Mae Martin Bloomfield yn hyfforddwr, yn athro ac yn hwylusydd sgiliau cyfathrebu rhyngwladol, ac ef yw creawdwr y wefan Dyslexia Bytes.
Magwyd Bloomfield yng Nghaerefrog. Ar y cychwyn, roedd y teulu’n byw yn gysurus; disgwylir y byddai Martin a’i frodyr yn gwneud yn dda yn yr ysgol. Aeth i Ysgol Gân Eglwys Gadeiriol Caerefrog cyn mynd i ysgol ramadeg y wladwriaeth, ond gwnaeth honno droi’n ysgol gyfun yn ystod ei amser ynddi. Roedd yn casáu ysgol; er iddo weithio’n galed iawn, mae’n cofio mai barn ei athrawon oedd ei fod yn ddioglyd. Gwnaeth ystyried nad oedd yn deall yr hyn yr oedd ei athrawon am iddo ei wneud, na’r ffordd yr oeddent am iddo ei wneud chwaith. Ddwywaith, cadwyd ef yn ôl am flwyddyn. Ymdrechodd i ennill y cymwysterau yr oedd eu hangen arno i fynd i’r brifysgol, a bu rhaid iddo fynychu dosbarthiadau nos er mwyn astudio am gymhwyster Lefel Uwch ychwanegol.
Roedd Bloomfield yn ddwy flwydd ar hugain oed pan ddaeth yn fyfyriwr israddedig yn astudio athroniaeth yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant. Gwnaeth bychander Llambed olygu bod pawb yn adnabod Bloomfield ar unwaith fel ‘yr hogyn sy’n gwisgo esgidiau du a gwyn’ neu ‘Dodgy Shoes’. Roedd hefyd yn aelod gweithredol o’r Gymdeithas Ffensio. Er gwaethaf y ffaith bod y lle mor anghysbell, dysgodd fod y byd cyfan ar flaenau ei fysedd. Mae’n cofio cymysgu llawer o weithiau gyda myfyrwyr rhyngwladol. Erbyn diwedd ei gyfnod yn Llambed, gwnaeth wrthod ymadael â’r lle, gan aros yno drwy gydol ei wyliau. Byddai’n ffynnu’n academaidd wrth ymgymryd â gwaith prosiect neu wrth ysgrifennu traethawd hir, gwaith a fyddai’n cael ei asesu’n barhaol. Ond roedd yn dal i gael trafferthion gydag arholiadau, gan ennill marciau trydydd dosbarth yn hytrach na rhai dosbarth cyntaf. Er hynny, gwnaeth yn ddigon da i aros ymlaen yn Llambed ac astudio am radd MA. Tuag at ddiwedd ei gyfnod fel myfyriwr, ystyriwyd ei fod yn ddyslecsig.
Ar ôl graddio, treuliodd ychydig o amser fel Athro yn addysgu Saesneg fel Iaith Dramor. Yn gweithio fel Athro Saesneg Byd Busnes yn yr Almaen, sylwodd fod llawer o’r myfyrwyr yr oedd ef yn ymwneud â nhw yn ddeallus, ond er gwaethaf hynny, roeddent yn dal i wneud yn wael yn eu hastudiaethau. Gwnaeth Bloomfield adnabod arwyddion ei ddyslecsia ynddynt, a dechreuodd eu haddysgu yn yr un modd yr hoffai ef fod wedi cael ei addysgu. Gwnaeth eu canlyniadau wella a gofynnodd yr ysgol iddo gynnal gweithdai ymwybyddiaeth o ddyslecsia ar gyfer athrawon eraill. Roedd hwn yn ddechreuad gan Bloomfield i ymgysylltu’n ddyfnach ag astudio dyslecsia.
Gweithiodd Bloomfield am rai blynyddoedd o gwmpas Zürich, lle gwnaeth ei waith gynnwys darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddyslecsia a sgiliau busnes cyfathrebol; yn ogystal, gwnaeth hefyd weithio ym Mheriw ac Awstralia. Ar ddychwelyd i Brydain, gwnaeth weithio fel hyfforddwr SLS, gan addysgu Saesneg Byd Busnes i gleientiaid o bob rhan o Ewrop. Ochr yn ochr â hyn, am ddwy flynedd, bu’n athro/hyfforddwr i Wasanaethau Cyfathrebu Gweithredol, yn cynnig hyfforddiant sgiliau cyfathrebu i gleientiaid busnes rhyngwladol.
