Mae Adrian Mourby yn fwyaf adnabyddus am fod yn newyddiadurwr, ysgrifennwr teithio a nofelydd, yn ogystal â chynhyrchydd dramâu ac operâu.
Roedd tad Mourby, Roy, yn athro o’r Trallwng, a oedd wedi gwasanaethu yn y Weinidogaeth Aer; ei fam oedd Peggy, Bradshaw gynt. Roedd y teulu’n byw ym Mirmingham. Aeth Adrian i Goleg Dewi Sant, Llambed, yn 1975. Yn benderfynol i gael gyrfa ym myd ffilm, roedd yn rhan o’r Clwb ‘New Rhymers’, lle cyfarwyddodd sioeau. Hefyd, fe gynhyrchodd ffilmiau byr a sioeau sleidiau tâp ar y campws. Ar ôl graddio, aeth ymlaen i Ysgol Ffilm Prifysgol Bryste. Pan yn fyfyriwr cafodd yrfa actio fer, yn chwarae dyn bar mewn tair pennod o’r gyfres dditectif Shoestring.
Symudodd nesaf i’r BBC a dyrchafodd i rolau cynhyrchydd a chyfarwyddwr dramâu teledu a radio. Yn arbennig, cynhyrchodd addasiad teledu o The Old Devils Syr Kingsley Amis, a enillodd nifer o wobrau rhyngwladol. Ar lefel llai uchel-ael, ysgrifennodd ar gyfer The Archers a bu’n olygydd y rhaglen hefyd. Yn 1992 gadawodd y BBC i fod yn ysgrifennydd ar ei liwt ei hun ac yn gyfarwyddwr opera achlysurol.
Mae Mourby wedi ysgrifennu tair nofel gyhoeddedig, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gyfres o chwe nofel. Ei ddarn cyntaf o waith ffuglen oedd We think the world of him (Hodder and Stoughton, 1995). Ar ôl colli ei swydd, daw Duncan Lewis yn ŵr tŷ; mae ei wraig yn dychwelyd i weithio’n llawn amser. Ei lyfr nesaf oedd The four of us (Sceptre, 1997), yn trin a thrafod David Mosford, darlithydd hanes mewn prifysgol yng Nghymru. Mae Wishdaughter (Gwasg Seren, 2004) yn llyfr mwy tywyll. Mae gohebydd opera, Bill Wheeler, yn teithio i Israel i ymchwilio i Richard Wagner. Mae’n darganfod llythyr y dywedir ei fod mor llidiol y bydd yn sicrhau na fydd gweithiau Richard Wagner byth yn cael eu chwarae yn Israel. Ar hyn o bryd, mae Mourby yn gweithio ar gyfres o chwech o lyfrau; o’r rhain, mae Dancing in the desert, Faithful in my fashion ac A dark & knowing forest yn gyflawn ac yn aros i gael eu cyhoeddi. Mae ef hefyd, ar hyn o bryd, yn ysgrifennu stori fer, A cruel country, am sut brofiad oedd bod yn fyfyriwr yn Llambed yn 1976. Meddai ef: 'I'm aware that everyone who has ever been to Oxford has written a novel about the undergraduate experience. This is my contribution to the almost non-existent Lampeter oeuvre in English."
Ysgrifennodd Mourby ddwy gyfres o gomedi Whatever happened to...? BBC Radio 4, yn disgrifio bywyd tragwyddol gwahanol gymeriadau o ffuglen plant. Mae’r chwiorydd hyll, a chwaraewyd gan Prunella Scales ac Eleanor Bron, yn cyflwyno’u hunain fel dioddefwyr llofruddiad cymeriad gan heddlu cudd Cinderella. Caiff y Blaidd Mawr Drwg, sydd wedi lladd Hugain Fach Goch a’r Tri Mochyn Bach, ei ddatgan yn ddieuog. Yn werthwr ffenestri, mae gan y blaidd bob hawl i fod ar do tŷ’r moch. Caiff mam-gu Miss Hood ei phortreadu fel dynes sy’n ‘hoff o’i hwyl’ ac yn mwynhau cael ei chlymu. Enillodd Mourby Wobr Arian Sony am Ysgrifennu Creadigol ar y Radio am y gyfres. Dilynodd hwn gyda llyfr o’r enw Whatever happened to...?: the ultimate sequels (Souvenir, 1997). Roedd y cymeriadau yn hwn yn cynnwys Jane Eyre, Jim Hawkins o Treasure Island a Dorothy Gale o The Wonderful Wizard of Oz.
