Mae Trevor Newman wedi dysgu daearyddiaeth mewn wyth gwlad a thri chyfandir.

Cafodd Newman ei eni yn Folkestone a’i fagu yn Hythe, Caint. Roedd ei deulu yn rhedeg cadwyn o siopau dodrefn yn ogystal â chwmni symud dodrefn (pob un o’r enw “Newman and Sons”). Roedd ei fam yn gweithio fel cogydd yn un o’r tafarndai lleol. Mynychodd Trevor Ysgol Ramadeg Harvey yn Folkestone. Roedd yn swyddog yno, yn ogystal â chynrychioli’r ysgol mewn pêl-droed a rygbi’r undeb.   

 Ef oedd y cyntaf o’i deulu i fynd i’r brifysgol, gan gyrraedd Coleg Prifysgol Dewi Sant yn 1982 i astudio daearyddiaeth. Roedd hwn yn gyfnod cyffrous  i’r pwnc yn Llanbedr Pont Steffan; ymhlith darlithwyr Newman oedd Mike Walker, Dave Day, Dave Kirby, Paul Cloke, John Dawson a Rob Page. Pan nad oedd yn astudio, cynrychiolodd y coleg mewn pêl-droed a hoci, (chwaraeodd fel cefnwr pêl-droed  a  gôl geidwad hoci). Ei lysenwau oedd Blimp (gan ei fod  yn fyrdew) ac Elder Lemon ar ôl lliw ei grys gôl geidwad). 

Yn ystod ei flynyddoedd yn Llanbedr Pont Steffan, sylweddolodd Newman mai ei uchelgais oedd bod yn athro. Fodd bynnag, roedd yn amharod i ddilyn  cwrs TAR yn syth, heb brofi bywyd y tu allan i addysg yn gyntaf. Felly, treuliodd dair blynedd yn gweithio yn Llundain fel drafftiwr dylunio. Ar ôl hynny, cynigiwyd pecyn diswyddo iddo gan fod yr adran yn symud  i Sheffield. Achubodd ar y cyfle i  hyfforddi fel  athro(rhywbeth  yr oedd wedi bwriadu ei wneud erioed). Aeth i Brifysgol Abertawe yn 1988, gan gymhwyso fel athro’r flwyddyn ganlynol. Daearyddiaeth oedd ei brif bwnc ac  Addysg Gorfforol  oedd ei  ail bwnc.   

Swydd gyntaf Newman oedd mewn ysgol wledig yng nghanol Llynnoedd Norfolk. Mae’n cofio gwers ar dwristiaeth, lle gofynnodd i ddisgyblion blwyddyn 10, “Pwy sydd wedi bod ar wyliau dramor?” Cafodd ei synnu nad oedd pedwar o’r dosbarth wedi ymweld â Norwich, ond deunaw milltir i ffwrdd! Dysgodd hefyd i chwarae Tchoukball, (gêm dan do a gafodd ei dyfeisio yn y 1970au a oedd yn  cynnwys elfennau o bêl-law, pêl foli a phêl fasged). Cynrychiolodd Newman Brydain Fawr mewn twrnamaint yn y Swistir yn ogystal â bod yn gapten Cymru yn y gêm ryngwladol gyntaf rhwng Cymru a Lloegr, a gafodd ei chwarae yng Ngŵyl Gerddi Glyn Ebwy yn 1992. Roedd dau o gyn-fyfyrwyr  Llanbedr Pont Steffan yn rhan o dîm Cymru ar y diwrnod hwnnw hefyd.    

Daeth ei swydd  nesaf ag ef  yn ôl i Gymru, i  ysgol uwchradd Gatholig ym Mhontypridd. Arhosodd yno am y naw mlynedd nesaf, ar yr adeg hon y cyfarfu â’i wraig Lynda. Un noson wlyb yn 1999 wrth aros mewn tagfa draffig ar y briffordd, dywedodd Lynda eu bod yn mynd i rigol. Efallai y dylen nhw geisio gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol. Y flwyddyn ganlynol, symudon nhw i Ysgol Ryngwladol St Andrews, Blantyre, Malaŵi ar gyfer swydd ddysgu ryngwladol gyntaf Trefor. Roedd y ddaearyddiaeth yn ysblennydd; mae’n cofio teithiau maes ar ben llwyfandiroedd 1500 metr a mellt yn torri ar draws gwersi. Yn anffodus, yn sgil  cwymp economi Malaŵi bu’n rhaid i’r Newmans ddychwelyd i Brydain ar ôl blwyddyn yn unig. Fodd bynnag, roedd y cariad tuag at deithio wedi cydio ynddynt. 

Ar ôl treulio blwyddyn yn dysgu yn Kettering yng Nghanolbarth Lloegr, roedd ail swydd dramor Newman yn Kuwait yn Ysgol Saesneg Fahaheel. Roedd hon yn swydd am gyfnod byr iawn yn unig  oherwydd dechreuodd ail ryfel y gwlff. Gweithiodd Newman nesaf yn Yeovil, cyn symud i’r Almaen i fod yn bennaeth yr adran ddaearyddiaeth yn Ysgol Brydeinig Berlin, ysgol ryngwladol yn cynnig addysg Brydeinig. Yn y swydd  hon, daeth yn athro ac yn eiriolwr dros y Fagloriaeth Ryngwladol.   

Yn 2006, symudodd Newman yn ôl i Affrica i ddysgu yn Ysgol Ryngwladol Moshi ar lethrau isaf mynydd  Kilimanjaro. Aeth ar  ei daith maes gyntaf i Barc Cenedlaethol Tarangire; mae’n cofio dihuno i weld anifail yr oedd llew wedi’i ladd dros nos 50 metr o’i babell. Symudodd yn ôl i Ewrop yn 2008 i fod yn bennaeth Dyniaethau yn Ysgol Ryngwladol St Dominic, Lisbon. Dair blynedd yn ddiweddarach, symudodd i Goleg y Dadeni Hong Kong; sefydlwyd yr ysgol bum mlynedd cyn hynny i wasanaethu anghenion y cymunedau lleol ac alltudion. Yn ogystal â dysgu, roedd Newman yn mwynhau  trefnu teithiau i Mali, gwylio llawer o gystadlaethau rygbi saith bob ochr ac archwilio bron pob darn o Dde Ddwyrain Asia. Dathlodd ei ben-blwydd yn hanner cant oed gan gerdded llwybr yr Inca ym Mheriw. 

Gadawodd Hong Kong yn 2020; ei gyrchfan nesaf yw Bangkok, lle mae wedi’i benodi i swydd Pennaeth Daearyddiaeth a Gwleidyddiaeth Fyd-eang yn Ysgol Ryngwladol St Andrews. Mae’n dweud bod popeth mae wedi’i wneud yn ei yrfa wedi bod yn bosibl oherwydd  ansawdd y dysgu a’r  ysbrydoliaeth a gafodd wrth  astudio yn yr adran ddaearyddiaeth yn Llanbedr Pont Steffan.