Gallwch ddadlau mai Thomas Frederick Tout (1855-1929) oedd hanesydd Canoloesol mwyaf cynhyrchiol Lloegr ei gyfnod.
Tout oedd unig blentyn Thomas Edward Tout, gwerthwr gwin, a'i wraig, Anne Charlotte, Finch gynt. Ganwyd Thomas Frederick yn Norwood, Surrey a bu’n ddisgybl yn ysgol ramadeg St Olave's yn Southwark. Daeth yn brif fachgen yn yr ysgol, yna, ym 1874, enillodd ysgoloriaeth hanes Brackenbury yng Ngholeg Balliol, Rhydychen. Enillodd radd dosbarth cyntaf mewn hanes, ac ail ddosbarth mewn literae humaniores ( hanes, llenyddiaeth ac athroniaeth yr hen fyd).
Ar ôl graddio, bu Tout yn gweithio fel tiwtor preifat yn Rhydychen am ddwy flynedd. Yna, ym 1881, cafodd ei benodi’n athro Saesneg ac Ieithoedd Modern ac yn ddarlithydd mewn Rhesymeg ac Economeg Wleidyddol yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Daeth yn athro hanes ym 1885. Roedd blynyddoedd Tout yn Llanbedr Pont Steffan yn hollbwysig iddo. Dyma lle bu’n treialu’r rhan fwyaf o'i syniadau a oedd yn gysylltiedig ag ef yn ddiweddarach ym Manceinion. Mae'n ymddangos iddo ddysgu am hyd at 28 awr yr wythnos i hyd at 80 o bobl o dro i dro. Roedd gallu'r myfyrwyr yn amrywio'n fawr, o siaradwyr Cymraeg a oedd yn ystyried y Saesneg fel ail iaith i ysgolheigion eithriadol. Roedd Tout yn dysgu'r maes llafur hanes i gyd cyn iddynt benodi ail ddarlithydd hanes ym 1884. Dysgodd i feistroli cyfnodau enfawr o hanes ac i ddarlithio heb unrhyw nodiadau.
Ym 1883, diwygiodd Tout y cwricwlwm gan gynhyrchu cyfuniad cyflenwol o fodiwlau amlinellol helaeth a chyrsiau pynciau arbennig dwys â thema. Roedd y cyrsiau arbenigol yn defnyddio ffynonellau gwreiddiol. Nododd Gibson bod cwrs pwnc arbennig Tout yn ffordd o gynhyrchu arbenigaethau ynghyd â dealltwriaeth ddofn a gafwyd o fewnwelediad i'r prif ffynonellau perthnasol. Cychwynnodd Tout system asesu fwy ymestynnol gan ddefnyddio cwestiynau a oedd yn gofyn am ddehongliad yn hytrach nag adrodd gwybodaeth. Yn ddiweddarach, dadleuodd mai "hyfforddiant israddedig, sef yr hyfforddiant gorau ar gyfer addysgu'r hanesydd, sydd orau hefyd ar gyfer y gwleidydd, y newyddiadurwr neu aelod diwylliedig cyffredin Cymdeithas."
Roedd Tout yn awdur toreithiog, a dechreuodd gyhoeddi llyfrau pan oedd yn Llanbedr Pont Steffan. Roedd ei erthyglau cyntaf yn adolygiadau llyfrau ar gyfer y St David's College Magazine, ac yna adolygiadau ar gyfer yr English Historical Review. Datblygodd ddiddordeb mawr yng Nghymru a chyhoeddwyd ei erthygl hir gyntaf ar siroedd Cymru yn Y Cymmrodor. Ar y llaw arall, cyfrannodd erthygl ar Gymru i'r Dictionary of English History hefyd.Fodd bynnag, cyfraniad mwyaf i waith ysgrifennu ysgolheigaidd Tout yn ystod y cyfnod hwn oedd ei waith i'r Dictionary of National Biography. Erbyn 1900, roedd wedi ysgrifennu 240 o gofnodion, sy'n cyfateb i un gyfrol o'r gwaith cyfan. Roedd ei gofnodion yn cynnwys gwaith ar dri brenin Lloegr, sef Edward II, Harri IV a Harri VI. Fodd bynnag, roedd ei erthyglau'n dueddol o ganolbwyntio ar wŷr mawrion ac uwch-eglwyswyr, gyda thueddiad at Gymru a'r Gororau. Mewn cyferbyniad, ysgrifennodd Tout nifer o werslyfrau llwyddiannus hefyd, gan gynnwys y llyfr i ysgolion, History of England (ar y cyd â F. York Powell).
Tout oedd llyfrgellydd y coleg yn Llanbedr Pont Steffan o 1883 i 1890. Roedd ei gyllideb ar gyfer y llyfrau ond yn £28 y flwyddyn ond roedd yn graff wrth ofyn am lyfrau o ffynonellau eraill, er enghraifft y 300 cyfrol o'r gyfres Rolls a roddwyd gan y llywodraeth. Hefyd, creodd gatalog newydd i'r llyfrgell ar y cyd â'r arholwr allanol, C H Firth. Fodd bynnag, ei gyfraniad mwyaf oedd achub ac adfer y Casgliad Traethodynnau, casgliad a esgeuluswyd er ei arwyddocâd enfawr. Aildrefnodd Tout a Firth ychydig o'r cynnwys, gan waredu’r rhai a oedd yn mewn cyflwr rhy wael i'w hachub ac aethant ati i ailrwymo nifer fawr o gyfrolau.
