Mae Eric Morris yn hanesydd milwrol, a wnaeth addysgu yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst cyn dod yn ymgynghorydd a sylwebydd blaenllaw ar faterion geo-strategol rhyngwladol, sy’n amrywio o’r cyfleoedd masnachol a wnaeth godi pan ddaeth y Rhyfel Oer i ben, i’r bygythiad gan derfysgaeth radicalaidd. Roedd ef yn gynigydd cynnar bod angen seiberddiogelwch er mwyn diogelu buddiannau cenedlaethol critigol.
Roedd tad Morris, Clifford Morris, yn ddyn busnes yng Nghaerdydd. Wedi’i enwi ar ôl ei dad, yn ystod ei fachgendod, mynychodd Clifford Eric Morris Ysgol Uwchradd Howardian, Caerdydd, cyn mynd i Goleg Dewi Sant i astudio hanes yn 1959. Yr Athro Hanes yn Llambed bryd hynny oedd Daniel Dawson. Yn drist, roedd gan Dawson anableddau sylweddol, o ganlyniad ei anafau yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae Morris yn cofio ei gasglu o’i gartref ar Heol y Bryn a’i ddychwelyd unwaith eto i’w gartref. Meddai ef ‘Cafodd yr Athro Danny ddylanwad dwys ar fy mywyd proffesiynol, a gwnaeth ef ennyn fy niddordeb mewn Hanes Milwrol... Heblaw am anogaeth gychwynnol Danny, rwy’n amau y byddai’r cyfleoedd (diweddarach) hynny wedi dod fy ffordd.’
Ar ôl graddio, aeth Morris ymlaen i astudio am ddiploma ôl-raddedig mewn addysg ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd, ac yna am radd MA Gwleidyddiaeth Gorllewin Ewrop ym Mhrifysgol Caerlŷr. Swydd academaidd gyntaf Morris oedd darlithydd hanes rhyngwladol yn ysgol ôl-raddedig Gwleidyddiaeth Ewropeaidd Prifysgol Lerpwl. Yn ystod ei gyfnod yno, cafodd ei secondio i Bencadlys Rheolaeth Orllewinol Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig, Caerllion. Roedd ei rôl yno yn ymwneud ag addysgu hanes milwrol a pherthnasau rhyngwladol i fyfyrwyr newydd y Coleg Staff. Ochr yn ochr â hyn, roedd ef hefyd yn ddarlithydd gwadd perthnasau rhyngwladol ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.
Yn 1970, symudodd Morris i Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst, lle gwnaeth ef addysgu amrywiaeth eang o gyrsiau Astudiaethau Strategol a Pherthnasau Rhyngwladol. Fel Dirprwy Bennaeth Astudiaethau Rhyfel, daeth ef yn rhan o dîm o sifiliaid a addysgodd pawb a oedd, yn y dyfodol, am fod yn swyddog yn y Fyddin Brydeinig am draddodiadau eu proffesiwn. Mae Martin Walker wedi dweud roedd y tiwtoriaid yn debyg i rywbeth rhwng melin drafod a llinell gydosod, lle byddai pawb yn ysgrifennu’n helaeth, ond hefyd yn cynnig syniadau dwfn am wir natur rhyfel ei hun. Gwnaeth academyddion Sandhurst gydnabod yn fwyfwy pwysigrwydd cofnodi atgofion cynfilwyr. Gwnaeth Morris gyfweld â chynfilwyr glaniadau Salerno 1943. Mewn cyferbyniad â hyn, gwnaeth ef hefyd gyflwyno a datblygu hapchwarae argyfwng, yn gyntaf ar gyfer y lluoedd milwrol, ac yna, ar gyfer diwydiant yn gyffredinol.
