Reverend John Strand-Jones

Roedd John (Jack) Strand-Jones (1877-1958) yn chwaraewr rygbi undeb rhyngwladol i Gymru ac yn gaplan y fyddin yn yr ardal sydd bellach yn cael ei galw’n Pacistan.

Cafodd ei eni yng Nghaeo, Sir Gaerfyrddin, tua deng milltir i'r de-ddwyrain o Lanbedr Pont Steffan; bu farw ei dad Evan, a oedd yn ffermwr, pan oedd yn flwydd oed yn unig. Symudodd mam Strand-Jones, Margaret, i Lanbedr Pont Steffan, lle bu'n cadw llety yn Stryd y Bont.  

Astudiodd Strand-Jones yn Ysgol Coleg Dewi Sant, cyn cael ei dderbyn i goleg Dewi Sant ei hun. Graddiodd gyda gradd anrhydedd ail ddosbarth yn 1899. Aeth ymlaen i Goleg yr Iesu, Rhydychen, cyn gorffen ei hyfforddiant diwinyddol yng Ngholeg San Mihangel, Aberdâr.  

Roedd ganddo ddawn ragorol mewn chwaraeon. Ym mabolgampau Coleg Dewi Sant yn 1899, enillodd y rasys handicap 440 llath a chlwydi, yn ogystal â'r cystadlaethau taflu pwysau a thaflu pêl criced. Roedd wedi bod yn ddigon da i chwarae rygbi o dro i dro i’r coleg a thimau tref Llanbedr Pont Steffan pan oedd yn fachgen ysgol. Capteiniodd XV Coleg Dewi Sant yn nhymor 1898-99, yn ogystal â chwarae o dro i dro i Lanelli.  

John Strand-Jones in the St David’s College first XV for the 1897-98 season

XV cyntaf Coleg Dewi Sant ar gyfer tymor 1897-98. Strand-Jones sy'n eistedd ar y pen ar y dde.  

Yn Rhydychen, chwaraeodd Strand-Jones i dîm y ‘gleision’ dair gwaith, (yn 1899, 1900 ac 1901) Ei safle gwreiddiol oedd canolwr; fodd bynnag, yn Rhydychen newidiodd i safle’r cefnwr. Gwnaeth hefyd chwarae o dro i dro i dîm Cymry Llundain yn ogystal â thîm Llanelli. Yn 1902, chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru, gan gymryd lle’r cawr Billy Bancroft. Roedd ei gêm gyntaf yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Gwledydd Cartref. Sgoriodd gic gosb, yn ogystal â chreu cais. Cofiodd R. T. Gabe, canolwr Cymru, sut  

'chwaraeodd Jones gêm ragorol y diwrnod hwnnw. Mae’n wyrth ei fod wedi llwyddo i chwarae’r gêm heb gael anaf. Ni wnaeth ddisgyn ar y bêl ond yn hytrach gwnaeth ei chodi a rhuthro drwy'r blaenwyr a oedd yn dod tuag ato â’i ben i lawr. Ar ôl un o'r rhediadau dewr hyn fe redodd hanner lled y cae cyn pasio i mi gydag ond Gamlin [cefnwr Lloegr] i'w guro.'  

Y sgôr derfynol oedd Lloegr 8 Cymru 9. Chwaraeodd Strand-Jones hefyd ym muddugoliaethau Cymru dros yr Alban ac Iwerddon, (a sgoriodd yn erbyn yr Alban drwy drosi cais). Roedd Cymru wedi ennill y bencampwriaeth a'r Goron Driphlyg. Y flwyddyn ganlynol, chwaraeodd yn erbyn Lloegr (gan sgorio trosiad eto) a’r Alban. Fodd bynnag, cafodd gêm gymysg yn erbyn yr Alban; yn yr ail hanner, dywedir iddo chwarae mewn safleoedd gwael a’i fod wedi cicio'n wael. Collodd ei le yn y tîm i H. B. Winfield, a oedd, yn wahanol i Strand-Jones, wedi bod yn chwarae yn rheolaidd.  

Disgrifiodd y sylwebydd enwog, W. J. T. Collins, Strand-Jones yn ei lyfr Rugby reminiscences.   

