Mae Fergus Drennan, a elwir hefyd yn ‘Fergus y Chwilotwr’ yn disgrifio ei hun yn arbrofwr ac yn addysgwr bwyd gwyllt.

Ganwyd Drennan yn Wimbledon, a symudodd i Gaint pan oedd yn saith mlwydd oed. Dysgodd yn gyntaf sut i chwilota fel plentyn bach, drwy gasglu dant y llew i roi i’w grwban anwes. Ar ôl iddo ymadael â’r ysgol, astudiodd arlwyo yn y coleg yn Thanet; dysgodd sgiliau technegol y mae ef, erbyn hyn, yn dibynnu arnynt. Yna, mynychodd y brifysgol yn Llambed, lle y gwnaeth ef astudio Astudiaethau Crefyddol. Yn ystod ei flwyddyn olaf, gwnaeth gynilo arian drwy fyw mewn pabell a bwyta llysiau gleision a ffyngau lleol, yn ogystal â bwyd a oedd ar ôl gan ffreutur Undeb y Myfyrwyr a bwyd a wrthodwyd gan ddosbarthydd bwydydd organig. Yn cyfeirio at y cyfnod hwnnw, mae’n dweud ‘Wrth edrych yn ôl ar fy holl fywyd, dyna’r adeg pan oeddwn hapusaf.’  

Ar ôl graddio, treuliodd ychydig o amser yn addysgu yn Tsieina. Gwnaeth ei swydd nesaf fynd ag ef yn ôl i Gaint, yn gwerthu llysiau mewn marchnad ffermwyr a oedd wedi’i lleoli yn Siediau Nwyddau Caergaint. Fel eilbeth, gwnaeth werthu ffyngau yr oedd ef ei hun wedi’u casglu, a syrypau a chordialau a wnaed o blanhigion gwyllt. Am ychydig, bu’n gweithio gyda chwilotwr arall, Miles Irving, yn cyflenwi rhai o’r bwytai gorau, gan gynnwys The Ivy a Fifteen, bwyty Jamie Oliver, â chynhyrchion. Ond teimlodd fod cael ei orfodi i ddilyn trefn benodol yn achosi iddo ddigalonni. Hefyd, gwnaeth sylweddoli y gallai chwilota masnachol arwain at or-gasglu, ac felly, nid oedd hyn yn beth cynaliadwy.  

Creda Drennan fod casglu bwyd gwyllt yn draddodiad diamser, ac yn ffordd sylfaenol y gall pob un ohonom ei defnyddio i reoli ein diet. Mae chwilota yn ymwneud â deall y dirwedd a’r ardal. Teimla fod llawer o’i weithgaredd yn ymwneud â chysylltu, gan ddweud ‘Os gwnewch chi bwyntio at unrhyw un o’r rhain [cynhwysion a gasglwyd] sydd yma, cewch stori. Felly, pan rwy’n bwyta’r bwyd, rwy’n ail-fyw’r stori honno – o le daeth y bwyd a beth ddigwyddodd pan oeddwn yn ei gasglu.’ Dywed hefyd, ‘rwy mor hoff o arafwch y broses. I raddau, mae’n wrthryfel yn erbyn y diwylliant cyflymder.’ Mae Drennan yn treulio ei ddiwrnod cyfan yn chwilio am ac yn paratoi bwyd; y mae bron popeth y mae ef yn ei wneud yn arbrofol ac yn cymryd llawer iawn o amser. Y mae ganddo hefyd gymhelliant cryf i beidio â gwastraffu unrhyw beth. Mae’n sychu mes am sawl wythnos cyn eu rhostio i greu coffi neu eu malu i gynhyrchu blawd.  Mae’n cynhyrchu ceuled dail, protein a ddaw o ddanadl poethion, llysiau’r gymalwst neu graf gwyllt. Caiff y dail eu rhoi mewn hylifydd, eu berwi ac yna, eu hidlo. Mae Drennan wedi dysgu sut i ddefnyddio madarch i greu papur, a dweud y gwir, mae wedi cynhyrchu llyfr cyfan, yn cynnwys 150 o dudalennau, gan ddefnyddio ffyngau yn unig. Am nad yw’n hoff o fagu anifeiliaid i’w lladd, mae Drennan, i ran helaeth, yn llysfwytäwr. Er hynny, mae’n defnyddio anifeiliaid sydd wedi’u lladd ar yr heol, yr hyn a elwir ganddo yn gig damweiniol: mae hwn yn cynnwys ffesantod, cornchwiglod, moch daear, llwynogod cwningod a gwiwerod. Mae cig moch daear yn addas ar gyfer byrgyrs, ac mae cig llwynogod orau pan gaiff ei bot-rostio mewn gwin coch, gyda madarch gwylltion. Medd Drennan mai ei gamgymeriad mwyaf oedd bwyta grifft broga.  