Ym 1890, gadawodd Tout Llanbedr Pont Steffan er mwyn symud i Goleg Owens, a ddaeth yn Brifysgol Manceinion. Roedd y gwerthfawrogiad o’i waith yn enfawr. Wrth ddychwelyd i'r dref ar gyfer cinio tysteb ym mis Tachwedd 1890, dywedir bod nifer fawr o fyfyrwyr wedi'i groesawu wrth yr orsaf ac iddynt gymryd y ceffylau o'r cerbyd a oedd wedi dod i'w gyfarfod er mwyn iddynt dynnu'r cerbyd i'r coleg eu hunain. Ym Manceinion, gweithiodd yn galed i ddatblygu ysgol hanes fach ond addawol. Llwyddodd i weithredu'r syniadau am addysgeg addysgu hanes a ddatblygodd yn Llanbedr Pont Steffan. Unwaith eto, byddai'r myfyrwyr yn astudio pwnc arbennig a thrwy hynny, byddent yn dysgu sut y mae hanes yn cael ei greu. Ym 1902, llwyddodd i ddwyn perswâd ar Gyngor y Brifysgol i sefydlu gwasg cyhoeddi er mwyn lledaenu gwaith yr ôl-raddedigion. Felly, ef oedd sylfaenydd Gwasg Prifysgol Manceinion a Chadeirydd y Pwyllgor o 1902 tan ei ymddeoliad.
Daeth gwaith ysgrifennu hanesyddol mwyaf arwyddocaol Tout yn hwyr yn ei yrfa. Ym 1908, ysgrifennodd adolygiad o Études de la diplomatique anglaise, 1272-1485 gan Eugène Déprez ar gyfer yr English Historical Review. Roedd hynny wedi sbarduno diddordeb mewn hanes gweinyddol, sydd i'w weld yn The Place of the Reign of Edward II in English History (1914) a Chapters in the Administrative History of Medieval England (chwe chyfrol, 1920-31). Ceisiodd ddisgrifio'r ffordd yr oedd system weinyddol y llywodraeth yn cael ei chynnal, er enghraifft y Dillad a'r Siambr, yn hytrach na chanolbwyntio ar y brenin a'r senedd. Roedd ei waith o gofnodi a mynegeio ffynonellau a oedd wedi’u hesgeuluso hefyd yn gyfrifol am wella cynhyrchiant haneswyr eraill. Dywedir iddo ddechrau bod yn destun cenfigen ymhlith ei staff ei hun hyd yn oed oherwydd ei ddealltwriaeth o'r deunydd perthnasol yn y Swyddfa Cofnodion Cyhoeddus. Parhaodd Tout i weithio ym maes hanes gweinyddol hyd at ychydig fisoedd cyn ei farwolaeth.
Tout oedd llywydd y Gymdeithas Hanes o 1910 i 1912, a chafodd ei ethol yn gymrawd yr Academi Brydeinig ym 1911.
Ym 1895, priododd Tout â Mary Johnstone, un o'i fyfyrwyr cyntaf ym Manceinion. Cafodd y cwpl ddau fab a merch a oedd yn byw i fod yn oedolion, ond yn drist, bu farw eu mab hynaf yn faban. Bu i Tout ymddeol ym 1925, ac i ddathlu'r achlysur hwn, cyhoeddodd ei gydweithwyr Essays in Medieval History presented to Thomas Frederick Tout. Roedd 11 o'r 29 o gyfranwyr o'r gyfrol yn gyn-ddisgyblion iddo. Penderfynodd Tout ddychwelyd i Lundain ac ymgartrefu yn Hampstead. Roedd yn ymddeoliad gweithgar. Roedd yn llywydd y Gymdeithas Hanes Frenhinol o 1926; ac ym 1928, aeth ar daith ddarlithio yn yr Unol Daleithiau a Chanada, gan gynnwys cyflwyno’r darlithiau Messenger ym Mhrifysgol Cornell.
Bu Tout farw yn ei gartref yn Hampstead ar 23 Hydref 1929. Cafodd fywyd llawn, egnïol, defnyddiol a hapus.
Ffynonellau
Galbraith, V., a Slee, P. (23 Medi 2004). Tout, Thomas Frederick (1855–1929), hanesydd. Oxford Dictionary of National Biography. Cyrchwyd ar 20 Gorffennaf 2020 o https://www-oxforddnb-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-36539.
Tait, J. (1930). Thomas Frederick Tout. The English Historical Review, 45(177), 78-85. Cyrchwyd ar 20 Gorffennaf 2020 o
Barron, C.M. www.jstor.org/stable/553335& Rosenthal, J.T. (goln.) (2019). Thomas Frederick Tout (1855-1929): refashioning history for the twentieth century. Cyrchwyd o https://humanities-digital-library.org/index.php/hdl/catalog/view/tout/tout/230-1
Price, D.T.W. (1977). A history of Saint David’s University College Lampeter. Volume one: to 1898. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru
Professor Tout. (24 Hydref 1929). Times, p. 21. Cyrchwyd o https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS352657752/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=5a20d6eb