Fel sylfaenydd colegau pentref Swydd Gaergrawnt, roedd Henry Morris (1889-1961) yn un o arloeswyr mawr addysg gymunedol.
Morris oedd y seithfed o wyth o blant William Morris, plymwr medrus a’i wraig Mary Elen Mullin. Daeth o Southport. Bu farw ei fam pan oedd yn ddeuddeg oed. Pan oedd Morris yn bedair ar ddeg, gadawodd yr ysgol i weithio fel gwas swyddfa gyda phapur newydd y Southport Visiter. Fodd bynnag, rhwng 1906 ac 1910, astudiodd mewn dosbarthiadau nos yn Institiwt Harris, Preston. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, roedd ganddo gywilydd o’i dras isel.
Yn un ar hugain oed, aeth Morris i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan gan obeithio hyfforddi fel offeiriad. Roedd hyn yn ystod cyfnod tymhestlog yn hanes yr eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Yn 1912, roedd deiseb yn erbyn datgysylltu’r eglwys Anglicanaidd yng Nghymru yn cylchredeg o gwmpas y coleg yn ogystal â thref Llanbedr Pont Steffan. Ysgrifennodd Morris at y wasg yn ddienw, gan gwyno bod y myfyrwyr wedi’u gorfodi i arwyddo’r ddeiseb. Mynegodd pennaeth y coleg, Llywellyn Bebb, ei ddicter a chynhaliodd y myfyrwyr gyfarfod i geisio canfod pwy oedd awdur y llythyr. Siaradodd dau fyfyriwr, Morris yn eu plith, am yr angen am ryddid barn, cawsant eu hel o’r cyfarfod mor bell â thŷ’r Athro Tyrrell Green. Cododd Morris wŷs yn erbyn chwe myfyriwr am ymosod. Ysgrifennodd ddwywaith ar ôl hynny at y wasg, gan ddisgrifio’r coleg fel ‘magwrfa ar gyfer y math gwaethaf o ragfarn eglwysig’. Yn y pendraw, gollyngodd yr ynadon yr holl gyhuddiadau o ymosod.
Gadawodd Morris Lanbedr Pont Steffan gyda gradd ail ddosbarth mewn diwinyddiaeth ac aeth ymlaen i Goleg Caerwysg, Rhydychen yn 1912. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, bu’n gwasanaethu yng Nghorfflu Gwasanaeth Brenhinol y Fyddin, gan dreulio amser yn Ffrainc a’r Eidal. Ar ôl dychwelyd adref, enillodd radd ail ddosbarth uwch mewn gwyddorau moesol yng Ngholeg y Brenin, Caergrawnt.
Ei swydd gyntaf ar ôl graddio oedd ysgrifennydd cynorthwyol addysg yng Nghaint. Fodd bynnag, symudodd yn fuan i Swydd Gaergrawnt lle cafodd ei ddyrchafu’n fuan i fod yn ysgrifennydd addysg y cyngor. Ei gyflawniad cyntaf oedd sefydlu maes llafur crefyddol cytûn i ysgolion y sir. Dilynodd hyn gydag ymgyrch egnïol ac ysbrydoledig i sefydlu colegau pentref. Yn 1924, cyhoeddodd bamffled o’r enw ‘The village college. Being a memorandum on the provision of educational and social facilities for the countryside, with special reference to Cambridgeshire.’ Ar yr adeg hon, roedd ardaloedd amaethyddol yn cael eu diboblogi fwyfwy ac roeddynt yn ddifreintiedig yn economaidd. Roedd y rhan fwyaf o blant Swydd Gaergrawnt yn cael eu haddysg mewn ysgolion i bob oedran ac yn gadael yr ysgol i weithio yn bedair ar ddeg oed. Yn yr ysgolion lleiaf, roedd plant rhwng tair a phedair ar ddeg oed yn cael eu dysgu gan un athro mewn un ystafell.
Syniad Morris oedd gwneud yr ysgol wledig yn ganolfan ddiwylliannol ranbarthol ac yn ganolbwynt gweithgaredd addysgol, diwylliannol a chymdeithasol. Credai y dylai ardaloedd gwledig gynnig cyfleusterau a oedd yr un mor ddeniadol â’r rhai yn y dinasoedd. Byddai’r ysgolion yn ganolbwynt i fywyd lleol ac ar gael i bobl o bob oedran. Byddai sawl pentref yn rhannu un ysgol; byddai’r adeilad canolig hwn yn cael ei ddefnyddio gan oedolion yn ogystal â phlant. Byddai’n cynnwys gweithdai, llyfrgell, campfa a neuadd y gellid ei defnyddio i lwyfannu dramâu neu gyngherddau. Awgrymodd Morris y dylid adeiladu 10 ysgol o’r fath. Yn 1930 agorodd y coleg pentref cyntaf yn Sawston.
