Gwnaeth Austin David George Matthews (1904-1977) gynrychioli Lloegr ym maes criced, a Chymru ym maes tennis bwrdd, yn ogystal ag ennill Cap rygbi’r undeb am chwarae yn un o Dreialon Terfynol Cymru.

Roedd  Austin yn dod o Benarth; ei rieni oedd Frederick Harper Matthews, naddwr glo, a’i wraig Mary Margaret. Ar ôl ymadael â’r ysgol, astudiodd ddiwinyddiaeth yn Llambed, wedi cael ei dderbyn yno ym mis Hydref 1925. Ond penderfynodd nad oedd ef yn ‘really fitted for the church.’ Symudodd i Northamptonshire, gan chwarae rygbi am y tro cyntaf i Northampton Saints, a chriced am y tro cyntaf i’r tîm sirol yn 1927. Ym maes rygbi, roedd e’n flaenwr o’r safon uchaf a oedd hefyd wedi chwarae i Ganolbarth Dwyrain Lloegr ac i Benarth. Ef gwnaeth arwain tîm y ‘Saints’ yn 1935, yn rhinwedd ei swydd fel capten. Caiff y cap a enillodd ef wrth chwarae i Northampton ei gadw yn archifau Clwb Pêl Droed Rygbi Penarth, yn ogystal â’r cap a enillodd ef yn 1929 yn un o dreialon rygbi terfynol Cymru. Yn ddiweddarach, byddai Matthews yn dyfarnu ar gyfer taith gyfunol gyntaf Rhydychen a Chaergrawnt i’r Ariannin yn 1948. 

Fel cricedwr, roedd Matthews yn bowlio gyda’i fraich dde yn gyflym-gymedrol ac yn llawn nerth. Meddai ei goflith yn Wisden ‘he was accurate and had the cardinal merits of keeping the ball on the wicket and making it run away.’ Yn ystod ei naw blynedd yn chwarae i Northants, enillodd 567 wiced, 26.45 o rediadau’r un, ar gyfartaledd. Ef oedd enillydd wicedi blaenllaw’r sir yn 1936, pan enillodd 83 wiced. Roedd hefyd yn fatiwr defnyddiol ar lefel is, ac enillodd ddau gant o rediadau o’r rheng flaenaf.  

Ond roedd  Northants yn dîm gwan; mae’n annhebygol y byddai Matthews wedi gallu cadw ei le yn un o’r timau cryfach. Yn 1937, gwnaeth orffen chwarae i’r sir yn dilyn anghytundeb dros delerau cytundeb proffesiynol newydd a thros oedi’r trafodaethau am flwyddyn budd-dal ddichonadwy. Gan feddwl bod ei yrfa yn chwarae i’r sir drosodd, daeth o hyd i swydd yn hyfforddi criced a rygbi yn Ysgol Fonedd Stowe, ger Buckingham.  Ac eithrio ei wasanaeth yn y RAF yn ystod adeg y rhyfel, arhosodd yn Stowe tan 1953.  

Ar ddiwedd tymor yr haf, 1937, ymadawodd Matthews â Stowe er mwyn ymweld â’i deulu yn Ne Cymru. Yno, gwnaeth gwrdd unwaith eto â’i hen gyfaill Maurice Turnbull, capten tîm criced Morgannwg. Cafodd Matthews ei ddrafftio’n gyflym fel aelod o’r tîm. Roedd sawl bowliwr wedi’u hanafu, ac felly cytunodd Matthews helpu ychydig o weithiau, ond erbyn hyn fel chwaraewr amatur. Yn un o’r gemau cyntaf ar ran ei sir newydd, enillodd 14 wiced am 132 o rediadau yn erbyn Sussex yn Hove. Meddai gohebydd The Times ‘His fast medium bowling was not deadly in the last sense of that word, but it was always accurate. The ball was always doing something, and he never let the batsman feel he could relax.’ Gwnaeth ddilyn hyn gyda chwe wiced yn erbyn Gwlad yr Haf yn Weston-super-Mare.  

