Ysgrifennodd Fred Secombe (31 Rhagfyr 1918 - 8 Rhagfyr 2016) ddeg nofel ddigrif, yn seiliedig ar ei brofiad fel clerigwr yn gweithio yn Ne Cymru.
Roedd Frederick Thomas Secombe yn dod o Abertawe; roedd ei deulu'n byw yn Mynydd Cilfái. Ef oedd yr hynaf o bedwar plentyn Frederick Ernest Secombe, teithiwr masnachol i'r cyfanwerthwr nwyddau Walters and Batchelors, a'i wraig Nellie Jane Gladys née Davies. Ei ddwy chwaer oedd Joan, a fu farw yn bedair oed o beritonitis, a Carol. Enillodd Harry, brawd iau Fred, enwogrwydd cenedlaethol fel aelod o’r ‘Goons’ , ac yn ddiweddarach fel cyflwynydd Highway a Songs of Praise.Nid oedd gan y teulu lawer o arian erioed; byddai eu tad yn ychwanegu at ei incwm trwy gystadlu mewn cystadlaethau cartŵn yn y South Wales Evening Post. Mynychodd y teulu eglwys blwyf Sant Thomas, Abertawe, ar waelod eu stryd. Byddai Fred a Harry yn mynd yno bedair gwaith bob dydd Sul, (cymundeb 8 o’r gloch, gwasanaeth 11 o’r gloch, yr ysgol Sul yn y prynhawn ac yna’r hwyrol weddi). Yn 12 oed, clywodd Fred bregeth benodol gan genhadwr; penderfynodd ar yr adeg honno y byddai’n dod yn glerigiwr.
Astudiodd Fred yn Ysgol Babanod Sant Thomas ac yna Ysgol Dynefwr, Abertawe. Wrth edrych yn ôl ar ei amser yn yr ysgol uwchradd, dywedodd ei frawd Harry '…roedd fy mrawd hefyd yn ddisgybl safon 'A', ac roedd pob meistr yn fy atgoffa o’r ffaith ei fod wedi gwneud yn dda iawn.' Aeth Fred ymlaen i astudio yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Ar ôl cael ei ordeinio, roedd ei swydd gyntaf fel caplan yn Ysbyty Sant Gwynllyw, Casnewydd, rhwng 1949 ac 1952. Yna cafodd gyfres o swyddi yn Ne Cymru. Roedd yn ficer Llan-arth gyda Cleidda, Llansanffraid a Bryngwyn (1952-1954), rheithor Machen gyda Rhydri (1954-1959) ac yn ficer Eglwys Sant Peter, Y Cocyd, Abertawe (1959-1969). Ar ôl hyn, symudodd i Lundain, gan weithio fel rheithor yn Eglwys y Santes Fair, Hanwell (1969-1983) a deon gwledig gorllewin Ealing (1978-1982). Ei swydd olaf oedd canon mygedol Eglwys Gadeiriol Sant Paul (1981-1983). Ar ôl ymddeol, symudodd yn ôl i Gaerdydd.