Mae Mourby wedi teithio ac ysgrifennu am deithio’n helaeth, gan ymweld â thros ugain o wledydd yn 2008, er enghraifft. Mae wedi cerdded ar Mur Mawr Tsieina, wedi rhoi troed ar dir Antarctica, eistedd gyda gorilaod yn Rwanda ac wedi bod ar saffari yn Nhanzania, Botswana a Namibia. Yn 2017, cyhoeddodd Rooms of one’s own: 50 places that made literary history, (Icon Books). Dilynodd ei arwyr llenyddol o gwmpas y byd, gan geisio archwilio mannau byw a gweithio ysgrifenwyr enwog. Roedd y lleoedd a drafodai’n amrywio o Rydychen J.R.R Tolkien i Fangkok Somerset Maugham i Baris James Joyce a Fenis George Sand. Cafodd y gyfrol ei chanmol yn fawr yng nghategori Llyfr Teithio Naratif Orau gwobrau 2018 British Guild of Travel Writers. Yn Rooms with a view: the secret life of grand hotels (Icon, 2018), adroddodd Mourby hanesion cyfrinachol pumdeg o westai mwyaf crand y byd. Mae e hefyd wedi ysgrifennu llyfrau tywys yr AA i Fenis (2007) a Brwsel a Bruges (2008), yn ogystal â chyfrannu at nifer o lyfrau tywys Eyewitness Dorling Kindersley.
Efallai bod Mourby yn fwyaf enwog am fod yn ddilynwr opera brwd. Mae e wedi cynhyrchu sawl opera, yn cynnwys Semele Handel, (llwyfannwyd ym Malta, 2002); Così fan tutte Mozart (Rhydychen, 2004), a Marriage of Figaro Mozart (Gŵyl Blewbury, 2006). Mae Mourby hefyd wedi ysgrifennu nifer o draethodau rhaglenni: mae’r cwmnïau y mae e wedi gweithio gyda nhw’n cynnwys Opera Brenhinol Covent Garden, English National Opera, y Wienerstaatsoper a’r Grand Théâtre de Genève. Mae’n golofnydd ar gyfer cylchgrawn Opera now ac ef oedd crëwr ac ysgrifennwr Tristan and Matilda, stribed comig hir-sefydlog yn y cylchgrawn hwnnw. Yn 2007, enillodd Wobr Arbennig ar gyfer Newyddiaduraeth Opera flynyddol y Fondazione Festival Pucciniamo. Mae’n arwain teithiau opera i’r Eidal bron bob haf.
Mae Mourby wedi ysgrifennu i’r rhan fwyaf o bapurau newydd o ‘ansawdd’ Prydain, yn cynnwys llawer, llawer iawn o erthyglau yn The Independent, The Guardian a’r Times Educational Supplement. Dywed Mourby ei fod, fel bron â bod pob ysgrifennwr Prydeinig, yn byw yng Ngogledd Rhydychen gyda’i wraig a dwy gath!
Ffynonellau
Llyfrgell Llinach. (n.d.). Llyfrgell Llinach. Adalwyd ar 2 Mehefin 2020, o https://www.ancestrylibraryedition.co.uk/
Mourby, A. (2013, 15 Meh). The Guardian: Family: ‘I'll never measure up to my dad': My father had a dignity that few men show these days, says Adrian Mourby. He was a good husband, parent and grandfather. In short, he was a grownup. Guardian, The (Llundain, Lloegr). Adalwyd o https://infoweb.newsbank.com/resources/doc/nb/news/146F01BEC286B698?p=UKNB
Mourby, A. (2013, 30 Meh). The Guardian: Family: ' A celebration of Roy and Peggy: After his mother's death, Adrian Mourby had to sort out the house in which he'd grown up. It was a challenge, dismantling what was left after more than 60 years of an exceptionally happy marriage. Guardian, The (Llundain, Lloegr). Adalwyd o https://infoweb.newsbank.com/resources/doc/nb/news/14A6B860D7F96F98?p=UKNB
Mourby, A. (2020). Adrian Mourby. Adalwyd ar 3 Mehefin 2020, o https://librarydevelopment.group.shef.ac.uk/referencing/apa.html.
Hoyle, M. (1995, 14 Hyd). Arts: Jokes, cliches and media-talk - Radio. Financial Times (Llundain, Lloegr), t. XII.. Adalwyd o https://infoweb.newsbank.com/resources/doc/nb/news/113FBF18D3FB8580?p=UKNB