Mewn llai na thair wythnos ar ôl ymuno â thîm Morgannwg, cafodd Matthews ei gynnwys yn sgwad Lloegr i chwarae yn erbyn Seland Newydd yn yr ‘Oval’. Ym marn The Times, roedd y Dewiswyr, drwy wneud hyn, wedi synnu pawb yn fawr. Roedd aelodau eraill y tîm yn cynnwys Len Hutton, Cyril Washbrook a Denis Compton. Yn y diwedd, gwnaeth y gêm, wedi’i heffeithio gan law a’i chwarae ar lain ddifywyd, orffen gyda gêm gyfartal. Gwnaeth Matthews orffen gyda’r ffigurau parchus 2 wiced am 65 o rediadau. Ond ni fyddai’n chwarae fyth eto i Loegr.  

Gwnaeth Matthews barhau i chwarae criced o’r rheng flaenaf tan oedd ef wedi cyrraedd canol ei bedwar degau, gan ymddeol, o’r diwedd, yn 1947. Enillodd 225 wiced i Forgannwg, gyda 15.88 o rediadau’r un, ar gyfartaledd. Roedd Matthews yn gryf ei argyhoeddiad ynglŷn â hyfforddi, a byddai’n ysgrifennu’n aml amdano. Yn benodol, cyfrannodd ef erthygl nodwedd ‘Cricket a game – not a subject’ at argraffiad 1966 o Wisden. Yn ei farn ef, ni ddylid ymhyfrydu ormod mewn hyfforddi  er ei fwyn ei hun.  

Bu farw Matthews ym Mae Penrhyn, Llandudno, ar Orffennaf 29 1977. Gwnaeth ei goflith yng nghylchgrawn cyn-fyfyrwyr Stowe, The Stoic, ei ddisgrifio fel a ganlyn ‘a personality who loved people, whose enthusiasm was infectious, and whose laugh was worth going a long way to hear.’ 

Ffynonellau 

ESPN Cricinfo (n.d.) Austin Matthews England. Adalwyd ar Ionawr 7 2021 oddi wrth https://www.espncricinfo.com/england/content/player/16942.html 

Austin Matthews (1978). The Stoic, 161, 178. Adalwyd ar Ionawr 7 2021 oddi wrth https://stowemedia.azureedge.net/cmsstorage/uploads/medialibrary/stowe/old-stoic-events/os%20publications/the_stoic_161_july_1978.pdf 

Northampton Saints (n.d.) Club records. Adalwyd ar Ionawr 7 2021 oddi wrth https://www.northamptonsaints.co.uk/club/history/club-records 

Halford, B. & Hignell, A. (2018). The daffodil blooms: the glorious rise of Glamorgan CCC to county champions in 1948. Bedford: ACS. Adalwyd ar Ionawr 7 2021 oddi wrth https://www.google.co.uk/books/edition/The_Daffodil_Blooms/n67RDwAAQBAJ?hl=en&gbpv=1&dq=daffodil+blooms&pg=PP1&printsec=frontcover 

From Our Special Correspondent. (1937, August 7). Glamorgan's Smart Win. Times, 4. Adalwyd ar Ionawr 7 2021 oddi wrth https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS67711239/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=a0d97d18 

The Third Test Match. (1937, August 9). Times, 4. Adalwyd ar Ionawr 7 2021 oddi wrth https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS67449097/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=11a81fec 

From Our Cricket Correspondent. (1937, August 18). Cricket. Times, 5. Adalwyd ar Ionawr 7 2021 oddi wrth https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS84095250/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=e4b2cb62 

Museum of Welsh Cricket. (n.d.) Austin Matthews. Adalwyd ar Ionawr 7 2021 oddi wrth https://glamorgancricketarchives.com/austin-matthews/