Toby Driver

Mae Toby Driver yn archeolegydd ac yn gyn-hanesydd.

Astudiodd Driver archeoleg ym Mhrifysgol Southampton, cyn ymuno â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn 1995. Teitl ei swydd yw Uwch-Archwilydd (Arolwg o'r Awyr); mae wedi rheoli'r rhaglen rhagchwiliad Cymru gyfan am dros 20 mlynedd.  

Ffotograffiaeth o'r awyr yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gofnodi safleoedd a thirweddau; yn ddi-os, weithiau, dyma'r unig ffordd o ddarganfod henebion. Mae'n cynnwys arsylwi a thynnu lluniau o'r dirwedd o'r arwyr, ac yna dehongli a mapio safleoedd o'r delweddau a gynhyrchir. Mae defnyddio awyrennau ysgafn yn golygu y gellir arolygu cannoedd o filltiroedd o fewn ychydig oriau. Mae gweithio o leoliad mor uchel yn helpu i egluro trefn safleoedd cymhleth ac mae'n dangos nodweddion a allai fod yn anweladwy o'r ddaear.  

Yn benodol, darparodd haf hir a phoeth 2018 amodau perffaith ar gyfer archeoleg o'r awyr. Datgelwyd llawer o safleoedd anghofiedig eto fel ‘nodau cnwd’ neu batrymau twf mewn cnydau aeddfedu a glaswelltiroedd wedi'u sychu. Mewn saith wythnos o hedfan ledled Cymru, tynnodd Driver tua 5,700 o luniau. O'r cyfnod Rhufeinig yn unig, mae ei ganfyddiadau'n cynnwys gwersylloedd ymdeithio newydd yn Five Lanes yn Sir Fynwy a Three Cocks ym Mharc Gwernyfed, Powys, ynghyd â chaerau yn Carrow Hill, Sir Fynwy. Three Cocks a Fferm Graig-Olway, yn agos i Frynbuga. 

Teitl doethuriaeth Driver, a ddyfarnwyd gan Brifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan yn 2005, oedd The hillforts of North Ceredigion: architecture, landscape approaches and cultural contexts. Nid oedd y grŵp hwn o dros gant o fryngaerau'n hysbys iawn ac nid ydynt wedi’u cloddio o gwbl fwy neu lai Wrth ddadansoddi'r safleoedd unigol, arddangosodd Driver eu bod yn ‘fannau soffistigedig tri dimensiwn.’ Wedyn, adeiladodd ar y gwaith hwn gan gyhoeddi Architecture, regional identity and power in the Iron Age landscapes of Wales, (Cyfres Prydain BAR, 2013). Ar lefel fwy poblogaidd, cyhoeddoddThe hillforts of Cardigan bay hefyd, (Logaston Press, 2016). Fel y mae'n egluro yng nghydnabyddiaethau'r llyfr, llywiwyd llawer o'r cynnwys gan gwestiynau a ofynnwyd iddo yn ystod darlithoedd neu deithiau cerdded tywysedig.  Mae'n disgrifio'r bobl a adeiladodd y bryngaerau, ac wedyn yn byw ynddynt, gan ysgrifennu am eu patrymau o fywyd bob dydd a thrafod yr arteffactau a ddarganfyddwyd. 

Cafodd Pembrokeshire – Historic landscapes from the air (Comisiwm Brenhinol, 2007) gan Driver ei anelu at gynulleidfa anarbenigol hefyd. Cyflwynodd ffotograffiaeth o’r awyr, ac wedyn archwilio chwe isranbarth y sir. Disgrifiodd Austin y llyfr fel ‘cyfraniad sylweddol i astudiaeth academaidd o  dirweddau Sir Benfro a mynediad y cyhoedd i archeoleg a hanes y rhan ysblennydd hon o'r byd.’ Mae'r gyfrol hon hefyd wedi'i darlunio'n ardderchog. 

Mae Driver wedi cyd-gyfarwyddo cloddiadau ar Ynys Skomer oddi ar arfordir Sir Benfro, ac yn fila Rufeinig Abermagwr. Ar Skomer, darganfyddodd ef a'i dîm leoliadau gerrig defodol o Oes Newydd y Cerrig a'r Oes Efydd nad oeddent yn hysbys o'r blaen. Fe wnaethant ddangos hefyd y gallai'r systemau caeau ddyddio'n yn ôl i o leiaf cyfnod hwyrach yr Oes Efydd. Y safle yn Abermagwr, tua wyth milltir i dde-ddwyrain Aberystwyth, yw'r unig fila a gofnodir yng Ngheredigion, ynghyd â'r fila fwyaf anghysbell wedi'i darganfod hyd yn hyn yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu tua OC 230, ond cafodd ei gadael tua OC 330 yn dilyn tân mawr. Roedd yr adeilad yn gymharol wladaidd, gyda lleoedd tân agored a lloriau clai. Fodd bynnag, roedd ei gynnwys yn cynnwys darnau o lestr gwydr nadd o ansawdd uchel, a gynhyrchwyd yn Y Rheindir.  

