Roedd Chris Bendon yn fardd ac ef oedd sylfaenydd Spectrum Press.
Ganwyd Christopher Graham Bendon (1950–2011) yn Leeds; gadawodd Ogledd Lloegr yn 18 oed i fynd i weithio yn Llundain. Yna, yn 1977, ar ôl marwolaeth ei fam, ymddiswyddodd o swydd dda yn Swan Hellenic i fynd yn ôl i addysg amser llawn. Aeth i Goleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, lle y gwnaeth radd mewn Saesneg. Priododd Sue Moules, y llenor a chydfyfyriwr yn Llanbedr Pont Steffan, yn 1979. Parhaodd ef a Sue i fyw yn Llanbedr Pont Steffan, a chawsant ferch, Cara.
Ymroddodd Bendon ei hun yn llwyr i fywyd coleg. Roedd yn llywydd ar y New Rhymers Club, ac yn trefnu digwyddiadau diwylliannol amser cinio yn ogystal â darlleniadau barddoniaeth. Roedd y beirdd a ddaeth â nhw draw i Lanbedr Pont Steffan yn cynnwys Ted Hughes ac Andrew Motion. Roedd Bendon yn gadeirydd brwdfrydig i'r ‘Rag’ yn 1978. Gwnaeth drefnu teithiau bws mini i werthu cylchgronau’r Rag yn Abertawe a Chaerdydd, a chafodd nwyddau, gan gynnwys llyfrau nodiadau a llyfrau cyfeiriadau, eu cynhyrchu ochr yn ochr â'r digwyddiadau a chylchgronau traddodiadol. Ef oedd â record y coleg am faint o arian a godwyd; mewn cydnabyddiaeth o'i gyflawniad, dyfarnwyd aelodaeth gydol oes yn Undeb y Myfyrwyr iddo. Fodd bynnag, effeithiodd yr holl weithgareddau codi arian ar ei astudiaethau; ni chyflawnodd y radd dosbarth cyntaf a oedd wedi'i rhagweld iddo.
Ynghyd â chydfyfyriwr israddedig, Norman Jope, sefydlodd Bendon gylchgrawn barddoniaeth, Outcrop. Yna, pan aeth Jope ag Outcrop yn ôl i Ddyfnaint ag ef, daeth Bendon yn un o bedwar sylfaenydd Spectrum Press. (Y rhai eraill a oedd yn rhan oedd ei wraig Sue Moules a dau fyfyriwr, Julian Ciepluch a Kenneth Livingstone.) Cynhyrchodd y wasg gylchgrawn newydd, .spectrum, yn ogystal â phamffledi. Mae Sue Moules yn ei chofio fel gwasg o waith llaw i raddau helaeth, yn llawn delfrydiaeth a dim llawer o arian. Y ganolfan olygyddol oedd ystafell flaen Bendon a Moules mewn fflat yn Heol yr Orsaf. Gan fod hyn cyn cyfrifiaduron, byddai Bendon yn teipio popeth; byddai Moules yn darllen proflenni ac yn ychwanegu enwau a theitlau gyda Letraset. Roedd y chwe chyhoeddiad a gynhyrchwyd yn cynnwys gwaith gan 101 o gyfranwyr, llawer ohonynt yn fyfyrwyr a oedd wedi cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf, ond rhai ohonynt yn llenorion proffesiynol. Golygai grant bach gan Gelf Gorllewin Cymru ar gyfer y cyhoeddiadau diweddarach y gellid talu ffi fach i gyfranwyr. Fodd bynnag, er y rhoddodd .spectrum le i Lanbedr Pont Steffan ar y map llenyddol, nid oedd erioed bwriad iddo bara am byth. Roedd y gwaith yn llafurus ac yn ddi-dâl; roedd cyfrifiaduron yn dod i'r amlwg ac roedd costau argraffu yn codi. Ochr yn ochr â hyn, roedd pamffledi .spectrum yn cynnwys gwaith newydd gan lenorion unigol. Roedd y pamffled cyntaf, a gyhoeddwyd yn 1982, yn cynnwys ‘At the End of the Bay’, drama gan Dic Edwards. Parhaodd y wasg i gynhyrchu pamffledi nes 1990.