Ymadawodd Morris â Sandhurst yn 1984; ar y cychwyn, ymunodd ef â chwmni diogelu bwtigau fel ymgynghorydd i Weinyddiaeth Materion Tramor Sawdi-Arabia. Yna, ddwy flynedd wedyn, sefydlodd ef ei ymgynghoriaeth geo-wleidyddiaeth a gwrthderfysgaeth ryngwladol ei hun. Ochr yn ochr ag ysgrifennu a darlithio, adeiladodd ef dîm yn cynnwys saith aelod o staff amser llawn a nifer o aelodau staff rhan-amser, gan gynghori, ymhlith eraill, BAE Systems ynglŷn â materion geo-wleidyddol; ysgrifennu a pharatoi ymarferion efelychu ar gyfer gwasanaethau argyfwng y DU ar gynllunio mewn argyfwng pe bai ymosodiadau cemegol neu fiolegol yn digwydd; cyfrannu at sylwebaeth deledu brif ffrwd yr Unol Daleithiau a’r DU ar derfysgaeth, gan gynnwys y BBC yn Llundain ac yng Nghymru, ac arwain ar ysgrifennu a datblygu Janes World Insurgency and Terrorism, un o’r pyrth ar-lein cyntaf ar gyfer busnesau ac academyddion.
Yn 2004, ymunodd ymgynghoriaeth Morris â’r Good Governance Group, G3, a ddaeth yn un o gwmnïau cudd-wybodaeth busnes blaenllaw Llundain. Yn rhinwedd ei swydd fel cadeirydd gweithredol ar gyfer y Dwyrain Canol, gwnaeth Morris gynghori llywodraethau, cwmnïau a buddsoddwyr cyfoethog ar faterion yn ymwneud â geo-wleidyddiaeth a diogelwch, gan ganolbwyntio’n arbennig ar y Dwyrain Canol a De Asia. Daeth ef yn uwch fentor ac ymghynghorydd i Uwch Reolaeth NATO o ran perthnasau sifil / milwrol, datrysiadau gwrthdaro a gweithrediadau cefnogi heddwch, gan helpu paratoi uwch swyddogion ar gyfer gweithrediadau yn Afghanistan ac Irac. Gwnaeth hefyd gynghori Pwyllgor Dethol Amddiffyn Tŷ’r Cyffredin ac arwain reidiau meysydd brwydr yr uwch reolaeth, yn bennaf ar ryfelgyrch Eidalaidd yr Ail Ryfel Byd. Gweithgareddau hyfforddi milwrol ffurfiol sy’n canolbwyntio ar ddadansoddi rhyw ryfelgyrch neu frwydr gynt yw’r reidiau staff hyn. Gwnaeth Morris ddarlithio yn rheolaidd ar amrywiaeth o faterion cwnstablaidd a oedd yn ymwneud â geo-wleidyddiaeth, diogelwch neu faterion morwrol, ac annerch asiantaethau cudd-wybodaeth cynghreiriol y DU, academïau amddiffyn, colegau’r heddlu ac arweinwyr gwledydd datblygol, gan gynnwys rhai yn y Gwlff, De-ddwyrain Asia, Pakistan, a De Affrica wedi’r apartheid.
Gwnaeth Morris ymddeol o G3 yn 2015, gan ailsefydlu ei gwmni ei hun. Ers hynny, mae ef wedi bod yn uwch-ymgynghorydd i lywodraeth Oman ar faterion polisi tramor.
Mae Morris yn, ac yn dal i fod, yn awdur cynhyrchiol. Ei lyfr cyntaf oedd Blockade: Berlin and the Cold War, (Hamish Hamilton, 1973), a wnaeth ddisgrifio rôl Berlin o ran achosion rhyngwladol o 1945 tan 1972. Meddai’r adolygydd ar gyfer The Times, ‘Mr Morris’s world-strategic view of the city is a refreshing one.’ Yn The Russian Navy: myth and reality (Hamish Hamilton, 1977), gwnaeth Morris adolygu treftadaeth a chynnydd y llynges Sofietaidd a’i defnydd o’r polisi tramor. Meddai Kime, ‘The student of foreign affairs who is not a specialist in military matters will be considerably informed by Eric Morris. His book contains much that the scholar needs to know in order to gain some appreciation of the complex factors affecting the development of contemporary Soviet naval power.’
