Gwasanaethodd Richard Washington-Jones (1918-2001) yn y Llynges Fasnachol, chwaraeodd rygbi dros Gymry Llundain ac wedyn daeth yn brifathero yn Venezuela.

Roedd Richard yn fab i un o raddedigion Coleg Dewi Sant, John Washington-Jones a’i wraig, Myfanwy. Ar adeg ei enedigaeth, roedd ei dad yn gurad, yn gweithio ym Mlaenafon. Er mai Thomas oedd ei enw bedydd, roedd yn cael ei alw’n Richard, ei enw canol. Yn 1919, aeth y teulu ar long i Batagonia, lle  gweithiodd John fel ficer ymhlith y gwladychwr Cymreig. Roedd atgofion cyntaf Richard o’i gyfnod ym Mhatagonia. Dychwelodd y teulu i Gymru pan oedd yn wyth oed. Roedd ei gartref nesaf yng Nghwmafan, ger Castell-nedd. Mynychodd Richard Goleg Crist, Aberhonddu, lle’r oedd yn seren chwaraeon henaidd ei ffordd. Chwaraeodd ddwywaith yng ‘ngornest’ rygbi flynyddol Aberhonddu yn erbyn Llanymddyfri a chwaraeodd dair gwaith yn y gêm griced. (Collodd y gemau rygbi bob tro ond enillodd yn y criced!)

Fel ei dad, astudiodd Richard yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Fel pencampwr ar y maes  chwaraeon , roedd yn gapten y tîm rygbi a'r tîm criced. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd yn cael ei alw’n  ‘Washy!’. Graddiodd yn 1939, yn gwisgo cwfwl ei dad. Gwisgwyd y cwfwl am drydedd gwaith, pan raddiodd ei fab ei hun, Niall, o Goleg Dewi Sant yn 1969.

Daeth Washington-Jones yn ddecmon yn y Llynges Fasnachol yn 1940; hwyliodd dair gwaith i Gibraltar ar y S.S. Lapwing. Pan gafodd y llong ei tharo â thorpido ar ei phedwaredd taith, derbyniodd siec am golli ei siwt a'i fandolin. Fodd bynnag, roedd wedi cael ei alw yn ôl o'r llong i dderbyn ei Dystysgrif Raddio o Lanbedr Pont Steffan! Mae’n bosibl bod hyn wedi achub ei fywyd! Ar ôl hynny, ymunodd â'r RAF fel hyfforddwr addysg gorfforol; ei reng oedd awyr-lefftenant. Fodd bynnag, er siom mawr iddo, roedd dallineb lliw yn golygu nad oedd yn gallu hedfan. Fodd bynnag, roedd ef ac un o'i ffrindiau yn arfer trefnu arddangosfeydd ffensio Errol Flynn mewn partïon. Wrth wasanaethu yng Ngwersyll RAF Tremorfa, Caerdydd, cyfarfu Olivari Dottie, Prif Fenyw Awyrennau. Priodon nhw ar 12 Awst 1944; gweinyddodd tad ac ewythr Richard yn y gwasanaeth. Cafodd Richard ac Olivari dri mab, Richard, Nicholas a Niall.

Ar ôl iddo ef ac Olivari gael eu rhyddhau o'r fyddin yn 1945, aeth Washington-Jones ymlaen i Goleg Eglwys y Drindod, Rhydychen. Er iddo dreulio llawer o amser yn chwarae rygbi, llwyddodd i ennill ei Ddiploma Addysg. Roedd ei swydd addysgu gyntaf yn Ysgol Emanuel, Wandsworth, lle’r oedd yn athro  addysg grefyddol a rygbi. Ochr yn ochr â hyn, chwaraeodd rygbi dros Gymry Llundain am dri thymor. Ar ôl hynny, bu’n athro Saesneg a rygbi ar long hyfforddi’r Llynges Fasnachol, sef HMS Worcester. Roedd y llong wedi’i hangori yn Greenhythe.

Fel ei dad, gweithiodd Washington-Jones yn Ne America. Daeth yn bennaeth a Chyfarwyddwr Addysg ar saith ysgol Royal Dutch Shell International yn Venezuela. Roedd yn hoff iawn o Venezuela ac yn benodol, roedd yn gwerthfawrogi’r cyfle i archwilio'r jyngl. Cefnogodd gartref plant amddifad yn gofalu am blant brodorol a oedd wedi'u gadael. Yn wir, derbyniodd Washington-Jones anrhydedd gan lywodraeth Venezuela am ei wasanaethau i'r gymuned.

Dychwelodd Washington-Jones i Brydain yn 1962; roedd ei swydd amser llawn olaf fel pennaeth Ysgol Baratoi Forest Grange, Horsham. Ar ôl iddo ymddeol, symudodd i fyw ychydig o filltiroedd i'w fan geni, sef Blaenafon. Dywedodd ‘Nid oeddwn erioed yn disgwyl y byddwn yn gorffen fy mywyd fel dyn hapus, ond rwyf wedi gwneud hynny.’ Bu farw yn dawel ar 1 Rhagfyr 2001. Mae ei fab Niall yn cofio ei fod yn ddyn llawen a oedd yn mwynhau cael diod a hwyl, ac a oedd yn adnabyddus am ei egni, ei frwdfrydedd, ei fywiogrwydd a'i deimlad o hwyl.

Ffynonellau

Washington-Jones, N. (2020). The long arm of Lampeter academicals. The Link, 76, 17. Cyrchwyd ar 16 Tachwedd 2020 o https://www.uwtsd.ac.uk/media/uwtsd-website/content-assets/documents/alumni/lampeter-society/the-link-summer-2020.pdf