Elizabeth Walker

Mae Elizabeth Walker yn brif guradur yn Amgueddfa Cymru – National Museum Wales. Mae ei chyfrifoldebau yn cynnwys casgliadau archeolegol Palaeoithig a Mesolithig, offer cerrig cynhanesyddol ac archifau archeolegol.

Fel myfyriwr israddedig, astudiodd Walker archaeoleg ym Mhrifysgol Caerhirfryn o dan arweiniad Roger Jacobi yn y 1980au. Treuliodd ei gwyliau yn cloddio fel gwirfoddolwr ag Amgueddfa Cymru. Roedd ei goruchwylydd, Stephen Aldhouse-Green, yn gweithio ar Brosiect Ymchwil Anheddiad Palaeoithig yng Nghymru. Yr adeg hon cyflwynodd Aldhouse-Green Walker i'r casgliad sylweddol o offer cerrig a ddarganfyddwyd yn Ogof Pontnewydd, ger Llanelwy yn Sir Ddinbych. (Pontnewydd yw'r safle mwyaf gogledd-orllewinol yn Ewrop i fod â thystiolaeth o olion ffosil Neanderthalaidd cynnar. Mae'r darganfyddiadau cynhanesyddol cynnar hyn yn cynnwys dannedd dynol a darn o ên o o leiaf pum unigolyn ynghyd â dros fil o offer cerrig wedi'u gwneud gan y bobl hyn). Y gwanwyn nesaf, roedd Walker yn aelod o dîm yr Amgueddfa a oedd yn cloddio yn Ogof Hoyle's Mouth, ym Mhenalun yn Sir Benfro.  

Pontnewydd Cave

Llun: Ogof Pontnewydd, gan Llywelyn2000 – ei waith ei hun, CC BY-SA 4.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=34715326

Profiad cyntaf Walker o waith â thâl oedd treulio pedair wythnos yn mesur arteffactau Ogof Pontnewydd. Wedi hynny yn 1987, ymunodd ag Adran Archaeoleg a Nwmismateg yn Amgueddfa Cymru yn barhaol, fel cynorthwyydd curadurol. Mae hi wedi aros yno byth ers hynny, gan godi'n raddol i fyny'r ysgol yrfaol.  

Roedd gradd Meistr Walker, a ddyfarnwyd gan Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan yn 2007, a'i doethuriaeth, a ddyfarnwyd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 2017, yn delio ag ymarfer archaeoleg yng Nghymru. Teitl ei gradd Meistr oedd ‘Aspects of change in museum collecting practice during the twentieth century: some south Welsh archaeological collections.’ Teitl ei doethuriaeth oedd 'Collecting the past: aspects of historiography and lithic artefact analysis for the creation of narratives for the Palaeolithic and Mesolithic archaeology of Wales.’ 

Mewn datblygiad uniongyrchol o'i dyddiau israddedig, mae ffocws ymchwil Walker yn dal i ganolbwyntio ar archaeoleg Palaeolithig a Mesolithig yng Nghymru, (tua 250 000 – 4 000 BCE). Yn ogystal â pharhau i weithio ar Bontnewydd a Hoyle's Mouth, mae wedi cloddio mewn sawl ogof arall o amgylch Cymru. Yn arbennig, mae wedi cyfarwyddo ei chloddiadau ei hun ar ddau safle ar Benrhyn Gŵyr: Ogof Cathole, safle a ddefnyddiwyd fel lloches gan helwyr-gasglwyr Mesolithig a Rhewlifol Hwyr, a Burry Holms, gwersyll Mesolithig cynnar.  

Ynghyd â'i gwaith maes yn yr awyr agored, mae Walker wedi gweithio ar gasgliadau amgueddfa sy'n bodoli eisoes. Mae hi'n nodi fel hyn: 'Mae ein hamgueddfeydd yng Nghymru gyda chyfoeth o ddeunydd a adferwyd o ogofâu a safleoedd o bob cyfnod archaeoleg … Mae casgliadau amgueddfeydd gyda photensial sylweddol i ryddhau data newydd am y gorffennol'. Drwy gofnodi casgliadau amgueddfa, mae wedi gallu dod â'r holl ddarganfyddiadau o'r oes Palaeolithig o dde-ddwyrain Cymru at ei gilydd. Cyhoeddodd ei chanlyniadau yn 'No stone unturned: papers in honour of Roger Jacobi' a olygwyd gan Nick Ashton a Claire Harris, (Lithic Studies Society, [2015]). Mewn ffordd debyg, mae wedi casglu'r darganfyddiadau Palaeolithig a Mesolithig o Sir Benfro ar gyfer 'Prehistoric, Roman and early Medieval Pembrokeshire' (Pembrokeshire County History, vol. I), (Pembrokeshire County History Trust, 2016).  

