Mae Alston Kennerley yn hanesydd morwrol.
Ganwyd Kennerley yn Lerpwl; ond rhannwyd ei flynyddoedd cynnar a’i addysg rhwng Lerpwl, Fremantle yng Ngorllewin Awstralia, Southport, a Chroesoswallt. Er iddo basio wyth lefel ‘O’, gwnaeth ymadael â’r ysgol pan oedd yn un ar bymtheg mlwydd oed er mwyn ymuno fel prentis â’r Llynges Fasnachol, ond yn fuan, dyrchafwyd ef yn swyddog mordwyo. Gwnaeth basio arholiad y llywodraeth, gan ennill ei Thystysgrif Cymhwyster fel Capten.
Ar ôl deng mlynedd ar y môr, penderfynodd Kennerley newid cyfeiriad ei yrfa, gan obeithio y gallai ef fynd i’r brifysgol. Roedd ceisiadau UCAS am y flwyddyn honno wedi gorffen yn barod. Awgrymodd y Parchedig John Chalk, Curad Cynorthwyol Abergele, y byddai’n werth i Alston ysgrifennu llythyr personol at Lloyd Thomas, pennaeth Coleg Dewi Sant. Aeth Kennerley ar ei sgwter Lambretta 125 i Lambed er mwyn cael ei gyfweliad. Roedd Lloyd Thomas yn deall gwerth cymwysterau morwrol proffesiynol, ac roedd yn fodlon ei dderbyn mewn ffydd heb unrhyw lefel ‘A’. Gwnaeth Kennerley uwchraddio ei sgwter i Lambretta 150, gan ychwanegu car clun ato i gludo ei fagiau.
Ei bedwar pwnc yn ystod ei flwyddyn gyntaf oedd hanes, athroniaeth, Groeg ac astudiaethau Beiblaidd. Yn ystod ei dymor cyntaf, disgwylid i fyfyrwyr sefyll arholiad traethawd bob yn ail wythnos, gan ysgrifennu traethawd ar un o chwe thestun a oedd wedi’u hysgrifennu mewn sialc ar y bwrdd. Er, ar y cychwyn, roedd hi’n amhosibl i Kennerley wneud hyn, yn raddol dysgodd i ysgrifennu’n rhugl. Bant o’i astudiaethau, ymunodd ef â’r clwb hoci; er gwaethaf aelodaeth fechan y clwb hwnnw, ni chafodd y tîm ei faeddu yn unrhyw un o’r un ar ddeg gêm a gynhaliwyd yn ystod blwyddyn olaf Kennerley. Rhoddwyd i Kennerley ei liwiau am chwarae hoci. Mae hefyd yn cofio canu gyda’r gymdeithas gorawl a darllen yn y capel. Roedd pawb yn cymryd rhan yn nigwyddiadau’r diwrnod RAG blynyddol. Mae gan Kennerley lun o hyd o’r Parchedig F.J.T. David, a oedd bryd hynny yn faer Llambed ac yn ddarlithydd hanes a diwinyddiaeth, yn cael ei gludo o gwmpas y dref mewn cadair ar gefn tryc y coleg!
Graddiodd Kennerley gydag anrhydedd mewn hanes ym mis Gorffennaf 1964. Symudodd i Goleg Prifysgol Aberystwyth i astudio cwrs ôl-raddedig mewn addysg, yn ogystal â chwrs astudiaethau Beiblaidd. Ei swydd nesaf oedd fel Darlithydd Pynciau Morwrol yng Ngholeg Technoleg Plymouth, (Ysgol Fordwyo Plymouth gynt). Yn athrofa hirsefydlog, roedd Ysgol Fordwyo Plymouth yn cynnig addysg alwedigaethol i forwyr masnachol. Pan benodwyd Kennerley, ef oedd yr unig ŵr gradd ar y staff! Ef oedd arweinydd pwnc Astudiaethau Breiniol (unrhyw beth nad oedd ar y maes llafur morwrol) pob un o 300 o gadlanciau’r Llynges Fasnachol a oedd ar y gofrestr. Ei ail bwnc oedd mordwyo.
Byddai Kennerley yn aros yn Plymouth am weddill ei yrfa. Ymhen hir a hwyr, newidiodd y Coleg Technoleg i Goleg Polytechnig Plymouth a nesaf i Goleg Polytechnig y De-orllewin, ac yn ddiweddarach fyth i Brifysgol Plymouth. Mae Kennerley wedi hyfforddi myfyrwyr ar amrywiol lefelau, gan gynnwys OND, HND a B.Sc. Yn ogystal â mordwyo a hanes morwrol, mae hefyd wedi addysgu gwaith cargo, morwriaeth, technegau astudio a sut i ddefnyddio llyfrgell.
