Roedd y Canon Geraint James Vaughan-Jones (1929-2002) yn gyfrifol am adfer y traddodiad canu carolau Cymru, sef plygain, rhag mynd yn angof. 

Ganwyd Vaughan-Jones yn Llanerfyl, Sir Drefaldwyn. Roedd ei dad, Robert William Jones, yn bennaeth yr ysgol waddoledig yno, a'i fam oedd Gwendolen. Roedd Robert Jones, a oedd yn cael ei adnabod yn ôl yr enw barddol Erfyl Fychan, yn aelod gweithredol o'r Orsedd, a daeth yn Arwyddfardd a Chofiadur yn y pen draw. Roedd yn gartref cerddorol; Roedd gan Robert ddiddordeb mawr mewn deheurwydd canu penillion, lle y gosodir pennill i alaw, ynghyd â thelyn yn chwarae ail wrth-alaw. Roedd Geraint yn gerddor medrus hefyd, yn canu'r biano a'r delyn. Cafodd ei addysgu i ganu'r delyn driphlyg gan y perfformiwr adnabyddus, Nansi Richards.  

Addysgwyd Geraint yn Ysgol Gynradd Llanerfyl, Ysgol Uwchradd y Trallwng i Fechgyn ac wedyn Coleg Dewi Sant. Fodd bynnag, rhoddodd y gorau iddi yn ystod ei flwyddyn olaf yn Llanbedr Pont Steffan heb gymryd gradd. Ar ôl treulio dwy flynedd yn gwneud ei Wasanaeth Cenedlaethol, roedd yn byw am ddeuddeng mlynedd ar gyfandir Ewrop, gan weithio fel cyfieithydd a darlithydd yn yr Almaen, yr Eidal a Sbaen. (Roedd yn ieithydd talentog – roedd ei ffrindiau'n credu ei fod yn siarad naw iaith ac roedd yn rhugl mewn Almaeneg, Eidaleg, Ffrangeg a Sbaeneg.) 

Dychwelodd Vaughan-Jones gartref yn 1968 oherwydd marwolaeth ei fam. Roedd yn cofio ei uchelgais gynharach i ddod yn glerigwr a hyfforddodd ar gyfer yr offeiriadaeth yn Llyfrgell St Deiniol, Hawarden. Daeth yn rhan o'r Eglwys yng Nghymru yn 1970 a threuliodd y 25 mlynedd canlynol yn gweithio yn Esgobaeth Bangor ac ym mhentrefi canolbarth Cymru. Roedd ei swydd gyntaf, rhwng 1970 a 1973, fel curad yn Llanaber gyda Chaerdeon, ger Abermaw. Yna, daeth yn ficer yng ngweinidogaeth tîm Dolgellau gyda Llanfachraeth a Brithdir. 

Roedd swydd nesaf Vaughan-Jones fel rheithor Mallwyd gyda Chemaes a Llanymawddwy, (yn Nyffryn Dyfi tua hanner ffordd rhwng Dolgellau a Machynlleth). Roedd un o'i ragflaenwyr ym Mallwyd, John Davies (tua 1567 - 1644) wedi bod yn gyfrifol yn bennaf am argraffiad 1630 o Feibl Cymraeg William Morgan; dyma oedd y fersiwn hygyrch cyntaf a oedd ar gael i'r mwyafrif o Gymry. Yng nghysgod y traddodiad hwn, gweithiodd Vaughan-Jones i gasglu a chadw traddodiad llafar plygain. Fel casglwr hen lyfrau a llawysgrifau, roedd mewn sefyllfa dda i ddod o hyd i drysorau anghofiedig. 

St Tydecho’s church, Mallwyd

Eglwys St Tydecho, Mallwyd, lle roedd Vaughan-Jones yn ficer. 

Dywedir i'r plygain ddisodli Offeren ganol nos Nadolig yr Oesoedd Canol. Dechreuodd y gwasanaeth yn gynnar ar fore Nadolig, ar unrhyw amser rhwng 3am a 6am. Dilynodd ffurf gryno o wasanaeth y bore, gydag unawdwyr a grwpiau yn canu carolau ar eu pennau eu hunain, yn aml mewn harmonïau cymhleth tair a phedair rhan.  Trosglwyddwyd geiriau'r carolau trwy'r cenedlaethau; yn aml, fe'u henwyd ar ôl y teulu neu'r fferm lle y dechreuodd y gân benodol honno (er enghraifft Carol Wil Cae Coch). Ychydig iawn ohonynt sy'n adnabyddus y tu allan i gylchoedd plygain. 

Cyhoeddodd Vaughan-Jones ei gasgliad cyntaf o garolau, Cyff Mawddwy, yn 1982; roedd hyn yn cynnwys dwsin o garolau a oedd yn sylfaenol i draddodiad plygain Mallwyd. Yn 1987, cyhoeddwyd Hen Garolau Plygain, gyda 24 o garolau a cherddoriaeth. Cyhoeddwyd trydedd gyfrol, o 26 carol arall, yn 1990. Nod Vaughan-Jones oedd helpu Cristnogion Cymru i ailddarganfod eu treftadaeth. Iddo ef, dylid defnyddio'r plygain fel gwasanaeth eglwys, nid fel adloniant neu gyngerdd yn unig. Yn 2000, cyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru 'Cadw’r Ffydd', canllaw i gynnal gwasanaethau plygain yn eu ffurf litwrgaidd gwirioneddol. Gan mwyaf, mae'r plygain bellach yn wasanaethau gyda'r nos a gynhelir yn ystod neu ychydig cyn yr enwog 'Twelve Days of Christmas.' 

Roedd Vaughan-Jones hefyd yn ddeon gwledig Cyfelliog gyda Mawddwy rhwng 1985 a 1996. Daeth yn ganon Eglwys Gadeiriol Bangor yn 1986 a phrif gantor yn 1989.  Roedd yn gyfieithydd swyddogol ar gyfer cyrff llywodraethu'r eglwys, ynghyd â golygydd llenyddiaeth ar gyfer cyfnodolyn yr eglwys, Yr Haul. Roedd yn draddodiadydd o ben Uchel Eglwys y sbectrwm, yn gwrthwynebu ordeinio menywod ac i foderneiddio'r litwrgi diangen. Er iddo fod yn ddyn cymdeithasgar, ni briododd erioed. 

Ymddeolodd Vaughan-Jones yn 1996. Bu farw ar 23 Rhagfyr 2002, a chynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Padarn Sant,  Llanbadarn Fawr, Aberystwyth.  

Ffynonellau 

The Daily Telegraph (5 Chwefror 2003). Canon Geraint Vaughan-Jones: Clergyman who re-established the Welsh rural tradition of plygain, the singing of carols in the vernacular. Daily Telegraph t. 01. Cyrchwyd o https://infoweb.newsbank.com/resources/doc/nb/news/0F904E28AED6EA55?p=UKNB 

Vaughan-Jones, G., (2001). Jones, Robert William (‘Erfyl Fychan’; 1899 - 1968), hanesydd, llenor, athro ac eisteddfodwr. Bywgraffiadwr Cymreig. Cyrchwyd ar 24 Mehefin 2020, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c4-JONE-WIL-1899 

Amgueddfa Cymru. (2014). Arferion y Nadolig: Canu Plygain. Cyrchwyd ar 24 Mehefin 2020 o https://amgueddfa.cymru/erthyglau/1185/Christmas-customs-Plygain-Singing 

Y Olfa. (2020). Geraint Vaughan-Jones. Cyrchwyd ar 24 Mehefin 2020 o x`x