A | B | C | D | E | F | G | H | I | J | K |L | M | N | O | P | Q | R |S | T | U | V | W | X | Y | Z
C
Joe Conti
Mae Jo Conti yn ddylunydd gwisgoedd sydd wedi gweithio ym mydoedd opera, hysbysebion teledu, adloniant ysgafn a drama. Hi hefyd yw perchennog Hufen Iâ Conti, sy’n sefydliad eiconig yn Llambed.
D
Cara Tallulha Davies
Mae Cara Tallulha Davies yn gweithio fel cynhyrchydd effeithiau gweledol yn y diwydiant ffilm.
E
Richard Else
Mae Richard Else yn ysgrifennwr, yn ffotograffydd, yn gynhyrchydd teledu ac yn academydd; yn benodol, mae’n wneuthurwr ffilmiau blaenllaw ar leoliadau anghysbell.
H
Dr Elizabeth Haines
Mae Elizabeth Haines yn artist, sydd wedi gweithio fel arlunydd, darlunydd, athrawes ac ysgrifennwr.
Graham Hoyland
Mae Graham Hoyland yn ysgrifennwr, gwneuthurwr rhaglenni dogfen, morwr a mynyddwr. Ef oedd y pymthegfed Prydeiniwr i ddringo Everest.
Jules Hudson
Mae Jules yn archeolegydd, yn ysgrifennwr, ac yn ddarlledwr sydd efallai fwyaf enwog am gyflwyno Countryfile ac Escape to the Country.
L
Andy Lewis
Mae Andy Lewis yn droellwr, yn gerddor ac yn gynhyrchydd recordiau; mae ei gyflawniadau yn cynnwys chwarae bas gyda Paul Weller.
M
Ian Marchant
Mae Ian Marchant yn ysgrifennwr, yn ddarlledwr ac yn berfformiwr.
Adrian Mourby
Mae Adrian Mourby yn fwyaf adnabyddus am fod yn newyddiadurwr, ysgrifennwr teithio a nofelydd, yn ogystal â chynhyrchydd dramâu ac operâu.
P
Pamela Petro
Artist, awdur ac addysgwr yw Pamela J. Petro. Er ei bod hi’n Americanes, mae ei chariad at Gymru’n rhan ganolog o’i gwaith.
T
Parchedig Andrew Timothy
Andrew 'Tim' Timothy (1912-1990) oedd cyhoeddwr gwreiddiol The Goon Show, cyn mynd yn ddarllenwr newyddion ar y BBC ac wedyn yn bennaeth cynorthwyol cyflwyno.
W
Rebecca Wheatley
Actores, cyflwynydd a chantores cabare yw Rebecca Wheatley; mae hi’n fwyaf enwog am ei rôl yn nrama ysbyty’r BBC, Casualty.
Andy White
Mae Andy White yn ddigrifwr stand-yp.