Dyfarnwyd PhD Kennerley iddo yn 1989, ac enw ei thesis oedd ‘British seamen’s missions and sailors’ homes, 1815 to 1970: voluntary welfare provision for serving seafarers.’ Mae wedi cyhoeddi erthyglau niferus mewn cyfnodolion ac wedi ysgrifennu penodau ar amrywiol bynciau morwrol mewn llyfrau. Mae ei benodau mewn llyfrau wedi cynnwys hanes morwrol Dyfnaint, Cernyw a Gwlad yr Haf. Mae ei themâu eraill wedi cynnwys addysg a lles morwyr, crefydd morwyr a Joseph Conrad. Cyhoeddwyd hanes swyddogol ei sefydliad ef ei hun, The Making of the University of Plymouth (cyhoeddwyd gan Brifysgol Plymouth) yn 2000. Disgrifiodd y broses o atgyfnerthu a wnaeth yn y diwedd greu prifysgol aml-gampws gymhleth gyda’i holl gyfleoedd a’i heriau. Gyda Richard Harding ac Adrian Jarvis, gwnaeth Kennerley olygu British ships in China seas: 1700 to the present day, (Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl, 2004). Mae’r gyfrol hon yn casglu at ei gilydd pedwar ar bymtheg papur a roddwyd mewn cynhadledd a gynhaliwyd yn Amgueddfa Forwrol Merseyside, Lerpwl. Meddai Jamieson, ‘Collections of conference papers can be highly variable in quality, but this particular set are of a generally high standard, with full references after most papers … The book will be of use to both those interested in the history of British shipping and those looking at the economic development of China.’
Roedd Kennerley hefyd yn un o dri golygydd y gyfrol The maritime history of Cornwall, (Gwasg Prifysgol Caerwysg, 2014). Yn rhyfedd, er bod y môr wedi bod yn ganolog i hanes Cernyw, dyma’r hanes morwrol llawn, cyntaf o’r penrhyn. Ysgrifennodd Milne, ‘The underlying research base of the book is very substantial, and the range of sources formidable … The editors are to be commended for pulling so many threads together in such a capable way, and their editorial contributions certainly make the volume much more coherent than is often the case with multi-author projects on this scale. This book sets some important standards for maritime-regional studies.’ Yn y digwyddiad “Cornish Bookers” 2015, gwnaeth Gorsedh Kernow’s Holyer an Gof wobrwyo’r gyfrol fel y gwaith ffeithiol (morwrol, treftadaeth ddiwydiannol a’r amgylchedd ) gorau, 2015.
Mae Kennerley wedi cyfrannu erthyglau am Frank Thomas Bullen ac Agnes Elizabeth Weston at yr Oxford Dictionary of National Biography. Mae ei waith ar fywgraffiad Bullen yn nwylo cyhoeddwr. Mae’n gymrawd y Sefydliad Morwrol, yn Gymrawd Churchill (1991), yn aelod o’r Gymdeithas Ymchwil Morwrol, o Gymdeithas Hanes Morwrol y De-orllewin ac o’r Gymdeithas Hanes Morwrol Ryngwladol. Mae’n gymrawd anrhydeddus Prifysgol Caerwysg ers 1990. Mae’n dal i fod yn Gydymaith Ymchwil Anrhydeddus Prifysgol Caerwysg, ac mae’n parhau i weithio ar ei raglen ei hun, yn cynnal ymchwil hanes morwrol.
Ffynonellau
Robbins, R. (2003). Universities: past, present, and future. Minerva, 41(4), 397-406. Adalwyd ar Fehefin 7 2021 oddi wrth https://www.jstor.org/stable/41821259
Jamieson, A.G. (2005). Book review: British ships in China seas: 1700 to the present day. International Journal of Maritime History, 17(1),300-302. https://doi.org/10.1177/084387140501700118
Review: The Maritime History of Cornwall. (2015). International Journal of Maritime History, 27(3), 604–606. https://doi.org/10.1177/0843871415586662v
Parker, S. (2015, Gorffennaf 28). Study of archaeology and landscape scores hat-trick at ‘Cornish Bookers.’ Western Morning News. Adalwyd ar Fehefin 7 2021 oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/news/document-view?p=UKNB&docref=news/156D99A4C329B910.