Mae Walker yn gydawdur â Stephen Aldhouse-Green o Ice age hunters: Neanderthals and early modern hunters in Wales, (Amgueddfa Cymru, 1991). Ar y cyd ag Aldhouse-Green a Rick Peterson, golygodd Neanderthals in Wales: Pontnewydd and the Elwy Valley Caves, (Oxbow Books and Llyfrau Amgueddfa Cymru, 2012). Mae'r gyfrol yn amlinellu canlyniadau ymchwil sydd wedi'i gwblhau dros ugain mlynedd, gan ddisgrifio'r olion o feddiannaeth a adawyd gan Neanderthaliaid cynnar tua 225,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae Walker hefyd wedi ysgrifennu nifer o erthyglau cyfnodolion a phenodau llyfrau, er enghraifft ar loches Ogof Snail ym Mhen y Gogarth, ger Llandudno, Ogof Foxhole ym Mhenrhyn Gŵyr, a Ffynnon Beuno ac ogofâu Cae Gwyn yn Sir Ddinbych.  

Cyfrannodd Walker at raglen deledu Iolo Williams, 'Iolo’s Natural History of Wales', gan egluro'r esgyrn arth, rhinoseros a llewpart a ddarganfyddwyd mewn ogof ym Mhontnewydd.  

Dyfarnodd Cymdeithas Archaeolegol Cambria y wobr GT Clark i Walker yn 2017 am ei gwaith cynhanesyddol. Dyfernir y gwobrau hyn bob pum mlynedd i'r archeolegwyr a'r haneswyr y bernir eu bod wedi cynhyrchu'r gwaith academaidd mwyaf sylweddol ar bynciau Cymreig. Mae'n gadeirydd ar Banel Cenedlaethol Archifau Archaeolegol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hefyd yn gymrawd o Gymdeithas Hynafiaethwyr Llundain ac yn aelod gohebol o'r Gymdeithas Amgueddfeydd.  

Ffynonellau 

Amgueddfa Cymru (d.d.) Proffil Staff Dr Elizabeth Walker Prif Guradur Casgliadau a Mynediad. Cyrchwyd ar 12 Mawrth 2021 o https://amgueddfa.cymru/staff/77/Elizabeth-Walker/?_ga=2.160934654.2124264665.1635152711-1669709978.1624891887. 

Walker, E.A. (2021). Elizabeth A. Walker. Prif Guradur Casgliadau a Mynediad yn Amgueddfa Cymru [tudalen LinkedIn]. LinkedIn. Cyrchwyd ar 12 Mawrth 2021 o https://www.linkedin.com/in/elizabeth-a-walker-39661915/ 

Cymdeithas Archaeolegol Cambria. (2021, Chwefror 19). The Cambrian Archaeological Association is 175 years old! [postiad blog] Cyrchwyd ar 12 Mawrth 2021 o https://cambrians.org.uk/the-cambrian-archaeological-association-is-175-years-old/ 

PALAEOLITHIC and MESOLITHIC AGES, The (Old and Middle Stone Ages; c.250,000-4000 bc). (2008). Yn J. Davies, N. Jenkins, M. Baines, ac eraill, The Welsh academy encyclopedia of Wales. Cyrchwyd ar 15 Mawrth 2021 o https://search.credoreference.com/content/entry/waencywales/palaeolithic_and_mesolithic_ages_the_old_and_middle_stone_ages_c_250_000_4000_bc/0?institutionId=1794 

Contributors (2012). Yn: S. Aldhouse-Green, R. Peterson & E.A. Walker (gol.) Neanderthals in Wales: Pontnewydd and the Elwy Valley caves (tt. vii-xi). Cyrchwyd ar 15 Mawrth 2021 o https://web-b-ebscohost-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/ehost/ebookviewer/ebook/bmxlYmtfXzU1MTk5MF9fQU41?sid=79f59457-9c66-4d3a-a50d-fda8a3bab815@sessionmgr101&vid=0&format=EB&rid=1 

Williams, I. (cyflwynydd). (2010, Hydref 20). Wales in the Ice Age. [rhaglen cyfres deledu]. Yn Iolo’s Natural History of Wales. Cyrchwyd ar 15 Mawrth 2021 o https://www.bbc.co.uk/programmes/p00bpl7j