Ysgrifennodd Fred hefyd ddeg o nofelau hunangofiannol digrif yn seiliedig ar ei brofiad fel clerigwr yn Ne Cymru. Dywedwyd amdano, 'Mae Fred Secombe i'r clerigwyr fel James Herriot i filfeddygon a Dr Finlay i'r proffesiwn meddygol.' Roedd llyfrau Fred yn cynnwys How green was my curate (1989), A curate for all seasons (1990) ac A comedy of clerical errors (1995). Mae'r straeon yn dechrau ychydig ar ôl yr Ail Ryfel Byd; mae’r cymeriad canolog eisoes wedi mynychu coleg diwinyddol yn ninas gadeiriol Dewi Sant, ar ôl i adeiladau’r coleg yng Nghaerdydd gael eu dinistrio gan ffrwydryn tir Mae'n cael swydd fel curad yn nhref Pontywen, yng nghymoedd de Cymru. Dywedir bod gan Pontywen boblogaeth o chwe mil, gyda phwll glo a gwaith dur ar ei gyrion. Yn un o'i wasanaethau cyntaf, mae Secombe yn baglu dros ei gasog ac mewn ymgais i osgoi cwympo, mae'n llwyddo i daro llyfr gweddi’r ddarllenfa ar y llawr. Yn ddiweddarach, yn un o’r digwyddiadau mwyaf doniol, mae’n mynd yn sownd yng ngwaelod twb bath ei letywraig, sydd newydd gael ei baentio. Yn y diwedd, mae'n priodi Eleanor, y meddyg benywaidd sy'n ei drin. Ar ôl gadael Pontywen, daw'n ficer Abergelly, plwyf diwydiannol mawr yng nghymoedd Gorllewin Sir Fynwy. Ymhen amser, mae hefyd yn cael ei benodi'n ddeon gwledig.
Roedd Fred yn un hoff iawn o Gilbert a Sullivan, a sefydlodd gymdeithasau operatig amatur yn yr eglwys trwy gydol ei weinidogaeth i wreiddio ei eglwysi yn eu cymunedau. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Operatig Amatur Y Cocyd yn 1962, (a elwid yn wreiddiol yn Gymdeithas Gilbert a Sullivan Eglwys y Cocyd). Nid yw'n syndod ei fod yn cael ei adnabod fel siaradwr ffraeth mewn ciniawau. Yn ei ysgrif goffa yn y South Wales Evening Post, dywedodd Colin Paton, ‘Roedd yn ficer da. Trefnodd y plwyf yn dda iawn. Bu’n allweddol wrth ffurfio dwy eglwys newydd yn y plwyf, Sant Teilo yng Nghaereithin a Sant Deiniol yn Blaenymaes. Roedd yn gymeriad dymunol a siriol iawn.’
Wrth ysgrifennu yn The Link, cofiodd Richard Fenwick, ‘Ond roedd yn ddyn hynod iawn - ac yn ei ffordd, yn llawer mwy doniol na Harry. Roedd yn ddyn gwych – ac yn gwmni rhyfeddol. Ac mewn sawl ffordd, efallai mai ef oedd awen Harry, fel ei frawd hynaf. Roedd ganddo gariad go iawn at hiwmor gwirion - a gallwch weld hynny mewn sawl lle yn ei lyfrau…’
Ffynonellau
Barker, D. (2011, 6 Ionawr). Secombe, Sir Harry Donald (1921–2001), entertainer. Oxford Dictionary of National Biography. https://www-oxforddnb-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-75800. [Cafwyd mynediad ar 17 Ebrill 2020]
Rev.Fred The Link. Mawrth 2017. https://www.uwtsd.ac.uk/media/uwtsd-website/content-assets/images/news-and-events/2017-2/Lampeter-LINK-Darren-(1)-(1).pdf. [Cyrchwyd ar 17 Ebrill 2020]
Tributes to ‘father figure’ Secombe. South Wales Evening Post. 13 Rhagfyr, 2016. https://infoweb-newsbank-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/resources/doc/nb/news/1613C562195D4D28?p=UKNB. [Cyrchwyd ar 17 Ebrill 2020]
Wales online. (2019). The vanished Swansea school with quite a remarkable list of former pupils. https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/vanished-swansea-school-quite-remarkable-15789966 [Cyrchwyd ar 20 April 2020]
Secombe, H. (1989). Arias & raspberries. The autobiography of Harry Secombe. Vol. 1, ‘The raspberry years.’ London: Robson Books
Secombe, F. (1997). Chronicles of a curate. How green was my curate. A curate for all seasons. Goodbye curate. London: Fount Paperbacks
Secombe, F. (1994). Hello, vicar! London: Fount Paperbacks
Secombe, F. (2001). More chronicles of a vicar. Pastures new. The changing scenes of life. Mister Rural Dean. Harrow: Zondervan