Mae ganddo uchelgais hirsefydlog i fyw am flwyddyn ar fwyd a gasglwyd yn unig. Ei amcan trosfwaol yw ymchwilio i’r rôl y dylai chwilota ei chwarae mewn Prydain fodern. Mae’n gobeithio archwilio’r buddion a’r peryglon. Mae’n argyhoeddedig bod y fath brosiect yn bosibl, ac mae wedi mynd nifer o weithiau heb brynu bwyd am fisoedd ar y tro.  Ar wahanol adegau, mae wedi byw drwy bob mis, ac eithrio mis Chwefror, ar fwyd gwyllt yn unig. Fel arfer, mae hyn yn golygu dwy awr y dydd yn chwilota, pedair awr yn prosesu’r bwyd a’i goginio, ac wedyn, llawer o oriau yn ymchwilio.   

Mae Drennan yn disgrifio ei weithgareddau addysg bwyd gwyllt fel gwaith ond nid swydd. Wedi’r cyfan, mae swydd yn gwneud arian! Yn 2007, gwnaeth ymddangos yn y gyfres BBC3 Roadkill Chef. Ei brif ffynonellau arian yw rhedeg cyrsiau dydd, er enghraifft, ar chwilota am ffyngau, ochr yn ochr ag ysgrifennu erthyglau ar gyfer cylchgronau. Mae wedi ysgrifennu i amrywiaeth o bapurau newydd a chylchgronau gan gynnwys BBC Countryfile Magazine, The Ecologist, Country Kitchen Survival Skills Magazine. 

Ffynonellau 

Davidson, M. (2015, Oct 31). Make your home where food is free - Max Davidson meets the property owners who really are living off the fat of the land. Daily Telegraph, p. 4,5. Adalwyd oddi wrth https://infoweb.newsbank.com/resources/doc/nb/news/158D2B4EE8EDB110?p=UKNB 

Montgomery, H. (2013, April 28). Look what I’ve found – feature towards a better future. ‘Wild man’ Fergus Drennan tells Hugh Montgomery how he learnt to forage – and why we should too. Independent, p. 16, 17, 19, 21. Adalwyd oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/145F387F85B68258?p=UKNB 

Scott, C. (2008, April 27). A life in the day – interviewSunday Times magazinep. 66. Adalwyd oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/12076A9650BF4310?p=UKNB 

Drennan, F. (n.d.) Fergus the Forager & friends. Adalwyd ar Fedi 17 2020 oddi wrth https://fergustheforager.co.uk/ 

Saner, E. (2019, October 29). ‘I make tagliatelle with them’: will acorns become the next ‘superfood’? – They can be roasted for coffee and ground down to make flour – and you can pick them up free at your local park. Guardian. Adalwyd oddi wrth https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/176E0EE3C236F0B8?p=UKNB 

Maklouf, L. (host), & Drennan, F. (interviewee). (2019, October 3). Fergus the Forager[Audio podcast]. Laetitia Makloufgardening in five minutes a dayAdalwyd ar Fedi 17 2020 oddi wrth https://laetitiamaklouf.com/podcast/tag/fergus+drennan 

Why Fergus is wild about food foraging. (2007, November 15). Kentish Gazette Canterbury & DistrictAdalwyd ar Fedi 18 2020 oddi wrth https://www.pressreader.com/uk/kentish-gazette-canterbury-district/20071115/282497179312908