Roedd Ivor Thomas (I.T.) Davies (1892-1959) yn chwaraewr rhyngwladol i Gymru.

Roedd I.T. yn fab i glerc cyfraith, Thomas Davies. Fe anwyd yng Nghaerfyrddin a mynychodd Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin, ac yna, Ysgol Coleg Dewi Sant, Llambed. Gwnaeth fatriciwleiddio i’r coleg ei hun ar Hydref 13 1911. 

Roedd yn chwaraewr amryddawn gwych a oedd yn dda mewn athletau, criced, nofio, saethu a rhwyfo, yn ogystal â rygbi. Dechreuodd chwarae rygbi pan oedd yn dal i fod yn yr ysgol yng Nghaerfyrddin; gwelid ei chwarae gorau fel asgellwr tri chwarter. Yn Llambed, gwnaeth chwarae i Harlecwiniaid Caerfyrddin, Llanelli a Chymry Llundain, ac yn rheolaidd i dîm XV y Coleg. Yn Llambed hefyd, yn ffyddlon i’w goleg, gwnaeth chwarae am dymor fel hanerwr, yn hytrach nag yn ei le arferol. Mae rhai pynditiaid wedi dyfalu oni bai am hyn, gallai fod wedi chwarae i Gymru yn gynt.      

Ivor Thomas Davies in the St David’s College 1st XV rugby team, 1913-14.

Llun: Tîm XV 1af Coleg Dewi Sant 1913-14. Davies sydd yn eistedd ar y llawr ar y chwith. 

Dewiswyd Davies yn asgellwr wrth gefn i’r gêm Cymru yn erbyn Lloegr ym mis Ionawr 1914. Yna, ar Chwefror 7 1914, chwaraeodd i Gymru yn erbyn yr Alban ym Mharc yr Arfau, Caerdydd. Ef oedd aelod ieuaf tîm Cymru. Sgoriodd gais mewn buddugoliaeth i Gymru, gyda 24 pwynt i 5. Meddai The Guardian  ‘Er iddo wastraffu un neu ddau gyfle drwy daro ymlaen, roedd Ivor Davies yn llwyddiant ysgubol.’ Bryd hynny, yr enw a ddefnyddid ar gyfer tîm brawychus Cymru, dan arweinyddiaeth yr arswydus  Parchedig Alban Davies,  oedd y ‘Terrible Eight.’ Meddai David Bain, Capten yr Alban wedyn mai’r ‘Tîm mwyaf brwnt a wnaeth ennill.’ Yna, gwnaeth I.T. Davies chwarae i Gymru (ar Faes San Helen, Abertawe), pan enillodd Cymru yn erbyn Ffrainc gyda sgôr o 31-0. 

Gwnaeth The Cambrian News adrodd am y croeso a gafodd Ivor T. Davies yn Llambed, gan ddweud bod ‘Nifer mawr o edmygwyr wedi mynd i Gaerdydd i weld ef yn chwarae, a chafwyd cymeradwyaeth uchel ganddo drwy gydol y gêm. Ar ddychwelyd, ar y dydd Llun, gwnaeth torf o fyfyrwyr gwrdd ag ef yn yr Orsaf a’i  gario ar eu hysgwyddau i’r Coleg gan ganu “He is a jolly good fellow” a chaneuon poblogaidd eraill.’ 

Ar Fawrth 2 1914, chwaraeodd Davies mewn gêm a welodd Cymru yn maeddu Ffrainc yn hawdd gyda sgôr o 31-0 i Gymru ar Faes San Helen, Abertawe.  Cynhaliwyd y gêm nesaf iddo chwarae ynddi, yn erbyn Iwerddon, ar Faes  Balmoral, Belfast, ar Fawrth 14 1914. Caiff y gêm honno ei chofio fel y gêm fwyaf bwystfilaidd a brwnt i gael ei chwarae erioed. Y noson cyn y gêm, aeth rhai o aelodau tîm Iwerddon i westy tîm Cymru i wawdio’r ‘Terrible Eight’. Drannoeth, cafodd y bygythiadau a’r addewidion eu gwireddu’n ffyrnig ar y maes. Hefyd, roedd y ddaear mor fwdlyd nes bod y maes bron â bod o dan dŵr mewn mannau. Gwnaeth y glaw trwm olygu ei bod hi bron yn amhosibl trafod y bêl yn ddiogel.  Dywedwyd nad oedd Mr Tulloch, y dyfarnwr o’r Alban, wedi cymryd llawer o sylw o’r holl ymladd a ddigwyddodd. Enillodd Cymru gydag 11 pwynt i 3, gyda Davies yn sgorio cais.   

A dweud y gwir, roedd Davies, erbyn hyn, wedi cymryd ei le ymhlith arwyr Coleg Dewi Sant.  Cynhaliwyd cinio canmoliaethus er anrhydedd iddo ar Fawrth 18 1914. Gwnaeth cylchgrawn y coleg nodi, ‘Mae ei goleg yn falch ohono; mae ei gymdeithion bron â’i addoli, ond drwy gydol y cyfan mae’n parhau i fod yr un ‘I.T.’ diymhongar, unigolyn yr ydym yn ei anrhydeddu’n orfoleddus ac un y mae hi’n fraint i ni fod yn gysylltiedig ag ef.’  

Ond gwnaeth y Rhyfel Byd Cyntaf olygu na fyddai Davies yn chwarae rygbi rhyngwladol eto. Chwaraeodd i Gymru yn erbyn y Barbariaid ar Faes Parc yr Arfau, Caerdydd, ar Ebrill 17 1915. Amcan y gêm honno oedd recriwtio ar gyfer y  Gwarchodlu Cymreig a oedd newydd gael ei sefydlu. Yn ystod y penwythnos hwnnw, recriwtiwyd bron â 200 o ddynion, ac fe roddwyd elw’r gêm (£245) i wahanol gronfeydd ar gyfer y rhyfel.  Er i Gymru ddewis tri ar ddeg o chwaraewyr rhyngwladol, nid oedd hynny’n ddigon i faeddu’r Barbariaid.  Y sgôr terfynol oedd 26-10 i’r Baa-Baas, (pedair gôl a dau gais yn erbyn gôl adlam a dau gais). Sgoriodd Davies un o’r ceisiadau i Gymru.  

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, bu Davies yn ymladd yn yr 2il Warchodlu Dragŵn ac yna, yn y Corfflu Gynnau Peiriant. Mae’n debyg y gwnaeth weithio wedyn fel gwas sifil. Bu farw yn Hampstead ar Orffennaf 2 1959. 

Ffynonellau 

Walters, S. (2016). The fighting parsons: the role of St David’s College, Lampeter, in the early development of rugby football in Wales. Canolfan Peniarth 

Football In Wales. (1915, April 19). Times, p. 13. Adalwyd oddi wrth https://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS218694803/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=78a36aca

Lampeter. (1914, February 13).The Cambrian News and Merionethshire Standard.Adalwyd oddi wrth https://newspapers.library.wales/view/3412167/3412172/50/ 

Wales defeat Scotland: great game at Cardiff Welsh forwards in form. (1914, February 9). The Manchester Guardian (1901-1959) Adalwyd oddi wrthhttps://search.proquest.com/docview/475759624?accountid=12799