Fred Seaton Smith

Ganwyd Frederick ‘Fred’ Seaton Smith ym Monkseaton yn Northumberland yn fab i Frank a Mary Smith. Cofnodir galwedigaeth Smith fel perchennog planhigfa goffi. Roedd Fred wedi bod yn breswylydd yn Ysgol San Pedr yn Efrog cyn iddo gofrestru yng Ngholeg Dewi Sant yn 1910. Fel chwaraewr brwd, chwaraeodd Fred ar gyfer tîm Criced 1af XI, Rygbi 2il XV a'r tîm hoci. Roedd hefyd yn gapten y clwb tenis.

Yn ystod gwyliau'r Pasg yn 1911, priododd Fred â Martha Lilian Boyden, yr oedd ei thad, sef John Augustus Charles Boyden, yn fferyllydd a chemegydd ac yn feistr cyntaf Beacon Lodge yn Pocklington, yn yr East Riding yn Swydd Efrog. Yn fuan ar ôl iddo briodi, cafodd gyrfa academaidd Fred ei hatal pan, ym mis Mehefin 1911, cafodd ef a   ‘chyd-droseddwr’ eu gorfodi i adael y coleg am gyfnod o ddeuddeg mis am dorri i mewn i ystafell myfyriwr ac achosi difrod, digwyddiad a elwir yn ‘codi stŵr’. Achosodd difrifoldeb y gosb anghytuno ymhlith y corff myfyrwyr ehangach ac, yn herfeiddiol o awdurdodau'r coleg, cludwyd y pâr euog ar ysgwyddau eu cyd-fyfyrwyr mewn gorymdaith fawreddog tuag at yr orsaf reilffordd, lle dechreuasant eu cyfnod alltudiaeth. Arweiniodd hyn at gosbau pellach yn cael eu rhoi i'r myfyrwyr a oedd wedi cymryd rhan yn yr orymdaith. Ymddangosodd y stori mewn papurau newyddion lleol ac argraffwyd cardiau post o'r olygfa fel cofroddion. 

Ar ôl iddo ddychwelyd i Lanbedr Pont Steffan yn 1912, roedd Fred yn y papurau newyddion lleol eto, y tro hwn fel un o grŵp o chwe myfyriwr a gyhuddwyd o ymosod ar gyd-fyfyriwr yn ystod dadl frwd a oedd yn ymwneud â datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru. Pan ddaeth yr achos i'r llys, gwrthodwyd y cyhuddiadau a gwnaed i'r achwynydd dalu'r costau, ond roedd y stori yn y papurau am wythnosau. Pan adawodd Fred Llanbedr Pont Steffan gyda gradd trydydd dosbarth yn 1913, roedd yn sicr wedi gadael ei farc ar y coleg. 

Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cafodd ei ordeinio i guradiaeth St John yn Bradford ac yn 1916, ymgymerodd â rôl guradiaeth yn Eglwys All Saint's, Leeds. Ar gyfer y rhan fwyaf o gyfnod y rhyfel, arhosodd Fred yn was sifil, ond, ar ddechrau 1918, ymunodd ag Adran Gaplaniaid y Fyddin ac roedd yn rhan o Fataliwn 13, catrawdau Efrog a Chaerhirfryn, sef y 1st Barnsley Pals. 

Roedd y Bataliwn yn rhan o Frigâd 94, Adran 31 a welodd ymladd mawr ac a ddioddefodd glwyfedigion difrifol yn ystod tramgwyddiad yr Almaen ar 21 Mawrth 1918. Symudodd yr Adran i Flanders i orffwys, ond cawsant eu dal mewn ymosodiad gan yr Almaen lle y gwnaethant chwarae rhan yn Amddiffyniad Coedwig Nieppe. Yn dilyn hyn, symudon nhw i Ypres ac roeddent yn rhan o Weithred Tieghem. Anafwyd Fred yn Ypres yn ystod diwrnodau olaf y rhyfel ac er iddo gael ei symud i'r ysbyty yn Wilmile i gael triniaeth, bu farw o'i anafiadau ar 15 Tachwedd 1918, bedwar diwrnod ar ôl i'r Cadoediad lofnodi. Roedd yn 31 oed. 

Claddwyd Fred ym Mynwent Brydeinig Terlincthun, Wimille, yn Ffrainc, ac mae'r arysgrifiad hwn ar garreg ei fedd: 

“Death both hide but not divide Thou art but on Christ’s to other side” 

Mae Fred yn cael ei goffáu ar Gofgolofn Rhyfel Ysgol San Pedr yn Efrog ac ar restr gwroniaid y coleg. 

Ffynhonnell: 

Roberts, S. (2018). 1918-2018 A Commemoration. Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.