'Roedd yn anghonfensiynol – roedd yn aml yn rhedeg pan fyddai'r cefnwr arferol wedi cicio i'r ystlys. Er mwyn dianc rhag gwrthwynebwyr a oedd yn ei ddilyn, roedd yn rhedeg drwy wneud symudiad anarferol i'r ochr, gan dorri gyda chyfres o droeon byr tuag at ochr agored y cae, gan deithio dwsin neu ugain troedfedd i'r dde heb symud ymlaen mwy na dau neu dri llath. Roedd yn beryglus, ond roedd yn gyflym … Roedd yn hynod o ddewr, byddai mynd i lawr ar y bêl o flaen y rhuthr ffyrnicaf …'  

Cynrychiolodd Strand-Jones Gymru mewn dwy gamp; ym mis Mawrth 1903, enillodd gap am chwarae hoci i Gymru yn erbyn Lloegr. Chwaraeodd griced dros Sir y Fflint yn 1906 ac yn ddiweddarach dros Sir Gaerfyrddin.  

Cafodd ei ordeinio'n ddiacon yn 1903 ac yna'n weinidog yn 1904. Roedd yn gurad yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, rhwng 1903 ac 1908, ac yna yng Nghorwen, Sir Ddinbych. Ymunodd â Chlwb Rygbi Lerpwl a pharhaodd i chwarae o dro i dro i glwb Cymry Llundain. Yn 1909, priododd [â] Winifred Farrant. Yn yr un flwyddyn ymunodd â'r Fyddin fel caplan. Cafodd ei anfon i’r Sefydliad Eglwysig yn Bengal, yn Esgobaeth Calcutta. Gwasanaethodd yn gyntaf yn Karachi ac yna yn Lahore. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth yn uwch-gaplan i Lu Maes Waziristan ar y ffin gogledd-orllewinol. Ar ddiwedd y rhyfel, treuliodd dwy flynedd ar ffyrlo yn ôl ym Mhrydain. Dychwelodd i India yn 1922 fel caplan Lahore, yna Multan ac yn olaf Dalhousie. Roedd yn parhau i fod yn frwd iawn dros chwaraeon drwy gydol y cyfnod hwn a daeth yn adnabyddus am drefnu cystadlaethau rhyng-gatrodol mewn rygbi, hoci a phêl-droed. 

Gadawodd Strand-Jones y fyddin yn 1929. Ar ôl dychwelyd adref, gwasanaethodd fel rheithor Hanwood, ar gyrion Amwythig, nes 1934. Roedd hefyd yn gaplan yng Ngharchar Amwythig rhwng 1930 ac 1934.  

Ar ôl ymddeol, dychwelodd Strand-Jones i ganolbarth Cymru; bu’n ffermio gyda’i deulu ar fferm Pyllaucrynion ym Mharc-y-rhos, ar gyrion Llanbedr Pont Steffan. Pan ail-sefydlwyd clwb rygbi'r dref ar ôl yr Ail Ryfel Byd, Strand-Jones oedd y cadeirydd rhwng 1947 ac 1948. Bu farw yn Llanbedr Pont Steffan ar 3 Ebrill 1958. Yn 1960, dywedodd ei gyd-chwaraewr R. T. Gabe ohono 'Byddaf yn gwerthfawrogi ei fywyd am byth, gan ei fod wastad yn ddibynadwy ar y cae, ac yn fonheddwr gyda theimladau caredig ac egwyddorion uchel oddi ar y cae.'  

Ffynonellau

Rev. J. Strand-Jones. (1958, Ebrill 10).Times, t. 13. Cyrchwyd ohttps://link-gale-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/apps/doc/CS218847882/TTDA?u=walamp&sid=TTDA&xid=3c7ef78b

Ancestry. (2020). Cyrchwyd ohttps://search.ancestrylibraryedition.co.uk

Militarian: military history form. (2014). John Jones: rugby player. Cyrchwyd ar 12 Mehefin, 2020, o www.militarian.com/threads/john-jones-rugby-player.8713/ 

Why Strand-Jones was rejected (1903, Mawrth 6). Evening express, t. 3. Cyrchwyd o https://newspapers.library.wales/view/4132121/4132124/52/strand-jones 

John Strand-Jones. (2019, Medi 26). Yn Wicipedia. https://cy.wikipedia.org/wiki/John_Strand-Jones 

Pierce, D., Jenkins, J.M. ac Auty, T. (1991). Who’s who of Welsh international rugby players. Charlcombe Books. 

Walters, S. (2016). The fighting parsons: the role of St David’s College, Lampeter, in the early development of rugby football in Wales. Canolfan Peniarth