Ymunodd Bloomfield ag York Associates fel hyfforddwr ym mis Tachwedd 2009. Mae York Associates yn gorff hirsefydlog sy’n darparu hyfforddiant ym meysydd Saesneg proffesiynol a chyfathrebu rhyngwladol. Mae arbenigeddau Bloomfield yn cynnwys ymwybyddiaeth o ddyslecsia, anghenion addysgol arbennig (AAA), ac ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol o ddyslecsia ac anghenion addysgol arbennig. Ers 2019, mae wedi darlithio yng Ngholeg Dinas Leeds yn addysgu safbwyntiau rhyngwladol a rhyngddiwylliannol ar anghenion addysgol arbennig.
Bloomfield yw sylfaenydd Dyslexia Bytes; mae’n ei ddisgrifio fel ‘”siop un stop” ar-lein er mwyn rhoi safbwynt rhyngwladol a rhyngddiwylliannol ar ddyslecsia.’ Dechreuodd ef Dyslexia Bytes fel ffordd o gysylltu pobl ar draws Ewrop a oedd wedi ymuno â’i weithdai AAA, gan ganolbwyntio ar awtistiaeth, ac ADHD, yn ogystal ag ar ddyslecsia. Ar ôl dychwelyd i’w gwaith arferol, byddai’r mynychwyr felly yn gallu rhannu eu profiadau o hyd. Ond gwnaeth Dyslexia Bytes dyfu’n gyflym i fod yn wefan adnoddau ymwybyddiaeth o ddyslecsia bwysig. Mae’n cynnwys ffeithiau ac ystadegau am bobl sy’n dioddef o ddyslecsia, ac mae’n helpu rhai i ddeall pa anawsterau gweithrediadol gweithredol sydd gan bobl sydd â dyslecsia. Mae hefyd yn arddangos pa fuddion sydd wedi cael eu dangos i fod yn gysylltiedig â meddwl mewn ffordd ddyslecsig, ac mae’n dangos sut y gellir deall dyslecsia o amrywiol safbwyntiau. Ymhlith y bobl ddyslecsig enwog a restrir, ceir Henry Ford, Bill Gates a George Washington. Yng Ngwobrau ELTons y Cyngor Prydeinig 2020, Dyslexia Bytes oedd un o enillwyr Cymeradwyaeth y Beirniaid am Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad. Roedd hefyd yn un o’r terfynwyr am y Wobr Arloesedd mewn Adnoddau Athrawon.
Mae Bloomfield wedi annerch Llywodraeth Prydain, amrywiol Siambrau Masnach rhyngwladol, adrannau masnach ryngwladol a chynadleddau rhyngwladol yn fyd-eang. Mae’n ddarlithydd gwadd i brifysgolion ym Mhrydain, yr Almaen, Ffrainc, Rwsia a’r Swistir. Gwnaeth sefydlu a chyflwyno’r wobr flynyddol Dyslexia in Business. Mae’n aelod o amrywiol bwyllgorau ymgynghorol rhyngwladol ar gynhwysiad a niwroamrywiaeth. Ar hyn o bryd, mae’n gorffen ei radd PhD ym Mhrifysgol Caerefrog. Yn ystod ei amser sbâr, mae’n gwirfoddoli i Ymddiriedolaeth Gadwraeth yr Eglwysi ac mae’n gynorthwyydd gofal cyffredinol i Brosiect Gofal Cymunedol ‘All Saints’.
Ffynonellau
York Associates. (2021). Martin Bloomfield. Adalwyd ar Fawrth 5 2021 oddi wrth https://york-associates.co.uk/team/martin-bloomfield-associate-trainer/
Bloomfield, M. (2021). Martin Bloomfield, Relentless optimist. [LinkedIn page]. LinkedIn. Adalwyd ar Fawrth 5 2021 oddi wrth https://www.linkedin.com/in/martin-bloomfield-41370515/
Millin, S. (2020, August 3). Dyslexia bites – Q&A with Martin Bloomfield [Blog post]. Adalwyd ar Fawrth 5 2021 oddi wrth https://sandymillin.wordpress.com/2020/08/03/dyslexia-bytes-qa-with-martin-bloomfield/
Deacy, C. (Interviewer). (2019, October 13). Martin Bloomfield. Adalwyd ar Fawrth 5 2021 oddi wrth https://audioboom.com/posts/7394582-martin-bloomfield
Teaching Students with Dyslexia. (2020, August 25). Discussion with Martin Bloomfield “When Learning is Trauma.” [Facebook post]. Adalwyd ar Fawrth 5 2021 oddi wrth https://www.facebook.com/TeachingStudentsWithDyslexia/videos/2649390662015247/