A | B | C | D | E | F | G | H | I | J | K |L | M | N | O | P | Q | R |S | T | U | V |W | X | Y | Z
B
Y Parchedig John Dudley Bartlett
Roedd John Dudley Bartlett (1907-1967) yn chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru, a aeth wedyn yn gaplan yn y llynges.
C
Yr Athro William Augustus Brevoort Coolidge
Pan wnaeth y Parchedig John James Lias, Athro Saesneg yng Ngholeg Dewi Sant, Llambed, ymddeol yn 1880, Cymrawd yng Ngholeg Madlen, Rhydychen, oedd ei olynydd, sef William Augustus Brevoort Coolidge. Er nad oedd Coolidge yn Llambed am gyfnod hir, nid oes unrhyw amheuaeth ei fod wedi mwynhau ei amser yno, gan ymdrochi ei hun yn frwdfrydig ym mywyd y coleg, ac fel y mae rhodd yn 1889 i Gronfa Adeiladu ac Ymestyn Cyffredinol y Coleg yn tystiolaethu, gwnaeth y serch a oedd ganddo at y coleg barhau yn hir ar ôl iddo ymadael ag ef. Daeth Coolidge i fyw yn Llambed ym mis Medi, 1880, yn barod ar gyfer Tymor Gŵyl Mihangel, ac roedd yr argraff a gafodd yr ardal arno yn ffafriol: “It is a very pretty place and the walks among the hills very enjoyable”. Ond roedd un caveat: “the language is the great difficulty”. Gwnaeth ymgartrefu’n gyflym yn y coleg, ac mae ei ohebiaeth â’i gyfaill yng Ngholeg Madlen, yr ysgolhaig litwrgïaidd enwog Henry Austin Wilson (1854-1927), yn cyfeirio at y Llyfrgell - “it has some very curious old books but there is no catalogue”. Yn ogystal ag addysgu Saesneg, roedd ei gyfrifoldebau yn cynnwys addysgu Hanes a golygu’r St David’s College Magazine, a gwnaeth ef ei hun gyfrannu “A Visit to the Pays de Neff” at rifyn Tachwedd 1880.
D
Y Parchedig David 'Bailey' Davies
Roedd David ‘Bailey’ Davies (1884-1968) yn chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru a aeth ymlaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i gael ei wobrwyo â’r Groes Filwrol.
Ivor Thomas Davies
Roedd Ivor Thomas (I.T.) Davies (1892-1959) yn chwaraewr rhyngwladol i Gymru.
H
Graham Hoyland
Mae Graham Hoyland yn ysgrifennwr, gwneuthurwr rhaglenni dogfen, morwr a mynyddwr. Ef oedd y pymthegfed Prydeiniwr i ddringo Everest.
L
Shaun Lightman
Mae Shaun Lightman yn gerddwr rasio, a gynrychiolodd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Mecsico yn 1968.
M
Y Parchedig Alfred Augustus Mathews
Chwaraeodd Alfred Augustus (Alf) Mathews (1864-1946) rygbi dros Gymru, pan oedd yn dal yn fyfyriwr yn Llambed.
Austin David George Matthews
Gwnaeth Austin David George Matthews (1904-1977) gynrychioli Lloegr ym maes criced, a Chymru ym maes tennis bwrdd, yn ogystal ag ennill Cap rygbi’r undeb am chwarae yn un o Dreialon Terfynol Cymru.
Hannah McKeand
Mae Hannah McKeand yn alldeithwraig begynol; yn 2006, gwnaeth hi osod record cyflymder y byd am sgïo’n solo, heb unrhyw gefnogaeth, i Begwn y De.
R
Heather Ratnage-Black
Mae Heather Ratnage-Black wedi cynrychioli'r Llu Awyr Brenhinol a Phrydain Fawr ar y sled sgerbwd. Mae bellach ar fwrdd y Bobsled a'r Sled Sgerbwd Prydeinig.
Ernest Melville Rowland
Ernest Melville Rowland (1864-1940) oedd y chwaraewr rygbi cyntaf o Goleg Dewi Sant i ennill cap dros Gymru.
S
Y Parchedig John Griffith Stephens
Chwaraeodd John Griffith Stephens (1893-1956) rygbi rhyngwladol i Gymru, gan weithio fel curad yn Llanelli yr un pryd.
Y Parchedig John Strand-Jones
Roedd John (Jack) Strand-Jones (1877-1958) yn chwaraewr rygbi undeb rhyngwladol i Gymru ac yn gaplan y fyddin yn yr ardal sydd bellach yn cael ei galw’n Pacistan.
T
Chris Townsend
Mae Chris Townsend yn gerddwr pellter hir, ysgrifennydd awyr agored a ffotograffydd.