapel y coleg oedd ‘Princes have persecuted me without a cause,’ (Salm 119:161). Ni aeth unrhyw aelod o staff y coleg i’r gwasanaeth. Treuliodd ef y rhan fwyaf o weddill ei fywyd yn Broad Chalke, fel clerigwr gweithgar. Er gwaethaf popeth, roedd yn dal i fod yn Gymro i’r carn. Ei waith diwethaf, a gafodd ei gyhoeddi ar ôl ei farwolaeth, oedd cerdd o’r enw ‘Owen Glendower.’
Nid oedd Williams erioed yn gryf, ac fe ddywedwyd mai yn anaml iawn y byddech chi’n ei weld heb ei fod yn ysmygu sigâr. Bu farw cyn ei amser ar Ionawr 18 1870, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Broad Chalke. Mae ffenestr orllewinol yr eglwys honno yn cynnwys gwydr lliw er cof amdano. Hefyd, mae cofebion iddo yng nghapel y coleg, Llambed, ac yng Ngholeg y Brenin Caergrawnt. Yn 2016, cafodd cerflun o bêl rygbi, yn dathlu 150 o flynyddoedd ers iddo gyflwyno rygbi i Lambed, ac felly i Gymru, ei ddadorchuddio y tu allan i lyfrgell y campws.
Ffynonellau
Ellis, T. I., (1959). Williams, Rowland (1817 - 1870), cleric and scholar. Dictionary of Welsh Biography. Adalwyd ar Orffennaf 9 2020, oddi wrth https://biography.wales/article/s-WILL-ROW-1817
Robbins, K. (2004, September 23). Williams, Rowland (1817–1870), Church of England clergyman. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd ar Orffennaf 13 2020, oddi wrth https://www-oxforddnb-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-29545.
Price, D.T.W. (1977). A history of Saint David’s University College Lampeter. Volume one: to 1898. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Walters, S. (2016). The fighting parsons: the role of St David’s College, Lampeter, in the early development of rugby football in Wales. Lampeter: Canolfan Peniarth
Hedges, P. (n.d.) Rowland Williams: Christianity and Hinduism. Adalwyd ar Orffennaf 10 2020, oddi wrth https://www.academia.edu/31053904/Rowland_Williams_Christianity_and_Hinduism
Badham, P. (2006). The significance of Rowland Williams. Modern Believing. 47(2),4-12. Adalwyd oddi wrth https://web.a.ebscohost.com/ehost/pdfviewer/pdfviewer?vid=4&sid=eb2c43d1-87ca-476a-8c5a-d81bca62606d%40sessionmgr4008