Chwaraeodd John Griffith Stephens (1893-1956) rygbi rhyngwladol i Gymru, gan weithio fel curad yn Llanelli yr un pryd.

Roedd Stephens yn dod o ardal Llanbadarn Fawr, ar gyrion Aberystwyth. Roedd ei dad, hefyd o'r enw John Griffith Stephens, yn ffermwr. Aeth Stephens i Ysgol Gynradd Llangynfelyn, Ysgol Sir Aberystwyth, ac yna i Goleg Llanbedr Pont Steffan. Ymaelododd â Choleg Dewi Sant, Llanedr Pont Steffan, ar 13 Hydref 1911, yr un diwrnod ag I.T. Davies, chwaraewr rygbi rhyngwladol arall i Gymru yn y dyfodol. 

Bu'n chwarae rygbi dros ei ysgolion yn Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth, ac yna yng Ngholeg Dewi Sant. Roedd yn ddyn mawr, ac felly roedd hi'n amlwg y byddai'n chwarae safle blaenwr ar y cae rygbi. Graddiodd gyda gradd BA ym mis Mehefin 1914. Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf lai na deufis yn ddiweddarach, gwirfoddolodd Stephens i'r Corfflu Hedfan Brenhinol. Gwasanaethodd yno tan ddiwedd y rhyfel. 

John Griffiths Stephens in the St David’s College first XV, 1912-13 season.

Llun: Tîm cyntaf Coleg Dewi Sant, 1912-13 Mae Stephens yn sefyll ar ochr chwith pellaf y rhes ganol. 

Ar ôl dychwelyd adref yn ddiogel, ordeiniwyd Edwards yn ddiacon yn 1919, ac yn offeiriad yn 1920. Daeth yn gurad yn Llanelli, lle bu’n gweithio hyd at 1922. Ar yr un pryd, dechreuodd chwarae rygbi eto, gan chwarae i Lanelli. Bu'n cystadlu hefyd dros Gymru ym mhob un o bedair gêm tymor 1921-22. Roedd ei gêm gyntaf yn erbyn Lloegr ar 21 Ionawr 1922 ym Mharc yr Arfau Caerdydd. Dywedwyd bod y cae fel cors. Enillodd Cymru 28 pwynt i 6, (dwy gôl a chwe chais i ddau gais); Roedd Lloegr wedi cael eu gorchfygu. Wrth ysgrifennu ar gyfer y Daily Telegraph, dywedodd y Cyrnol Philip Trevor, ‘…roedd y gêm yn un gyfres hir, ddi-dor o fuddugoliaethau i flaenwyr Cymru.’ Hwn oedd y tro cyntaf i’r ddwy ochr wisgo rhifau mewn gêm ryngwladol. 

Roedd gêm nesaf Cymru yn erbyn yr Alban yn Inverleith, Caeredin, ar 4 Chwefror 1922. Daeth gêm agos iawn i ben gyda sgôr gyfartal o 9 pwynt, gyda Chymru yn llwyddo i gael gôl adlam yn y munud olaf. Roedd tîm yr Alban yn cynnwys Eric Liddell, a enillodd y 400 metr yng Ngemau Olympaidd Paris 1924 yn ddiweddarach (gan ysbrydoli'r ffilm Chariots of Fire). Yna, ar 4 Chwefror 1922, enillodd Cymru gêm wael yn erbyn Iwerddon, gyda sgôr o 11-5. Dywedodd Philip Trevor nad oedd yn cofio gêm ryngwladol, wedi'i chwarae mewn amodau da, lle roedd safon y chwarae mor gymedrol. Fodd bynnag, cyfaddefodd fod Stephens yn un o'r pedwar neu bump a oedd wedi chwarae'n dda. Yng ngêm olaf tymor 1921-22, llwyddodd Cymru i drechu Ffrainc yn Stade Colombes, Paris ar 23 Mawrth 1922, gyda sgôr fuddugol o 11-3. Dywedodd René Crabos, capten Ffrainc, ‘Cawsom ein curo gan chwaraewyr a oedd yn well ar y cyfan.’ Roedd adroddiad y gêm yn y Daily Telegraph yn disgrifio blaenwyr Cymru fel y rhai oedd yn bennaf gyfrifol am y fuddugoliaeth. Roedd Cymru wedi ennill Pencampwriaeth y Pum Gwlad, gan orffen y tymor rygbi heb golli’r un gêm. 

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, dychwelodd Stephens i'r Awyrlu Brenhinol fel caplan. Er iddo chwarae sawl gêm i'r Awyrlu Brenhinol fel cefnwr, ni chynrychiolodd Gymru eto. Yna yn 1928, gadawodd y lluoedd eto ar ôl cwblhau ei wasanaeth. Bu’n gweithio fel curad yn New Brighton ar benrhyn Cilgwri am flwyddyn, ac yna fel ficer yn Eglwys Sant John yn Darlington nes 1954. Yn 1931, priododd Ruby Bray, chwaraewr tenis adnabyddus o Swydd Efrog.  

Swydd olaf Stephen oedd fel ficer eglwys bentref yn Bossall gyda Buttercrambe ger Efrog. Bu farw yno ar 14 Mai 1956. 

Ffynonellau 

Walters, S. (2016). The fighting parsons: the role of St David’s College, Lampeter, in the early development of rugby football in Wales. Canolfan Peniarth 

Pierce, D., Jenkins, J.M. ac Auty, T. (2018). Who’s who of Welsh international rugby players.  Charlcombe Books 

Trevor, P., C.B.E. (1922, 23 Ionawr). Rygbi Rhyngwladol Daily Telegraph, t. 11+. Cyrchwyd o https://link.gale.com/apps/doc/IO0706697575/TGRH?u=nlw_ttda&sid=TGRH&xid=0b107c13 

Trevor, P., C.B.E. (1922, 13 Mawrth). Rygbi Rhyngwladol. Daily Telegraph , t. [15]. Cyrchwyd o https://link.gale.com/apps/doc/IO0708975536/TGRH?u=nlw_ttda&sid=TGRH&xid=854fcc90 

Ein Gohebydd Arbennig. (1922, 24 Mawrth). Y Gêm Rygbi. Daily Telegraph , t. [12]. Cyrchwyd o https://link.gale.com/apps/doc/IO0705745447/TGRH?u=nlw_ttda&sid=TGRH&xid=5c232e19