Ym mis Mai 2021, cymerodd Driver ran yn y rhaglen BBC, Great British Railway Journeys, gan arwain Michael Portillo o gwmpas bryngaer Pen Dinas, ar gyrion Aberystwyth. Eglurodd yr hanes a phwysigrwydd cloddiadau o'r safle yn y 1930au, ac wedyn siaradodd am y ffyrdd y mae technoleg newydd, gan gynnwys dronau, yn helpu archeolegwyr i archwilio'r ardal heddiw. Mae Driver hefyd wedi cyfrannu at raglen Weatherman Walking Derek Brockway.Y tu hwnt i hynafiaeth, gwelwyd ef yn ymweld â Phier Llandudno ym mis Mai 2021; dyluniodd ei hen dad-cu ei waith metel addurnol.   

Ar hyn o bryd, mae Driver yn rhan o'r prosiect CHERISH chwe blynedd rhwng Cymru ac Iwerddon a ariennir gan yr UE, sy'n archwilio'r newid yn yr hinsawdd a threftadaeth arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon. Nod y rhaglen yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, stormusrwydd uwch, a digwyddiadau tywydd eithriadol ar dreftadaeth ddiwylliannol riffiau, ynysoedd a phenrhynion moroedd rhanbarthol Cymru ac Iwerddon. Yn benodol, mae'n canolbwyntio ar y penrhynion a'r ynysoedd o amgylch Sir Benfro, Bae Ceredigion a Phenrhyn Llŷn, ynghyd â safleoedd ar hyd arfordiroedd de a dwyrain Iwerddon.  

Mae Driver yn ymddiriedolwr Cymdeithas Hynafiaethau Cymru ac yn gymrawd Cymdeithas Hynafiaethwyr Llundain. Mae hefyd wedi addysgu yn adran archeoleg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae'n briod â Becky; Mae ganddynt ddau fab, Aric a Charlie.  

Ffynonellau

CHERISH. (2021). Toby Driver. Cyrchwyd ar 21 Mehefin 2021 ohttp://cherishproject.eu/en/?s=toby+driver

Driver, T. (2021). Dr Toby Driver FSA [Tudalen LinkedIn]. LinkedIn. Cyrchwyd ar 21 Mehefin 2021 o https://www.linkedin.com/in/dr-toby-driver-fsa-9394203b/ 

Driver, T. (2013). Architecture, regional identity and power in the Iron Age landscapes of Mid Wales. The hillforts of North Ceredigion. Rhydychen: Archaeopress 

Driver, T. (2016). The Hillforts of Cardigan Bay: discovering the Iron Age communities of Ceredigion. Woonton Almeley: Gwasg Logaston 

Driver, T., Burnham, B., a Davies, J.L. (2020). Roman Wales: aerial discoveries and new observations from the drought of 2018. Britannia, 51, 117-145. https://doi.org/10.1017/S0068113X20000100 

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. (2018). Abermagwr: Y fila Rufeinig anghysbell yng Nghymru lle darganfuwyd bowlen unigryw o wydr nadd a thystiolaeth gynnar o grefft y töwr yng Nghymru. Cyrchwyd ar 22 Mehefin 2021 o https://cbhc.gov.uk/abermagwr-y-fila-rufeinig-anghysbell-yng-nghymru-lle-darganfuwyd-bowlen-unigryw-o-wydr-nadd-a-thystiolaeth-gynnar-o-grefft-y-towr/ 

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. (2021). Dyddiau aur bryngaer Pen Dinas, Aberystwyth:  ‘Great British Railway Journeys’ ar BBC Two Cyrchwyd ar 22 Mehefin 2021 o https://cbhc.gov.uk/dyddiau-aur-bryngaer-pen-dinas-aberystwyth-great-british-railway-journeys-ar-bbc-two/? 

Austin, D. (2010). Pembrokeshire: Historic landscapes from the air. Gan Toby Driver. 245mm. Tt 286, 379 lluniau Aberystwyth: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, 2007. ISBN 9781871184297 £29.95 (clawr caled); 9781871184334 £19.95 (clawr meddal). The Antiquaries Journal,90, 479-480. dyddiad cyhoeddi:10.1017/S0003581510000260 

Lloyd Jones, E. (12 Mai 2021). Weatherman walking – Llandudno [Postiad blog]. Cyrchwyd ar 22 Mehefin 2021 o http://idigarchaeology.co.uk/weatherman-walking-llandudno/