Roedd Bendon wrth ei fodd yn ysgrifennu; cyhoeddodd 15 cyfrol o farddoniaeth drwy ei oes, gydag un arall ar y cam proflenni pan fu farw. Roedd ei bryderon llenyddol yn adlewyrchu ei brofiad o fywyd i gryn raddau – er enghraifft, cefndiroedd diwylliannol gwrthgyferbyniol y Gymraeg a'r Saesneg. Cafodd ei lyfr cyntaf, In Praise of Low Music (Outcrop Publications, 1981), ei ddilyn gan Software (Spectrum Press, 1984). Yn Constructions (Gomer, 1991), datgelodd ei awydd i blannu gwreiddiau yng Nghymru, ei wlad fabwysiedig. Roedd A Dyfed Quartet (Headland, 1992) yn archwilio islifoedd hanes economaidd-gymdeithasol Cymru, wrth i Bendon symud drwy dirwedd chwedlonol y wlad. Roedd ei farddoniaeth gynnar yn delynegol a bugeiliol; daeth ei waith diweddarach yn fwy avant-garde. Cafodd ei lyfrau diweddarach Jewry (1995), Crossover: a Play on Words or Libretto for an Imaginary Opera (1996) a Novella (1997) eu cyhoeddi gan Poetry Salzburg. Yn ei ddrama gyhoeddedig gyntaf, Crossover, mae'r ddau brif gymeriad ‘English Peter’ a ‘Welsh Pedr’ yn cynrychioli Bendon ei hunan. Mae Peter yn saer coed sydd eisiau bod yn fardd; mae Pedr yn fardd a fyddai wedi hoffi bod yn gyfansoddwr. Yn dilyn diwedd priodas y ddau ohonynt, mae'r ddau ddyn yn cael gwyliau pererindod mewn cyfeiriadau gwahanol. Mae Pedr yn mynd i Loegr, a Peter i Gymru.
Mae gwaith Bendon wedi cael ei ddisgrifio fel dysgedig, ond dynol o hyd. Cafodd ei ddisgrifio gan Robert Minhinnick, cyn-olygydd Poetry Wales, fel ‘dyfeisgar a dewr’; yn ôl barn Poetry Review, roedd yn ‘egnïol, trawiadol a gwreiddiol’. Dyfarnwyd Tlws Coffa Hugh MacDiarmid i Bendon yn 1988 a Gwobr Cystadleuaeth Barddoniaeth The Guardian / WWF yn 1989.
Cafodd Bendon ddiagnosis o ganser yn haf 2011 ac, yn drist, bu farw ychydig fisoedd yn ddiweddarach ar 1 Tachwedd 2011. Mae ei bapurau, gan gynnwys teipysgrifau o'i farddoniaeth, cerddi heb eu cyhoeddi, dyddiaduron, a chasgliad o gylchgronau ac antholegau, wedi'u storio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae ei ferch Cara wedi gosod mainc goffa er cof amdano ger afon Dulas, ar gampws Llanbedr Pont Steffan, sef lle yr oeddent yn treulio amser gyda'i gilydd yn aml yn ystod ei phlentyndod.
Ffynonellau
Llyfrgell Genedlaethol Cymru (d.d.). ‘Fonds GB 0210 CHRDON – Chris Bendon Papers’. Cyrchwyd ar 6 Hydref 2020 o https://archives.library.wales/index.php/chris-bendon-papers-2
Bendon, C. a Moules, S. (2012). ‘Chris Bendon 1950-2011’. The Link, 65, 9. Cyrchwyd ar 6 Hydref 2020 o http://www.sdtcom.co.uk/Link/Link%202012.pdf
Moules, S. (2013). ‘Spectrum Press’. The Lampeter Review, 7, 141–143. Cyrchwyd ar 6 Hydref 2020 o http://www.lampeter-review.com/issues/tlr_issue_7.pdf
International Who’s Who Poetry. 13eg argraffiad. (2005). Llundain: Europa Publications. Cyrchwyd ar 6 Hydref 2020 o https://books.google.co.uk/books?id=mAY2Ja6t6eAC&printsec=frontcover&dq=international+who%27s+who+in+poetry+2005&hl=en&sa=X&ved=2ahUKEwiXmJzui6DsAhXDi1wKHbVMBU4Q6AEwAHoECAUQAg#v=onepage&q=international%20who's%20who%20in%20poetry%202005&f=false
Bendon, C. (2012). ‘Travel-Log Project’. Cyrchwyd ar 6 Hydref 2020 o https://projectravellog.wordpress.com/
Bendon, C. (1996). Crossover: a play on words or libretto for an imaginary opera. Salzburg: Prifysgol Salzburg
Llun:
Chris Bendon, hawlfraint y ddelwedd: Cara Bendon