Llun: Coleg Pentref Impington
Wrth astudio yn Rhydychen, cafodd Morris ei ysbrydoli gan bensaernïaeth arbennig y ddinas, roedd yn credu’n gryf mewn pwysigrwydd awyrgylch addysgol sy’n ddymunol yn esthetig. Yn wir, comisiynodd Walter Gropius a’i gydweithiwr o Loegr, Maxwell Fry, i ddylunio Coleg Pentref Impington. Codwyd yr adeilad yn 1938 a daeth yn enghraifft o foderniaeth ddynol ac yn enghraifft eithriadol o waith Gropius yn y Deyrnas Unedig. Yn ôl Pevsner, dyma un o’r adeiladau gorau o’i gyfnod ym Mhrydain. Ymhlith y colegau pentref eraill roedd Bottisham, Linton a Bassingbourn. Yn ychwanegol at hyn, llwyddodd Morris i ysbrydoli staff yr awdurdod addysg lleol, a aeth â’i syniadau gyda nhw wrth symud i siroedd eraill. Roedd R.A. Butler, llywydd y Bwrdd Addysg rhwng 1941 ac 1945, yn edmygu cyflawniadau Morris a chafodd ei urddo’n CBE yn anrhydeddau pen-blwydd 1942.
Yn y pendraw, enillodd Morris enw da yn genedlaethol. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, cynghorodd Swyddfa’r Trefedigaethau ar ddarpariaeth addysg bellach yng Ngorllewin Affrica. O 1947, cafodd ei secondio gan y Weinyddiaeth Cynllunio Gwlad a Thref i gynghori ar ddarpariaeth gymdeithasol a diwylliannol trefi newydd. Roedd Morris yn argyhoeddedig bod artistiaid yn hanfodol er lles cymdeithas. Roedd yn pryderu eu bod yn tueddu i weithio ar eu pen eu hunain, a’u bod yn cael eu llesteirio gan gost gynyddol stiwdios a’r anhawster o ddod â’u gwaith i sylw’r cyhoedd. Un o’i gyflawniadau mwyaf oedd sefydlu cymuned artistiaid a chrefftwyr Digswell. Llwyddodd i berswadio’r llywodraeth a Chorfforaeth Datblygu Welwyn Garden City i sefydlu ymddiriedolaeth ar gyfer artistiaid proffesiynol. Cartref cyntaf yr ymddiriedolaeth oedd Tŷ Digswell, plasty o gyfnod y rhaglywiaeth ar gyrion Welwyn Garden City. Aeth y gorfforaeth ati i adnewyddu’r tŷ i greu llety, stiwdios a gweithdai i’r artistiaid ac yna ei brydlesu i Ymddiriedolaeth Digswell am rent isel. Daeth rhai o’r artistiaid a weithiodd yno yn fyd enwog; gan gynnwys y crochenydd stiwdio Hans Coper, yr ysgrythwr John Brunsden a’r cerflunydd John Mills.
Yn ôl Nan Youngman, roedd Morris yn:
‘dal gydag wyneb hir gwelw a llygaid glas gwyllt. Roedd ei wallt yn lliw llygoden yn denau ac yn syth - roedd un cudyn hir yn hongian allan yn y cefn bob amser. Roedd ganddo lais bendigedig ac, fel mae llawer yn tystio, roedd yn anodd rhagweladwy ei hwyliau, ond doedd byth yn ddiflas.’
Gallai Morris fod yn gymeriad anodd gweithio gydag ef, ond ysbrydolodd deyrngarwch mawr ymhlith ei ffrindiau agos. Cyflawnodd ei ddibenion gydag egni angerddol, gan wthio gwrthwynebiad o’r neilltu a bwrw ymlaen â’r gwaith nes ei fod wedi’i gwblhau. Yn ystod ei oes, nid oedd y bobl a oedd yn ei adnabod yn ymwybodol ei fod yn hoyw, er bod ffrindiau yn gwybod am ei nwydau a’i rwystredigaethau rhywiol.
Llun: Plac coffaol ar Yr Hen Granar, Silver Street, Caergrawnt, lle bu Morris yn byw tan 1946 Verbcatcher / CC BY-SA (https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0)
Wrth i’w iechyd dorri, gwnaeth Morris ymddeol o’r Weinyddiaeth Cynllunio Gwlad a Thref ar ddiwedd 1960. Bu farw o gyfuniad o niwmonia a chlefyd Parkinson ar 10 Rhagfyr 1961 yn Ysbyty Hill End, St Albans. Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yn ei angladd yn amlosgfa Golders Green roedd Henry Moore a J.B. Priestley.
Ffynonellau
Cunningham, P. (2004, Medi 23). Morris, Henry (1889–1961), educational administrator. Oxford Dictionary of National Biography. Cyrchwyd ar 5 Mehefin. 2020, o https://www-oxforddnb-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-63830.
Price, D.T.W. (1990). A history of Saint David’s University College Lampeter. Volume two: 1898-1971. Gwasg Prifysgol Cymru
Read, Herbert. (1961, Rhagfyr 13). Mr. Henry Morris. The Times, t. 16. Cyrchwyd o https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS269050253/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=7a486c5a.
Russell, Gordon. (1961, Rhagfyr 15). Mr. Henry Morris. Times, t. 15. Cyrchwyd o https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS253190543/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=398a1c79.
Bennett, O. (2015, Tachwedd 17). Bauhaus and moral purpose: the very model of modern community schools. Guardian. Cyrchwyd o https://www.theguardian.com/education/2015/nov/17/bauhaus-community-schools-village-colleges-cambridgeshire
Digswell Arts. (2020). History. Working for artists in Hertfordshire for over 60 years. Cyrchwyd ar Mai 11 2020, o https://digswellarts.org/history/
Telford, A.E. (1995). Community education and the conflict of ideals in the history of English adult education movements. (Traethawd doethurol, Prifysgol Durham, Y Deyrnas Unedig). Adalwyd o https://core.ac.uk/download/pdf/9640385.pdf. [Cyrchwyd ar 12 Mai 2020]