A | B | C | D | E | F | G | H | I | J | K |L | M | N | O | P | Q | R |S | T | U | V | W | X | Y | Z
B
Parcell Rees Bowen
Ganwyd Parcell Rees Bowen yn Llangain, Sir Gaerfyrddin, ar Orffennaf 22 1893. Wedi derbyn ei addysg yn Ysgol Ramadeg Caerfyrddin, ymgofrestrodd yng Ngholeg Dewi Sant ym mis Hydref 1912. Gwnaeth Bowen, a gafodd y llysenw ‘Plancio’ pan oedd yno, chwarae rhan weithredol ym mywyd chwaraeon y coleg. Yn flaenorol, wedi chwarae rygbi i’r ‘Carmarthen Quins’, ymunodd â thîm XV y Coleg yn 1913, gan geisio’n aflwyddiannus i gael ei benodi i’r swydd Ysgrifennydd Rygbi.
C
Reverend John Cawston
Caplan y Llynges Frenhinol, Caplan y Fflyd a Chaplan Anrhydeddus i’r Frenhines.
Austin Pugh Cook
Ganwyd Austin Pugh Cook yn 1893 yn Hwlffordd lle roedd ei rieni yn rhedeg siop lysiau a ffrwythau o gartref y teulu ar Stryd y Bont. Roedd Austin yn ddisgybl talentog ac ar ôl "gyrfa ysgolheigaidd o fri", aeth ymlaen i astudio'r Clasuron yng Ngholeg Dewi Sant.
D
John Charles Edmunds-Davies
Ganwyd John Edmunds-Davies yn Llanbedr Pont Steffan yn 1893 i Walter ac Agnes. Roedd yn unig blentyn, yn dilyn marwolaethau ei dri brawd a chwaer yn fabanod. Roedd Walter yn gymeriad lleol pwysig a oedd yn berchen ar siop ddefnydd ac yn 1911, gwasanaethodd fel Maer Llanbedr Pont Steffan. Derbyniodd John ei addysg yn Ysgol Coleg Dewi Sant, Coleg Aberhonddu ac Ysgol Sir Tywyn. Pan ddechreuodd y rhyfel, cofrestrwyd John yng Ngholeg Dewi Sant.
E
Reverend Ronald Edwards
Roedd Ronald Edwards (1914–1995) yn rhan o frwydr Monte Cassino fel caplan yn y fyddin. Dyfarnwyd Gorchymyn Gwasanaeth Nodedig iddo am ei ddewrder wrth achub dynion a oedd wedi’u clwyfo.
Reverend Walter Evans
Gweithiodd Walter Evans (1916-2007) fel caplan yn y fyddin am bron deugain mlynedd, gan wasanaethu yng Ngogledd Affrica, yr Eidal, Gwlad Belg, yr Almaen, Malaia, Singapore, Cenia ac Oman. Gelwid wrth ei lysenw ‘Evans above’, a gwnaeth weithio bron ym mhob math o swydd a oedd gan gaplaniaeth y fyddin ei chynnig.
J
John Stanley Jenkins
Ganwyd John Stanley Jenkins yn Paddington, Llundain, yn 1896, i rieni a anwyd yng Nghymru, Mary a David. Bu farw Mary pan oedd John yn fachgen ifanc, a phan briododd David am yr ail waith, cafodd John bum sibling. Erbyn 1911, roedd ‘Johnny’ yn byw gyda pherthnasau yn Llambed. Roedd ei fodryb yn gweithio i fusnes ffrwythwr ac roedd ei ewythr David, a anwyd yn Llambed, yn gweithio fel ‘Sgowt y Coleg’.
Reverend Thomas Glasfryn Jones
Ganwyd Thomas Glasfryn Jones yn 1884 yn Llangeitho, saith milltir i’r gogledd o Lambed. Ef oedd trydydd plentyn John a Mary Jones; ei fam oedd merch Lewis Davies, saer coed yn Llambed, ac roedd ei dad yn saer maen.
L
Leonard Glynne Lewis
Ganwyd Thomas Glasfryn Jones yn 1884 yn Llangeitho, saith milltir i’r gogledd o Lambed. Ef oedd trydydd plentyn John a Mary Jones; ei fam oedd merch Lewis Davies, saer coed yn Llambed, ac roedd ei dad yn saer maen.
Reverend Brian Lucas
Magwyd Brian Lucas ym Mhort Talbot, De Cymru, gyda theulu estynedig o’i gwmpas, ac mewn tŷ a oedd ‘bob amser yn llawn chwerthin’. Daeth i Goleg Dewi Sant yn 1959 a gwnaeth ef hollol ymdrochi ei hun ym mywyd y coleg. Ymunodd â’r Gymdeithas Ddrama a chafodd ei ethol fel cynrychiolydd y coleg ar Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, gan ddod yn un o gyfarwyddwyr Gownsman Publications, cwmni cyfyngedig a oedd yn gweinyddu cylchgrawn y coleg.
M
Charles Herbert Morris
Ganwyd Charles Herbert Morris yn Y Trallwng yn 1892; ef oedd yr ieuaf o ddau ar bymtheg o blant a anwyd i William a Jane Morris. Roedd y rhan fwyaf o aelodau’r teulu Morris yn gweithio i’r diwydiant dillad lleol, ac yn cael eu cyflogi naill ai fel dilledyddion, gwniyddesau neu hetwyr.
S
Reverend Fred Seaton Smith
Ganwyd Frederick ‘Fred’ Seaton Smith ym Monkseaton yn Northumberland yn fab i Frank a Mary Smith. Cofnodir galwedigaeth Smith fel perchennog planhigfa goffi. Roedd Fred wedi bod yn breswylydd yn Ysgol San Pedr yn Efrog cyn iddo gofrestru yng Ngholeg Dewi Sant yn 1910. Fel chwaraewr brwd, chwaraeodd Fred ar gyfer tîm Criced 1af XI, Rygbi 2il XV a'r tîm hoci. Roedd hefyd yn gapten y clwb tenis.
Y Parchedig Thomas James Stretch
Caplan gyda’r Fyddin a oedd yn bresennol pan ryddhawyd carcharorion gwersyll-garchar Bergen-Belsen
W
Yr Is-lyngesydd Peter Wilkinson CB, CVO
Mae Peter Wilkinson yn swyddog y llynges, a gododd i fod yn Ddirprwy Bennaeth y Staff Amddiffyn, yn ogystal â Llywydd Cenedlaethol y Lleng Brydeinig Frenhinol.
Y Brigadydd A P Williams OBE – Y Gatrawd Fersiaidd Gynt
Magwyd Andrew Williams yng Nghaerloyw cyn ymgofrestru yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant yn 1980 i astudio daearyddiaeth. Roedd yn hoff iawn o bellenigrwydd Llambed. Oherwydd y bu’n byw yn Esgairdawe, yn aml, byddai’n rhedeg y nifer mawr o filltiroedd yn ôl ac ymlaen i’r Coleg er mwyn cynnal ei astudiaethau.