Ar gyfer ei lyfr Corregidor: the nightmare in the Philippines (Hutchinson, 1981), gwnaeth Morris gyfweld â deugain o oroeswyr Ffilipino ac Americanaidd y rhyfelgyrch Philipinaidd 1941-42. Mae ef yn disgrifio’n glir ymdrechion y personél milwrol a meddygol a wnaeth ymladd a marw er mwyn rhoi amser i America i ymateb i’r ymosodiad gan y Japaneaid yn y Pasiffig. Mae’r disgrifiad canlyniadol yn bersonol ac yn hawdd iawn ei ddarllen. Yn ei lyfr Circles of hell (Hutchinson, 1993) a gafodd ei gymeradwyo gan y beirniaid, ysgrifennodd Morris ddisgrifiad heriol o’r rhyfel yn yr Eidal 1943-1945, wedi’i lunio o gwmpas ditment llym o gadfridogion y Cynghreiriaid. Meddai Watkins, ‘Eric Morris reveals the war in Italy in all its glory and squalor, from high-level political machinations to the terrors and privations of the individual soldier, in a style of writing that immediately engages the reader’s attention and holds it throughout.’ Mae Morris hefyd wedi cyfrannu at lawer o lyfrau a chyfnodolion eraill. Mae ef ar hyn o bryd yn ymchwilio i, ac yn ysgrifennu llyfr am dad Pamela, ei wraig, a’i wasanaeth fel cyfeiriwr i’r Rheolaeth Awyrennau Bomio. Cafodd ei saethu i lawr a’i ladd mewn cyrch awyr uwchben yr Almaen.
Mae Morris yn briod â Pamela, sydd yn gyn-athrawes. Mae ganddynt ddau o blant, Christopher, sy’n feddyg, a Leah, a wnaeth ei ddilyn i weithio yn y busnes diogelwch / cudd-wybodaeth, a phump o wyrion / wyresau, un ohonynt hefyd yn awdur. Heblaw am ei astudiaethau milwrol, roedd ef yn ynad am dros ddeng mlynedd ar fainc Bro Morgannwg.
Ffynonellau
Professor Danny Dawson – a further tribute. (2016). The Link extra. Adalwyd ar Orffennaf 23 2021 oddi wrth https://www.uwtsd.ac.uk/media/uwtsd-website/content-assets/documents/alumni/lampeter-society/The-Link-Extra-2016.pdf
Walker, M. (1981, December 19). Giving the unblooded a view of the past. The Guardian. Adalwyd ar Awst 9 2021 oddi wrth https://www.proquest.com/historical-newspapers/giving-unblooded-view-past/docview/186313280/se-2?accountid=12799
Generous donors whose funds kept Werritty in business – G3 big player in strategic analysis run by Reagan’s troubleshooter. (2011, October 14). The Times. Adalwyd ar Awst 9 2021 oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/news/document-view?p=UKNB&docref=news/13A6188216CBDC78.
Quick guide. (1973, March 15). Times. Adalwyd ar Awst 10 2021 oddi wrth https://link.gale.com/apps/doc/CS169703535/TTDA?u=nlw_ttda&sid=bookmark-TTDA&xid=6032bc54
Kine, S.F. (1978). [Review of the book The Russian navy: myth and reality, by E. Morris]. Slavic Review, 37(3), 506-507 Adalwyd ar Awst 10 2021 oddi wrth https://www.jstor.org/stable/2497702
Watkins, D.L. (1994). [Review of Circles of hell, by E. Morris]. Military Review, 74(6), 86-87. Adalwyd ar Awst 10 2021 oddi wrth https://books.google.co.uk/books?id=qI0ujKXGxZIC&pg=PA86&lpg=PA86&dq=%22eric+morris%22+%22circles+of+hell%22&source=bl&ots=rVR-znk1ej&sig=ACfU3U1xUhRhautL-6Y0yWVtFjFAJYu9ew&hl=en&sa=X&ved=2ahUKEwiJgIXXqabyAhU8VRUIHde4DB84HhDoAXoECBYQAw#v=onepage&q=%22eric%20morris%22%20%22circles%20of%20hell%22&f=false